COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

8 Eitem

  1. Yr Ynys - Pecyn Llythrennedd

    Yr Ynys - Pecyn Llythrennedd

    Un o gyfres o dri phecyn o weithgareddau thematig ar gyfer disgyblion 7-9 oed yn bennaf. Mae'r pecyn yn gosod disgyblion ar ynys bellennig ac yn cyflwyno problemau gwahanol i'w datrys er mwyn goroesi. Mae un ochr y cerdyn yn cynnwys deunydd ffuglen a ffeithiol tra bod amrywiaeth o weithgareddau ar yr ochr arall. Mwy o wybodaeth
    £13.00

  2. Pecyn Cyfres BlinG

    Pecyn Cyfres BlinG

    Cyfres o chwe llyfr darllen ffeithiol a chyfoes ar gyfer disgyblion 10 i 14 oed. Llyfrau sy'n cyflwyno ffeithiau mewn ffordd anffurfiol, darllenadwy a difyr.

    Mae'r llyfrau'n ffocysu ar themu amrywiol o ddiddordeb i bobl ifanc megis y we a thechnoleg digidol, yr amgylchedd, mentro, pwyso a mesur, bywyd gwyllt mewn perygl, ac enwogrwydd.

    Mwy o wybodaeth
    £19.99

  3. Lles Emosiynol: Llawlyfr Athrawon

    Lles Emosiynol: Llawlyfr Athrawon

    Mae Lles Emosiynol yn cynnig cyfle i bobl ifanc gymryd cyfrifoldeb am eu lles emosiynol eu hunain mewn byd sy'n newid. Mae'r Llawlyfr Myfyrwyr, sydd ar gael arwahan, yn cynnwys adrannau pwrpasol sy'n delio materion fel straen,cymhelliant, rheoli dicter a delio dylanwad cyfoedion. Mae'r CD yma'n cynnwys deunyddiau atodol y gellir eu haddasu. Mwy o wybodaeth
    £11.99

  4. Pecyn Contrasting Localities yn Saesneg

    Pecyn Contrasting Localities yn Saesneg

    Datblygwyd y pecyn hwn i gefnogi dysgu sgiliau Daearyddol yng Nghyfnod Allweddol 2. Mae'r pecyn yn cynnwys pedwar llyfr sy'n canolbwyntio ar bedwar lleoliad gwahanol; Botswana, Patagonia, Gwlad yr Ia, a Pharis. Mae'r pecyn hefyd yn cynnwys DVD o adnoddau ychwanegol a llawlyfr i athrawon. Nod y pecyn yw; Datblygu ymwybyddiaeth a synnwyr plant o le. Datblygu sgiliau daearyddol. Hybu sgiliau ymholi a meddwl. Hyrwyddo ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd a dinasyddiaeth fyd-eang a chefnogi Dysgu Annibynnol. Mwy o wybodaeth

    Regular Price: £43.98

    Pris Arbennig £24.00

  5. Spark Series

    Spark Series

    Cyfres o lyfrau Saesneg am Gymry sydd wedi llwyddo mewn gwahanol feysydd. Pel droedwyr, athletwyr, chwaraewyr rygbi, cantorion, actorion, anturiaethwyr, pobl busnes a chriwiau achub megis Ambiwlans Awyr Cymru. Llyfrau ysbrydoledig am arwyr o Gymru. Mae'r gyfres yn dysgu plant a phobl ifanc bod modd i bawb lwyddo gydag ychydig o waith caled. Mwy o wybodaeth
    £19.99

  6. Emotional Well-Being: Teacher Handbook

    Emotional Well-Being: Teacher Handbook

    Mae Lles Emosiynol yn cynnig cyfle i bobl ifanc gymryd cyfrifoldeb am eu lles emosiynol eu hunain mewn byd sy'n newid. Mae'r Llawlyfr Myfyrwyr, sydd ar gael ar wahân, yn cynnwys adrannau pwrpasol sy'n delio â materion fel straen, cymhelliant, rheoli dicter a delio dylanwad cyfoedion. Mae'r CD yma'n cynnwys deunyddiau atodol y gellir eu haddasu. Mwy o wybodaeth
    £11.99

  7. Chwarae'r Gêm

    Chwarae'r Gêm

    Pecyn dwyieithog sy'n cynnwys ugain gweithgaredd ddwyieithog i blant gan Mair Tomos Ifans. Mae'r pecyn yn cynnwys gemau unigol y gellir eu chwarae tu fewn, tu allan ac mewn parti pen-blwydd. Ffordd wych o ddatblygu iaith lafar y plant tra'n cael hwyl ar yr un pryd. Addas ar gyfer ysgolion, meithrinfeydd, dysgwyr a theuluoedd. Mwy o wybodaeth
    £23.95

  8. Jig-so 1

    Jig-so 1

    Deunydd ffeithiol ac anllenyddol a fydd yn ysgogi trafodaeth ar yr amgylchedd, technoleg, troi'n wyrdd a byw yn iach. Mwy o wybodaeth
    £23.99

Set Descending Direction

Grid List

8 Eitem