Gall y byd hwn fod yn lle dryslyd iawn weithiau, yn enwedig os wyt ti newydd gyrraedd. Tyrd i weld y blaned lle ry'n ni'n byw, er mwyn ateb rhai o'r cwestiynau sy'n berwi yn dy ben. O'r tir a'r môr i bobl ac amser, gall y llyfr hwn dy roi ar ben ffordd. Byddi di'n dod i ddeall rhai pethau ar dy ben dy hun hefyd. Ond cofia adael nodiadau ar gyfer pawb arall... Gall ein planed ni fod yn lle cymhleth iawn weithiau, ond gall fod yn syml iawn hefyd: mae llawer ohonon ni yma, felly bydd yn garedig.
Mwy o wybodaeth
CYNNIG ARBENNIG
Mae'r 2 lyfr yma'n costio £6.99 yr un ond drwy eu prynu fel pecyn byddwch yn arbed £4!
2 lyfr yn cynnwys lluniau trawiadol a thestun rhyngweithiol sy'n odli. Cyfle gwych i gyffwrdd ac arbrofi gyda'r lluniau trawiadol a'r tudalennau defnydd meddal.
Gallwch eu golchi yn y peiriant golchi. 2 lyfr dwyieithog mewn bocs anrheg arbennig.
Regular Price: £14.00
Pris Arbennig £10.00
Beth grëwn ni, ti a fi?
Fe wna i dy ddyfodol di, a tithau f’un i.
Gwnawn oriawr i gadw’n holl amser ni.
Yn gyntaf, gad inni gasglu’r offer i gyd. Er mwyn rhoi at ei gilydd … a thynnu’n rhydd.
Mae tad a’i ferch yn mynd ati i osod seiliau eu bywyd gyda’i gilydd. Â’u hoffer arbennig, maen nhw’n creu atgofion, yn codi cartref diogel ac yn meithrin cariad i’w cadw’n gynnes.
Dyma stori oesol am gariad bythol rhiant, am bosibiliadau rhyfeddol bywyd ac am yr hyn sydd ei angen er mwyn adeiladu’r dyfodol.
Cyfuniad unigryw o luniau a geiriau gan yr artist a’r awdur byd-enwog, Oliver Jeffers.
Cyfres o bump llyfr stori dwyieithog wedi'u cynllunio'n ofalus i hybu sgiliau llythrennedd.
Mae'r pecyn yn cynnwys: Cwtsh, Paid â Phoeni, Y Cerrig Hud, Dyma Fi, Dyma Fi! a Mili'r Mircat.
Mwy o wybodaeth
Pecyn o 4 llyfr gwaith cartref i gynorthwyo disgyblion Cyfnod Allweddol 2 gydau gwaith llythrennedd.
Gair o eglurhad!
Mae rhai o’r staplau yn y gyfres hon yn dangos olion tarneisio ar y clawr allanol yn unig. Mae’r tudalennau mewnol a’r cynnwys heb eu heffeithio. Rydym felly wedi gostwng y pris o £15.96 i £12.99. Gan ei bod yn gyfres mor boblogaidd rydym wedi penderfynu cynnwys y gyfres fel cynnig arbennig.
Regular Price: £15.96
Pris Arbennig £12.99