Stori llawn hiwmor am arth wen sy'n byw ym Mhegwn y Gogledd ac sy'n hoff o nofio, pysgota, bwyta a chysgu.
Ond un diwrnod, mae hi'n syrthio i gysgu ac yn deffro ym mhell bell o adre. Dydy pethau erioed wedi bod cynddrwg.
Ond maen nhw ar fin mynd yn waeth ... yn waeth o lawer!
Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!
Stori hyfryd am berthynas anarferol a chynnes am gyfeillgarwch.
Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o Goose's Cake Bake gan Laura Wall.
Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!
Addasiad Cymraeg Eurig Salisbury o The Creature Choir gan David Walliams. Stori ryfeddol am Walrws sydd wrth ei bodd yn canu. Yn anffodus, nid yw hi'n dda iawn! A phan mae ei chanu erchyll yn achosi eirlithriad mae'r morfilod eraill yn troi eu cefnau arni. Ond pan fyddwch chi'n canu fel pe na bai unrhyw un yn gwrando, weithiau maen nhw'n dechrau eich clywed chi...
Mwy o wybodaeth
Addasiad o Hugless Douglas Plays Hide and Seek gan David Melling.
Mae Douglas a’i ffrindiau yn chwarae eu hoff gem – cuddio! Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn mynd ar goll wrth chwarae cuddio?
Mwy o wybodaeth
Diweddariad o lyfr bwrdd Geiriau, Lliwiau, Siapiau yng nghyfres 100.
Llyfr bwrdd cadarn sy'n cyflwyno geiriau, lliwiau a siapiau i blant ifanc.
Mwy o wybodaeth
Addasiad o Grandpa Christmas gan Michael Morpurgo (darluniau gan Jim Field).
Bob Nadolig, mae Mia a’i theulu yn darllen llythyr oddi wrth Taid. Ynddo, mae Taid yn dymuno cael byd gwell i Mia. Mae’n cofio’r hwyl gawson nhw yn yr ardd gyda’r llyffantod a’r pryfed genwair ac yn plannu hadau. Ond mae Taid yn poeni am y pethau hyn. Mae’n poeni eu bod nhw mewn perygl, ac mae eisiau help Mia i ofalu amdanyn nhw.
Addasiad o Geronimo, llyfr stori a llun gan David Walliams (darluniau gan Tony Ross).
Mae Jeronimo yn bengwin bach sy’n ysu am gael hedfan. Gyda help llaw ei ffrindiau, mae’r pengwin bach yn darganfod fod unrhywbeth yn bosib!
Mwy o wybodaeth
Mae tyrau'r ddinas uchel yn tyfu'n uwch ac yn uwch bob dydd. Mae pawb yn gweithio ddydd a nos i adeiladu'r tŵr uchaf un. Pawb ond Petra.
Argraffiad dwyieithog o'n llyfr poblogaidd, Y Ddinas Uchel
Casgliad gwerthfawr o weithgareddau a phosau Mathemateg ar gyfer plant 6-11 oed yn bennaf.
Llyfr dwyieithog y gellir ei lungopïo a'i ddefnyddio yn yr ysgol dan arweiniad athro neu yn y cartref gyda rhiant/gwarchodwr. Mae'r gweithgareddau yn gyfle i blant arbrofi gyda syniadau mathemategol newydd.
Mwy o wybodaeth