COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 34

  1. Posau Bach

    Posau Bach

    Casgliad gwerthfawr o weithgareddau a phosau Mathemateg ar gyfer plant 6-11 oed yn bennaf.

    Llyfr dwyieithog y gellir ei lungopïo a'i ddefnyddio yn yr ysgol dan arweiniad athro neu yn y cartref gyda rhiant/gwarchodwr. Mae'r gweithgareddau yn gyfle i blant arbrofi gyda syniadau mathemategol newydd.

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

  2. Alphaprints: Deinosiapiau

    Alphaprints: Deinosiapiau

    Llyfr poblogaidd arall yng nghyfres Alphaprints. Dyma lyfr bwrdd lliwgar a doniol am griw o ddeinosoriaid difyr!

    Mae pob deinosor yn cynrychioli siap gwahanol, ac mae'n ffordd wych o ddysgu'r plant am y siapiau mwyaf cyffredin.

    Mae'r darluniau'n drawiadol, ac wedi eu creu gydag olion bysedd. Llyfr deniadol fydd yn siwr o blesio'r plant ifanc dro ar ôl tro.

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  3. Alphaprints - Lliwiau

    Alphaprints - Lliwiau

    Cyfres o lyfrau bwrdd lliwgar a chyfoes, i blant bach cyn oed ysgol. Gyda delweddau trawiadol wedi'u creu gydag olion bysedd a graffeg cyfoes a thestun crynno a syml, dyma gyfres sy'n siwr o ysbrydoli diddordeb mewn llyfrau o oed ifanc. Lliwiau yw ffocws y llyfr hwn, ac mae'r delweddau a'r tudalennau sgleiniog yn ffordd hwyliog ac effeithiol o addysgu'r plant a'u paratoi ar gyfer yr ysgol. Mae llyfrau Alphaprints yn anrhegion arbennig a defnyddiol i blant bach. Dwyieithog. Mwy o wybodaeth
    £7.99

  4. Llyfr Sticeri Mynd i'r Ysgol

    Llyfr Sticeri Mynd i'r Ysgol

    Dyma ffordd ddifyr o gyflwyno dyddiau cynnar yr ysgol i'r plentyn. Cyfle i fwynhau a dysgu yr un pryd.

    Yn cynnwys dros 100 o sticeri.

    Mwy o wybodaeth
    £3.99

  5. Alphaprints - 123

    Alphaprints - 123

    Cyfres o lyfrau bwrdd lliwgar gyda delweddau trawiadol sydd wedi'u creu gydag olion bysedd a graffeg cyfoes. Llyfrau stori gyda thestun byr a syml. Yn y llyfr hwn bydd cyfle i'r plant ddysgu cyfri a dod i adnabod y rhifolion. Llyfrau poblogaidd a hardd. Anrheg delfrydol I fabanod a phlant cyn oed ysgol. Dwyieithog. Mwy o wybodaeth
    £7.99

  6. Deg Deinosor Bach

    Deg Deinosor Bach

    Addasiad Cymraeg Eurig Salisbury o Ten Little Dinosaurs. Mae deg deinosor bach yn cychwyn ar antur, ond tybed sut hwyl maen nhw'n ei gael wrth gwrdd â'r triceratops grwgnachlyd, diplodocus trwstfawr a t-rex llwglyd? Stori swnllyd gyda thestun sy'n odli a llu o bethau i'r plant chwilio amdanynt! Mwy o wybodaeth
    £6.99

  7. 100 Rhifau Cyntaf

    100 Rhifau Cyntaf

    Llyfr bwrdd deniadol a dwyieithog sy'n cynorthwyo plant i ddysgu rhifau a dechrau cyfri.

    Mae'r tudalennau lliwgar yn cynnwys delweddau o fwydydd, teganau, planhigion, anifeiliaid - pob math o bethau difyr i annog y plant i gyfri! Mae'r rhifau wedi eu hysgrifennu yn y Gymraeg a'r Saesneg ac hefyd i'w gweld fel rhifolion. Anrheg poblogaidd iawn!

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  8. 100 Geiriau, Lliwiau, Siapiau

    100 Geiriau, Lliwiau, Siapiau

    Llyfr bwrdd lliwgar sy'n rhan o'n Cyfres 100 i blant ifanc. Dyma lyfr defnyddiol a lliwgar sy'n helpu'r plentyn i ddysgu geirfa syml, lliwiau a siapiau. Llyfr gwych i baratoi'r plentyn ar gyfer yr ysgol. Hefyd yn addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Mwy o wybodaeth
    £7.99

  9. Ymlaen a Ni: Mathemateg Lefel 3-4

    Ymlaen a Ni: Mathemateg Lefel 3-4

    Gwerslyfr Mathemateg ar gyfer cynorthwyo disgyblion CA2/3, yn benodol i gynyddu sgiliau rhifedd disgyblion o Lefel 3 i Lefel 4. Addasiad Cymraeg o 'FastForward Maths'. Mae llawlyfr athrawon hefyd ar gael. Mwy o wybodaeth
    £4.99

  10. Pos y Dydd

    Pos y Dydd

    Llyfr maint poced yn cynnwys 180 o bosau mathemategol. Mwy o wybodaeth
    £4.95

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 34