Llyfr stori a llun gwreiddiol, sy’n dilyn Michewa, merch 7 oed. Un diwrnod i brofi ei hun i’w thad (sy’n Dywysydd Mynydd llwyddiannus) mae hi’n mynd ati i ddringo’r ‘Mynydd Unig’ ger ei phentref coedwig yn Tibet. Mae’r mynydd penodol hwn wedi’i orchuddio â dirgelwch a pherygl. Fodd bynnag, mae hi’n benderfynol o ddringo’r mynydd ac yn llenwi ei bag gydag eitemau hanfodol a llinyn o fflagiau gweddi y mae’n bwriadu eu gosod ar y copa. Pan ddaw eirlithriad, storm a chwymp eira, datgelir cyfrinach yn y lluniau sy’n ei hachub bob tro ac yn y pen draw yn ei dychwelyd i ymyl y goedwig.
Stori syml yw hon sy’n cyflwyno emosiynau fel unigedd, edifarhad a rhyddhad ynghyd â nodweddion amgylcheddol a chyfeiriadau diwylliannol newydd, gan greu antur gyffrous sy’n procio’r meddwl.
Two plays by the acclaimed playwright Siôn Eirian inspired by Blodeuwedd and Siwan by the renowned Welsh language dramatist, Saunders Lewis.
Mwy o wybodaeth
Un mewn cyfres o 6 llyfr ffeithiol a chyfoes ar gyferdisgyblion 10 i 14 oed.Cyfres sy'n cyflwyno ffeithiau mewn ffordd anffurfiol,darllenadwy a difyr.
Mae'r llyfr hwn yn canolbwyntio ar anifeiliaid sydd mewnperygl am resymau gwahanol.Mae'r gyfres yn ffocysu ar themu amrywiol o ddiddordeb ibobl ifanc megis y we a thechnoleg digidol, yr amgylchedd, mentro, pwyso amesur ac enwogrwydd.
Mwy o wybodaeth
Geiriadur sy'n cyflwyno pump iaith i'r plentyn; Cymraeg, Saesneg, Sbaeneg, Ffrangeg ac Almaeneg.
Wrth ddefnyddio lluniau fel sbardun, mae'r llyfr yn defnyddio cof gweledol y plentyn i addysgu'r ieithoedd mewn ffordd syml ac effeithiol. Mae'r tudalennau yn ymwneud â themau defnyddiol megis y teulu, bwyd, yr ysgol ac ati er mwyn sicrhau bod y plentyn yn dysgu geiriau defnyddiol.
Mwy o wybodaeth