COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

31-40 o 311

  1. Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Siop

    Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Siop

    Llyfrau ffuglen ar gyfer plant sy'n dysgu darllen Cymraeg fel ail iaith. Addas i'w defnyddio yn annibynnol neu mewn grwpiau. Stori syml am Moli a'i ffrind, Meg y gath, yn mynd am dro i siopa.

    *Mae dyluniad y clawr yn gallu amrywio yn unol â’r cyflenwad stoc.

    Mwy o wybodaeth
    £3.50

  2. Ti… / You…

    Ti… / You…

    Addasiad dwyieithog o You... gan Emma Dodd.

    “Rwy’n dy garu di i gyd,
    llygaid a thrwyn a chlustiau. Rwy’n dy garu di i gyd,
    o dy ben i flaen dy fodiau.”

    Mae’r awdur a’r darlunydd arobryn Emma Dodd yn mynd â ni ar daith trwy’r jyngl yn y rhandaliad hwn o’i chyfres llyfrau sotri a llun poblogaidd, lle rydyn ni’n dod o hyd i fwnci bach doniol sydd â rhywun sy’n ei garu fwy a mwy bob dydd.

    • Testun dwyieithog sy’n odli
    • Arlunwaith lliwgar gyda ffoil aur ar bob yn ail dudalen
    • Stori wedi ei hadrodd yn syml
    • Llyfr hyfryd i’w darllen ar y cyd a rhannu llawenydd bywyd

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  3. Codi Fflap: Pi-Po Dan y Dŵr

    Codi Fflap: Pi-Po Dan y Dŵr

    Allwch chi ddod o hyd i Sgodyn Streipiog a'i ffrindiau'n cuddio tu ôl i'r fflapiau? Gwyliwch rhag ofn iddyn nhw neidio allan!

    Mae'r llyfr hwn yn ysgogi'r dychymyg a'r cof ac yn annog cyd-chwarae hapus rhwng plant a'u rhieni. Mae dysgu trwy chwarae yn hwyl, ac mae pob plentyn bach yn mwynhau chwarae pi-po!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  4. Dwyn i Gof

    Dwyn i Gof

    Mae Huw a Bet yn briod ers 40 mlynedd a Gareth, eu hunig fab, ar fin priodi Cerys. Mae trefniadau i'w cadarnhau. Mae Huw'n benderfynol o chwarae ei ran ond gyda'i gof yn araf ddadfeilio mae perygl i gyfrinachau hen a newydd gael eu datgelu. Cynhyrchwyd y ddrama hon am y tro cyntaf gan Theatr Bara Caws, Hydref 2018. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  5. Gŵydd a'i Gacennau

    Gŵydd a'i Gacennau

    Stori hyfryd am berthynas anarferol a chynnes am gyfeillgarwch.

    Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o Goose's Cake Bake gan Laura Wall.

    Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  6. Madi

    Madi

    Nofel gan Dewi Wyn Williams am ferch ifanc sy'n byw gydag anorecsia a bwlimia ac sy'n cuddio'r salwch. 'Roeddwn i'n wyth oed. Ac ar ddeiet.' Perffeithrwydd, hunaniaeth, rheolaeth. Sut gall Madi ddod o hyd i'r rhain mewn byd amherffaith, cystadleuol ac afreolus, a dim ond unigrwydd iddi'n gwmni? Nid yw stori Madi'n ddarllen cyfforddus, ac er bod y nofel yn llawn hiwmor tywyll a sylwadau crafog, mae'r cynnwys yn gignoeth. Dyma nofel heriol i'n cymdeithas fodern, a'i harddull a'i themâu anghonfensiynol yn torri cwys newydd. 

    Mwy o wybodaeth
    £8.99

  7. Stryd y Bont

    Stryd y Bont

    Nofel fer gan Manon Steffan Ros i ddysgwyr Cymraeg lefel mynediad.

    Mae Stryd y Bont yn dilyn hanes pobl sy’n byw ar un stryd mewn tref yng Nghymru. Pa gyfrinachau sydd ganddyn nhw? Pwy sy’n adnabod pwy? Ac a ydy cymeriadau Stryd y Bont yn adnabod eu cymdogion o gwbl?

    Rhan o gyfres Amdani. https://parallel.cymru/amdani/

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  8. Rhyw Ddrwg yn y Caws

    Rhyw Ddrwg yn y Caws

    Addasiad Cymraeg gan Mared Llwyd o Ratburger gan David Walliams.

    Mae llond trol o bethau’n poeni Begw, druan… Mae ei llysfam mor ddiog nes ei bod yn gofyn i Begw bigo’i thrwyn trosti. Ac mae bwli’r ysgol wrth ei bodd yn poeri ar ei phen. Ond yn waeth byth mae gan Bryn, y dyn byrgyrs afiach, gynlluniau ofnadwy ar gyfer ei llygoden fawr hi. Fedra i ddim datgelu beth yn union yw’r cynlluniau hynny, ond mae cliw go fawr yn nheitl y llyfr hwn…

    Mwy o wybodaeth
    £8.99

  9. Dihangfa Fawr Taid

    Dihangfa Fawr Taid

    Addasiad Cymraeg Dewi Wyn Williams o Grandpa's Great Escape gan David Walliams. Portread o berthynas agos ac unigryw rhwng plentyn a’i daid a oedd yn beilot awyren Spitfire ac yn arwr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cawn gyfle i rannu eu hanturiaethau sy’n llawn cyffro a hiwmor. Mwy o wybodaeth
    £8.99

  10. Codi Fflap: Pi-Po Mam T. Rex

    Codi Fflap: Pi-Po Mam T. Rex

    Allwch chi ddod o hyd i Mami T.rex yn cuddio tu ôl i'r fflapiau Gwyliwch rhag ofn bydd deinosoriaid bach yn neidio allan!

    Mae'r llyfr hwn yn ysgogi'r dychymyg a'r cof ac yn annog cyd-chwarae hapus rhwng plant a'u rhieni. Mae dysgu trwy chwarae yn hwyl, ac mae pob plentyn bach yn mwynhau chwarae pi-po!

     

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

Set Descending Direction

Grid List

31-40 o 311