COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 12

  1. Siwan a Cherddi Eraill

    Siwan a Cherddi Eraill

    Argraffiad newydd Atebol yn 2020 o gyfrol enwog Saunders Lewis, Siwan a Cherddi Eraill, a cyhoeddwyd yn flaenorol gan Wasg Dinefwr. Mae’r gyfrol yn cynnwys y ddrama fydryddol Siwan (1954), sy’n portreadu perthynas Siwan â Llywelyn Fawr, a’i charwriaeth gyda Gwilym Brewys. Ceir hefyd rhai o gerddi prin y bardd a’r dramodydd. Mae’r ddrama Siwan ar faes llafur TAG UG Cymraeg (Iaith Gyntaf) CBAC (Uned 1 Y Ffilm a’r Ddrama a Llafaredd).

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  2. Dwyn i Gof

    Dwyn i Gof

    Mae Huw a Bet yn briod ers 40 mlynedd a Gareth, eu hunig fab, ar fin priodi Cerys. Mae trefniadau i'w cadarnhau. Mae Huw'n benderfynol o chwarae ei ran ond gyda'i gof yn araf ddadfeilio mae perygl i gyfrinachau hen a newydd gael eu datgelu. Cynhyrchwyd y ddrama hon am y tro cyntaf gan Theatr Bara Caws, Hydref 2018. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  3. Lleu Llaw Gyffes gan Aled Jones Williams

    Lleu Llaw Gyffes gan Aled Jones Williams

    Ysbrydolwyd y ddrama gan awydd Aled i archwilio ein mythau ni fel cenedl:
    Y Mabinogi.

    Beth sy’n digwydd pan fo myth yn torri lawr a chwalu?

    A ddaw myth newydd i gymryd ei le?

    Oes rhywbeth ynddynt o hyd sy’n werthfawr a all gyfoethogi ein bywydau?

    Drama ddifyr, ddeifiol a chignoeth am golli ffydd ac am bosibilrwydd y tynerwch dynol all oroesi.

    Mwy o wybodaeth
    £5.00

  4. Woman of Flowers / The Royal Bed

    Woman of Flowers / The Royal Bed

    Two plays by the acclaimed playwright Siôn Eirian inspired by Blodeuwedd and Siwan by the renowned Welsh language dramatist, Saunders Lewis.

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

  5. Hogia Ni - Yma o Hyd

    Hogia Ni - Yma o Hyd

    Drama bwerus am effaith rhyfel.

    Mae'n ddiwedd 2014, yn dilyn ymadawiad terfynol byddinoedd Ei Mawrhydi o dalaith Helmand, Afghanistan. Daw tri cyn-filwr at ei gilydd i hel atgofion, ond o dipyn i beth fe ddaw hi'n amlwg na fydd pethau byth yr un fath eto.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  6. La Primera Cena

    La Primera Cena

    Drama ddirdynnol gan Dewi Wyn Williams am dad a mab yn cyfarfod am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd. Nid yw'n gyfarfyddiad hawdd ... na chwbl bleserus. Mae cyfrinachau wedi eu claddu'n ddwfn a gwirioneddau anghyfforddus yn cuddio yng nghilfachau'r cof. Wrth i gymylau duon eu gorffennol gilio'n raddol, cawn olwg ar un o gwestiynau mawr y ddynoliaeth, sef ai magwraeth neu gynefin sydd wrth wraidd cymeriad dyn.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  7. Crash (Cymraeg/Welsh)

    Crash (Cymraeg/Welsh)

    Dyma ddrama afaelgar am sefyllfa ddirdynnol tri ffrind 16 oed sy'n ceisio dygymod a'u bywydau gwahanol.

    Dyw Elin ddim yn ffitio i mewn. Mae hi'n wahanol i'w mam a'i thad parchus, dosbarth canol; mae hi'n wahanol i Rhys, ei ffrind cydwybodol. Ond gyda Wes, mae pethau'n wahanol. 

    Fersiwn Saesneg hefyd ar gael.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  8. Crash (Saesneg/English)

    Crash (Saesneg/English)

    Drama am dri chymeriad 16 oed. Mae Els yn cael pob gofal a chariad gan ei rhieni, ond mae'n ysu am ryddid a bywyd mwy cynhyrfus. Mae Wes yn bwy bywyd annibynnol, heb na gofal na chariad gan ei rieni. Ar ôl i Els a Wes ddisgyn mewn cariad, mae bywydau'r ddau yn newid yn gyflym iawn. Mwy o wybodaeth
    £5.99

  9. Yfory (Cwmni Theatr Baracaws)

    Yfory (Cwmni Theatr Baracaws)

    Creisis personol, creisis gwleidyddol, erbyn yfory bydd y byd wedi newid...

    Ym myd gwleidyddiaeth gall argyfwng annisgwyl fod yn gyfle i drio rhywbeth gwahanol na ellid ei ystyried dan amgylchiadau arferol, ac yn dilyn lecsiwn 2016 mae'n greisis yn y Cynulliad. Drama a berfformiwyd gan Gwmni Theatr Bara Caws yng Ngwanwyn 2017.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  10. Rhith y Rhosyn

    Rhith y Rhosyn

    Cyfieithiad gan Emyr Edwards o ddrama Tennessee Williams, The Rose Tattoo. Drama sy'n addas ar gyfer ysgolion, colegau a chwmnïau drama.

    Er bod Rhith y Rhosyn yn cael ei hystyried yn gomedi, eto i gyd mae ynddi elfennau o drasiedi bywyd. Mae'n cydnabod pwer dinistriol unigrwydd ar modd y bydd pobl yn dianc rhag ymosodiadau'r bywyd cymdeithasol sydd o'u cwmpas, a'r un pryd yn cynnig ymsuddo mewn rhywioldeb fel ateb iw problemau personol.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 12