COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 65

  1. Ymdrin ag Iselder Ôl-enedigol â Meddwl Tosturiol

    Ymdrin ag Iselder Ôl-enedigol â Meddwl Tosturiol

    Addasiad Cymraeg o The Compassionate Mind Approach to Postnatal Depression gan Michelle Cree. Gall cael babi fod yn gyfnod o lawenydd ond hefyd yn destun pryder a hyd yn oed iselder i famau newydd. Mae’n gyffredin iawn i famau newydd brofi cyfnod byr o bryder yn dilyn genedigaeth ac i fwy nag 1 o bob 10 menyw, gall y profiad ofidus hwn fod yn fwy hirfaith. Bydd y llyfr hunangymorth ymarferol hwn sy’n seiliedig ar Therapi sy’n Canolbwyntio ar Dosturi yn eich helpu i adnabod rhai o’r symptomau a, lle bo hynny’n briodol, eu normaleiddio, a thrwy hynny leddfu eu gofid. Bydd hefyd yn tywys mamau i fod, a mamau newydd trwy’r ddrysfa o deimladau dryslyd a all godi.

    Mwy o wybodaeth
    £15.99

  2. Byw Bywyd i’r Eithaf

    Byw Bywyd i’r Eithaf

    Addasiad Cymraeg o Living Life to the Full gan Dr Chris Williams.

    Ydych chi am deimlo’n hapusach, dod o hyd i amser i chi a goresgyn problemau? Mae Byw Bywyd i’r Eitha’ yn dysgu strategaethau lles pwerus i chi yn seiliedig ar y dull Therapi Ymddygiad Gwybyddol y gellir ymddiried ynddo. Ei nod yw eich helpu chi i ddarganfod pam rydych chi’n teimlo fel rydych chi’n ei wneud, ac yna gwneud newidiadau mewn ffyrdd cam wrth gam wedi’u cynllunio.

    Wedi’i ysgrifennu gan yr awdur arobryn yr Athro Chris Williams, Athro Emeritws Seiciatreg Seicogymdeithasol ym Mhrifysgol Glasgow a Llywydd y sefydliad arweiniol ar gyfer Therapi Ymddygiad Gwybyddol yn y DU (BABCP), mae’r llyfr hwn wedi helpu cannoedd o filoedd o bobl ledled y DU , yn ogystal ag mewn rhaglenni mawr yn yr Undeb Ewropeaidd, Gogledd America ac Asia.

    Mwy o wybodaeth
    £15.00

  3. A/AS Level Computer Science for WJEC Student Book

    A/AS Level Computer Science for WJEC Student Book

    A revised new version of the WJEC/Eduqas Computer Science student book, specifically written for WJEC AS and A Level specification. This student book helps student build their knowledge and master underlying computing principles and concepts. This book develops computational thinking, programming and problem-solving skills.

    Mwy o wybodaeth
    £19.99

  4. BTEC Cenedlaethol Chwaraeon: Llyfr Adolygu

    BTEC Cenedlaethol Chwaraeon: Llyfr Adolygu

    Addasiad Cymraeg o BTEC National Sports Units 1 and 2 Revision Workbook sy’n rhoi cyfle i’r myfyrwyr ymarfer eu dealltwriaeth o’r meysydd o dan sylw.

    Mwy o wybodaeth
    £10.00

  5. Ar Gof: Y lloer a’r sêr

    Ar Gof: Y lloer a’r sêr

    Yn y blwch mae tri llyfryn a phob un yn ddyfais i annog ein gallu i gofio. Maen nhw’n agor drwy gyflwyno pennill cyfan. Yna, gyda phob tudalen, mae rhai o eiriau’r llinellau’n diflannu. Bydd y bylchau a’r lluniau’n anogaeth i gofio’r geiriau coll ...

    Y cof. Un o’n doniau mwyaf pwerus fel pobl yw’r gallu i gofio. Fel unigolion, defnyddiwn ein cof i gyflawni ein bywyd beunyddiol. Ond mae’r cof hefyd yn creu cymdeithas. Y cof-ar-y-cyd sy’n caniatáu i ni berthyn i’n gilydd, ac mae cydgofio geiriau cerddi yn rhan bwysig o’r perthyn hwnnw. Mae Ar Gof yn gasgliad sydd â’r nod o’n cynorthwyo i gofio cofio.

    3 cyfrol wedi’u pecynnu mewn bocs. Fformat: Clawr meddal

    Dyma Mererid yn siarad am y cyhoeddiad ar Heno S4C!



    Cliciwch YMA i ddarllen adolygiad y gyfrol gan Sôn am Lyfra!

    Mwy o wybodaeth
    £12.99

  6. UG/Safon Uwch Cyfrifiadureg ar gyfer CBAC

    UG/Safon Uwch Cyfrifiadureg ar gyfer CBAC

    Mae’r gyfrol hon wedi’i chynllunio i ymateb yn llawn i fanylion manyleb Cyfrifiadureg CBAC. Bydd y gyfrol o help i chi feistroli prif egwyddorion a chysyniadau cyfrifiadureg. Mae’r cynnwys yn rhoi sylw ar feithrin eich sgiliau meddwl yn y maes a fydd yn ei dro yn eich helpu i feithrin eich sgiliau i ddatrys problemau. Bydd hefyd o help i chi ddeall cysyniadau mathemategol a dyluniad systemau.

    Adran arbennig dan y pennawd Cyfrifiadura – y cyd-destun, a fydd yn cynnig rhai ffeithiau diddorol i chi am hanes datblygiad cyfrifiadureg a sut mae’r cysyniadau hynny’n berthnasol i’r byd ehangach

    Trafod sefyllfaoedd cyfarwydd fydd yn eich helpu i weld sut mae cyfrifiadureg yn berthnasol i fywyd pob dydd

    Canllaw defnyddiol am wahanol fathau o feddalwedd a chod, yn ogystal â chynnig help llaw ar sut y gallwch osgoi rhai o’r camgymeriadau mwyaf cyffredin. Bydd y cyfan yn eich helpu i baratoi ar gyfer yr arholiad a chael canlyniadau llwyddiannus

    Unedau 1, 2, 3 a 4 i gyd wedi’u cynnwys o fewn un gyfrol

    Mwy o wybodaeth
    £19.99

  7. Pecyn Cyfres Trio

    Pecyn Cyfres Trio

    Pecyn yn cynnwys Trio ac Antur y Mileniwm, Trio ac Antur y Castell a Trio ac Antur yr Eisteddfod. 

    Tair cyfrol newydd gan Manon Steffan Ros gyda lluniau gan Huw Aaron!

    Mwy o wybodaeth
    £18.00

  8. GCSE Geography: Fieldwork - developing enquiry skills

    GCSE Geography: Fieldwork - developing enquiry skills

    Geography placemat materials aimed at Key Stage 4 learners to support generic enquiry/research and fieldwork skills in Geography. Designed to cover the most frequently developed topic areas in GCSE Geography. The materials are designed for collaborative and group work.

    www.gcsegeography.cymru

    Geographical Association Publishers' Award 2018 - Silver Category Award Winner

    Mwy o wybodaeth
    £14.95

  9. Amser Chwarae – Bocs Tŵls Adeiladwr / Let's Pretend - Builder's Tool Kit

    Amser Chwarae – Bocs Tŵls Adeiladwr / Let's Pretend - Builder's Tool Kit

    Mae Amser Chwarae: Bocs Tŵls Adeiladwr yn cynnig cyfle i blant chwarae yn greadigol a mynd i fyd sy'n llawn dychymyg. Mae'r bocs yn cynnwys 15 darn jig-so sy'n ffitio i mewn i'r llyfr bwrdd lliwgar. Ffordd wych o ddysgu sgiliau creadigol, cydsymud a datrys problemau.

    Mwy o wybodaeth
    £11.99

  10. Economeg Safon Uwch - Cyfrol 1

    Economeg Safon Uwch - Cyfrol 1

    Cyfrol addas ar gyfer astudio cwrs Economeg Safon Uwch a Safon Uwch Gyfrannol. Mae'r gyfrol hylaw hon wedi'i rhannu'n unedau hwylus gyda phob uned yn rhoi sylw penodol i bwnc neu faes arbennig. Addasiad Cymraeg o Economics - Fourth Edition gan Alain Anderton

    Mwy o wybodaeth
    £12.50

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 65