Mae’r gyfrol hon wedi’i chynllunio i ymateb yn llawn i fanylion manyleb Cyfrifiadureg CBAC. Bydd y gyfrol o help i chi feistroli prif egwyddorion a chysyniadau cyfrifiadureg. Mae’r cynnwys yn rhoi sylw ar feithrin eich sgiliau meddwl yn y maes a fydd yn ei dro yn eich helpu i feithrin eich sgiliau i ddatrys problemau. Bydd hefyd o help i chi ddeall cysyniadau mathemategol a dyluniad systemau.
• Adran arbennig dan y pennawd Cyfrifiadura – y cyd-destun, a fydd yn cynnig rhai ffeithiau diddorol i chi am hanes datblygiad cyfrifiadureg a sut mae’r cysyniadau hynny’n berthnasol i’r byd ehangach
• Trafod sefyllfaoedd cyfarwydd fydd yn eich helpu i weld sut mae cyfrifiadureg yn berthnasol i fywyd pob dydd
• Canllaw defnyddiol am wahanol fathau o feddalwedd a chod, yn ogystal â chynnig help llaw ar sut y gallwch osgoi rhai o’r camgymeriadau mwyaf cyffredin. Bydd y cyfan yn eich helpu i baratoi ar gyfer yr arholiad a chael canlyniadau llwyddiannus
• Unedau 1, 2, 3 a 4 i gyd wedi’u cynnwys o fewn un gyfrol
Cyfres o lyfrau ffeithiol sy'n cynnig cyfle i ddysgwyr 3-5 oed rannu a mwynhau darllen gyda'i gilydd. Bydd 5 pecyn (5 thema) ar gyfer yr oedran hwn. Ymhob pecyn, ceir:
• 36 llyfr darllen (6 theitl gwahanol – 3 haen is a 3 haen uwch; 6 chopi o bob un ohonyn nhw)
• 6 llyfr oedolyn (1 i gyd-fynd â phob llyfr darllen, gydag awgrymiadau am strategaethau darllen a gweithgareddau, a grid geiriau)
• Teitlau llyfrau darllen y pecyn hwn: Esgyrn; Llysiau Taid; Anifeiliaid o dan fy nhraed; Ffrindiau bach, bach; Tŷ newydd sbon; Twneli.
• Estyniad i gyfres bobologaidd y Gwybodyn.
• Bydd y pecynnau cynhwysfawr hyn yn meithrin a datblygu hoffter dysgwyr o ddarllen, yn gwella eu sgiliau siarad a gwrando, yn eu cyflwyno i wahanol themâu ac arddulliau ysgrifennu, ac yn eu hannog i chwilio am ragor o wybodaeth.
Mwy o wybodaeth
CYNNIG ARBENNIG
Mae'r 2 lyfr yma'n costio £6.99 yr un ond drwy eu prynu fel pecyn byddwch yn arbed £4!
2 lyfr yn cynnwys lluniau trawiadol a thestun rhyngweithiol sy'n odli. Cyfle gwych i gyffwrdd ac arbrofi gyda'r lluniau trawiadol a'r tudalennau defnydd meddal.
Gallwch eu golchi yn y peiriant golchi. 2 lyfr dwyieithog mewn bocs anrheg arbennig.
Regular Price: £14.00
Pris Arbennig £10.00
Addasiad Cymraeg o Pearson BTEC National Business – Student Book 2 ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio BTEC Busnes Diploma a’r Diploma Estynedig. Mae’r llyfr yn cefnogi’r myfyrwyr drwy’r holl unedau gorfodol ac ystod o’r unedau dewisol, yn eu plith: Busnes Rhyngwladol; Penderfyniadau Busnes; Egwyddorion Busnes; a Hyfforddiant a Datblygiad.
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg o Pearson BTEC National Business – Student Book 1 ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio BTEC Tystysgrif Busnes, Tystysgrif Estynedig a'r Diploma Sylfaenol. Mae'r llyfr yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr drwy'r holl unedau gorfodol ac ystod o'r unedau dewisol, yn eu plith: Archwilio Busnes; Datblygu Ymgyrch Farchnata; Rheoli Digwyddiad; ac Ymchwilio i Wasanaeth Cwsmeriaid.
Mwy o wybodaeth