Nodiadau adolygu gan yr Athro Gwyn Thomas ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio'r Gymraeg fel pwnc Safon Uwch; llawlyfr adolygu perffaith cyfle i ddod yn gyfarwydd gyda rhai o dermau astudio llen llafar a llen gwerin.
Dyma astudiaeth gynhwysfawr o'r themu, astudiaeth o'r cymeriadau ar gyfer astudio'r chwedlau, gwybodaeth ffeithiol a dadansoddiad treiddgar gan arbenigwr yn y maes.
Mwy o wybodaeth
Dyma ddrama afaelgar am sefyllfa ddirdynnol tri ffrind 16 oed sy'n ceisio dygymod a'u bywydau gwahanol.
Dyw Elin ddim yn ffitio i mewn. Mae hi'n wahanol i'w mam a'i thad parchus, dosbarth canol; mae hi'n wahanol i Rhys, ei ffrind cydwybodol. Ond gyda Wes, mae pethau'n wahanol.
Fersiwn Saesneg hefyd ar gael.
Mwy o wybodaeth
Llyfr i gefnogi plant cynradd gyda'u sgiliau lluosi a rhannu.
Llyfr i fagu hyder ac i atgyfnerthu eu dealltwriaeth o sgiliau sylfaenol Rhifedd, yn arbennig elfennau Lluosi a Rhannu ar gyfer plant cynradd. Cynhwysir sticeri i'w gludo sy'n helpu'r plentyn i feithrin sgiliau adnabod a deall, ac mae is-destun Saesneg yn galluogi rhieni di-Gymraeg i helpu eu plant.
Addas i blant 6-8 oed.
Gair o eglurhad!
Mae rhai o’r staplau ar y llyfr hwn yn dangos olion tarneisio ar y clawr allanol yn unig. Mae’r tudalennau mewnol a’r cynnwys heb eu heffeithio. Rydym felly wedi gostwng y pris i adlewyrchu hynny sef o £3.99 i £2.99. Gan ei bod yn gyfres mor boblogaidd rydym yn parhau i gynnig y llyfr o fewn ein rhestr o gyhoeddiadau addysgol.
Regular Price: £3.99
Pris Arbennig £2.99
Dyma lyfr cwrs cynhwysfawr a hyblyg ar gyfer myfyrwyr Astudiaethau Busnes sy'n dilyn cyrsiau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch a gwahanol gyrsiau proffesiynol.
Mae Astudiaethau Busnes Cyfrol 2 wedi'i drefnu'n unedau, gyda phob uned yn canolbwyntio ar bwnc penodol. Mae'r unedau'n cynnwys triniaeth gynhwysfawr o'r pwnc dan sylw ynghyd â chynnwys diagramau lliw llawn i gynorthwyo'r egluro. Ar ddiwedd Cyfrol 2 mae unedau ar gasglu, cyflwyno a dadansoddi data, ac arweiniad ynghylch astudio effeithiol ac asesu.
Mwy o wybodaeth