Addasiad Cymraeg Mared Llwyd o Sweet Pizza gan G. R. Gemin.
Dyma stori Jo, bachgen o dras Eidalaidd sy’n byw yng Nghymru ac wrth ei fodd gyda’r iaith Eidaleg, y gerddoriaeth a’r lasagne!
Mwy o wybodaethRegular Price: £7.99
Pris Arbennig £4.00
Addasiad Cymraeg gan Mared Llwyd o The Midnight Gang gan David Walliams.
Canol nos yw’r adeg pan mae’r rhan fwyaf o blant yn cysgu’n sownd. Pawb, wrth gwrs, heblaw’r Criw Canol Nos! Megis dechrau mae eu hanturiaethau nhw bryd hynny...
Mwy o wybodaeth
Stori am TRIO, grŵp o ffrindiau sy'n caru antur ac sy'n benderfynol o achub y byd - wel, Cymru o leia'!
Mae TRIO yn cael mynd ar drip i Gaerdydd i weld sioe. Ond O, mam bach! Mae rhywun wedi newid yr ysgrifen ar Ganolfan y Mileniwm! Mae hon yn antur berffaith i TRIO, y triawd mwyaf dwl yng Nghymru!
Y nofel gyntaf yng nghyfres newydd Manon Steffan Ros gyda lluniau gan Huw Aaron!
Mwy o wybodaeth
Stori am TRIO, grŵp o ffrindiau sy'n caru antur ac sy'n benderfynol o achub y byd - wel, Cymru o leia'!
Mae rhywun yn bwriadu dymchwel Castell Caernarfon a’i droi yn fwyty enfawr! Gwaith TRIO yw darbwyllo’r perchennog newydd i adael llonydd i’r castell, ond mae hynny’n fwy anodd na mae o’n swnio!
Yr ail nofel yng nghyfres newydd Manon Steffan Ros gyda lluniau gan Huw Aaron!
Mwy o wybodaeth
Addasiad Mari George o Cowgirl gan G. R. Gemin.
Mae bywyd Gemma’n llanast. Mae ei mam yn grac, mae ei thad yn y carchar, mae ei brawd yn cymysgu â chriw amheus … Ac ar ben y cwbl i gyd, mae gan ei mam-gu fuwch yn yr iard gefn.
Mae Gemma’n gwybod bod cuddio gyr o wartheg o fferm y Ferch Wyllt ar stad o dai yn beth gwallgo i’w wneud. Wedi’r cyfan, mae’r Ferch Wyllt ychydig bach yn rhyfedd a dyw’r stad ddim yn lle delfrydol i gadw gwartheg. Ond mae’n hwyl ac mae’n gwneud i Gemma deimlo’n well – ac yn gwneud gwahaniaeth i’r stad a’i thrigolion. Y cwestiwn mawr yw, pa mor hir gall hyn barhau?
Mwy o wybodaeth
Mae’r gyfrol hon wedi’i chynllunio i ymateb yn llawn i fanylion manyleb Cyfrifiadureg CBAC. Bydd y gyfrol o help i chi feistroli prif egwyddorion a chysyniadau cyfrifiadureg. Mae’r cynnwys yn rhoi sylw ar feithrin eich sgiliau meddwl yn y maes a fydd yn ei dro yn eich helpu i feithrin eich sgiliau i ddatrys problemau. Bydd hefyd o help i chi ddeall cysyniadau mathemategol a dyluniad systemau.
• Adran arbennig dan y pennawd Cyfrifiadura – y cyd-destun, a fydd yn cynnig rhai ffeithiau diddorol i chi am hanes datblygiad cyfrifiadureg a sut mae’r cysyniadau hynny’n berthnasol i’r byd ehangach
• Trafod sefyllfaoedd cyfarwydd fydd yn eich helpu i weld sut mae cyfrifiadureg yn berthnasol i fywyd pob dydd
• Canllaw defnyddiol am wahanol fathau o feddalwedd a chod, yn ogystal â chynnig help llaw ar sut y gallwch osgoi rhai o’r camgymeriadau mwyaf cyffredin. Bydd y cyfan yn eich helpu i baratoi ar gyfer yr arholiad a chael canlyniadau llwyddiannus
• Unedau 1, 2, 3 a 4 i gyd wedi’u cynnwys o fewn un gyfrol
CRIW TRIO – clwb cyfrinachol newydd sbon AM DDIM i blant Cymru yn seiliedig ar Trio, ein cyfres o lyfrau gwreiddiol a doniol gan Manon Steffan Ros.
Ydych chi’n chwilio am antur? Yn caru Cymru? Eisiau achub y byd?
Wel, blant Cymru, dewch yn aelod o’n clwb newydd sbon ar gyfer holl ffans Clem Clyfar, Dilys Ddyfeisgar a Derec Dynamo – Criw Trio.
Bydd pecyn croeso arbennig yn y post i bob aelod, yn cynnwys cynigion unigryw, anrheg neu ddau ac ambell i syrpréis gan Clem, Dilys a Derec ...
I ddathlu cyhoeddi llyfr newydd Trio ac Antur yr Eisteddfod, bydd aelodau Criw Trio sy’n ymaelodi wythnos yma yn cael y cynnig cyntaf i gofrestru ar gyfer digwyddiad lansio arbennig iawn yn yr Eisteddfod AmGen – mwy o fanylion i ddod ddiwedd yr wythnos.
Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru fel aelod (am ddim!) anfonwch neges gydag enw ac oedran plentyn, cyfeiriad e-bost addas a chyfeiriad postio at trio@atebol.com
Cliciwch yma i ddarganfod mwy am anturiaethau Trio!
Addasiad Cymraeg o Rabbit & Bear: Pest in the Nest gan Julian Gough. Dyma’r ail lyfr mewn cyfres.
“LLONYDD A THAWELWCH,” gwaeddodd y Gwningen, “DYNA’R CYFAN DWI EISIAU.”
Rhwng chwyrnu ei ffrind, yr Arth, a sŵn CNOC, CNOC, CNOC ar frig y goeden, mae’r Gwningen yn gwybod bod yn Rhaid Gwneud Rhywbeth. Ond i fyny yn y canghennau, efallai y gall yr Arth ddangos i’r Gwningen sut i weld y byd mewn ffordd wahanol. Stori am gyfeillgarwch, doethineb a sut i fod yn SWNLLYD IAWN.
“Stori sy’n gwneud ichi chwerthin yn uchel.” NEIL GAIMAN
“Dylai hwn ddod yn glasur modern. Beiddgar, difyr a doniol.” EOIN COLFER
• Darluniau gwych gan Jim Field ar bob tudalen
• Mae hon yn stori am gyfeillgarwch, doethineb, a sut i fod yn SWNLLYD IAWN!
• Yn ddelfrydol ar gyfer darllenwyr sy’n symud ymlaen o lyfrau lluniau.
Cyfres o lyfrau ffeithiol sy'n cynnig cyfle i ddysgwyr 3-5 oed rannu a mwynhau darllen gyda'i gilydd. Bydd 5 pecyn (5 thema) ar gyfer yr oedran hwn. Ymhob pecyn, ceir:
• 36 llyfr darllen (6 theitl gwahanol – 3 haen is a 3 haen uwch; 6 chopi o bob un ohonyn nhw)
• 6 llyfr oedolyn (1 i gyd-fynd â phob llyfr darllen, gydag awgrymiadau am strategaethau darllen a gweithgareddau, a grid geiriau)
• Teitlau llyfrau darllen y pecyn hwn: Esgyrn; Llysiau Taid; Anifeiliaid o dan fy nhraed; Ffrindiau bach, bach; Tŷ newydd sbon; Twneli.
• Estyniad i gyfres bobologaidd y Gwybodyn.
• Bydd y pecynnau cynhwysfawr hyn yn meithrin a datblygu hoffter dysgwyr o ddarllen, yn gwella eu sgiliau siarad a gwrando, yn eu cyflwyno i wahanol themâu ac arddulliau ysgrifennu, ac yn eu hannog i chwilio am ragor o wybodaeth.
Mwy o wybodaeth