COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 437

  1. Y Ferch Wyllt

    Y Ferch Wyllt

    Addasiad Mari George o Cowgirl gan G. R. Gemin.

    Mae bywyd Gemma’n llanast. Mae ei mam yn grac, mae ei thad yn y carchar, mae ei brawd yn cymysgu â chriw amheus … Ac ar ben y cwbl i gyd, mae gan ei mam-gu fuwch yn yr iard gefn.

    Mae Gemma’n gwybod bod cuddio gyr o wartheg o fferm y Ferch Wyllt ar stad o dai yn beth gwallgo i’w wneud. Wedi’r cyfan, mae’r Ferch Wyllt ychydig bach yn rhyfedd a dyw’r stad ddim yn lle delfrydol i gadw gwartheg. Ond mae’n hwyl ac mae’n gwneud i Gemma deimlo’n well – ac yn gwneud gwahaniaeth i’r stad a’i thrigolion. Y cwestiwn mawr yw, pa mor hir gall hyn barhau?

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  2. Douglas a'r Cywion Ciwt

    Douglas a'r Cywion Ciwt

    Addasiad Eurig Salisbury o Hugless Douglas and the Baby Birds gan David Melling.

    A fedri di gadw wy bach yn gynnes drwy roi cwtsh iddo? Daw Douglas o hyd i'r ateb wrth iddo ofalu am nyth Aderyn Dowcio.

    Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  3. Caffi Merelli

    Caffi Merelli

    Addasiad Cymraeg Mared Llwyd o Sweet Pizza gan G. R. Gemin.

    Dyma stori Jo, bachgen o dras Eidalaidd sy’n byw yng Nghymru ac wrth ei fodd gyda’r iaith Eidaleg, y gerddoriaeth a’r lasagne!

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  4. Hufen Afiach

    Hufen Afiach

    Nofel i blant 7-11 oed gan Meilyr Sion. Antur llawn hiwmor am Sali Seimllyd, Seimon Smwts, Poli Peswch Pen Ôl a Wili Silibili sy’n ffurfio’r Pedwarawd Pwerus i gesio achub trigolion Cwm Cwstard rhag y cawr mawr cas, Beli Bola Mawr! Mwy o wybodaeth
    £6.99

  5. Trio ac Antur y Castell

    Trio ac Antur y Castell

    Stori am TRIO, grŵp o ffrindiau sy'n caru antur ac sy'n benderfynol o achub y byd - wel, Cymru o leia'!

    Mae rhywun yn bwriadu dymchwel Castell Caernarfon a’i droi yn fwyty enfawr! Gwaith TRIO yw darbwyllo’r perchennog newydd i adael llonydd i’r castell, ond mae hynny’n fwy anodd na mae o’n swnio!

    Yr ail nofel yng nghyfres newydd Manon Steffan Ros gyda lluniau gan Huw Aaron!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  6. Trio ac Antur y Mileniwm

    Trio ac Antur y Mileniwm

    Stori am TRIO, grŵp o ffrindiau sy'n caru antur ac sy'n benderfynol o achub y byd - wel, Cymru o leia'!

    Mae TRIO yn cael mynd ar drip i Gaerdydd i weld sioe. Ond O, mam bach! Mae rhywun wedi newid yr ysgrifen ar Ganolfan y Mileniwm! Mae hon yn antur berffaith i TRIO, y triawd mwyaf dwl yng Nghymru!

    Y nofel gyntaf yng nghyfres newydd Manon Steffan Ros gyda lluniau gan Huw Aaron! 

     

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  7. Yr Arth Aruthrol

    Yr Arth Aruthrol

    Stori llawn hiwmor am arth wen sy'n byw ym Mhegwn y Gogledd ac sy'n hoff o nofio, pysgota, bwyta a chysgu.

    Ond un diwrnod, mae hi'n syrthio i gysgu ac yn deffro ym mhell bell o adre. Dydy pethau erioed wedi bod cynddrwg.

    Ond maen nhw ar fin mynd yn waeth ... yn waeth o lawer!

    Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  8. Y Criw Canol Nos

    Y Criw Canol Nos

    Addasiad Cymraeg gan Mared Llwyd o The Midnight Gang gan David Walliams.

    Canol nos yw’r adeg pan mae’r rhan fwyaf o blant yn cysgu’n sownd. Pawb, wrth gwrs, heblaw’r Criw Canol Nos! Megis dechrau mae eu hanturiaethau nhw bryd hynny...

    Mwy o wybodaeth
    £8.99

  9. Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Parc

    Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Parc

    Llyfrau ffuglen ar gyfer plant sy'n dysgu darllen Cymraeg fel ail iaith. Addas i'w defnyddio yn annibynnol neu mewn grwpiau. Stori syml am Moli a'i ffrind, Meg y gath, yn cael hwyl gyda'i gilydd yn y parc.

    *Mae dyluniad y clawr yn gallu amrywio yn unol â’r cyflenwad stoc.

    Mwy o wybodaeth
    £3.50

  10. Gemau’r Parot Piws: Bocs 5

    Gemau’r Parot Piws: Bocs 5

    Pecyn sy'n cynnwys 2 gêm sy'n helpu i feithrin a datblygu iaith a sgiliau meddwl.

    Trac - Fframwaith Llythrennedd
    Gêm llythrennedd i wella sgiliau sillafu ac ysgrifennu. Ymateb yn llawn i ofynion Fframwaith Llythrennedd Llywodraeth Cymru. Addas ar gyfer 1-4 o chwaraewyr.

    Y Gêm Werdd
    Gêm fwrdd ar gyfer 2 i 4 o chwarewyr. Gêm hwyliog syn creu ymwybyddiaeth am faterion amgylcheddol ac yn ysgogir unigolyn i wneud penderfyniadau cadarn er mwyn adfer ein hamgylchedd. 2 i 4 o chwaraewyr. Addas i blant 7+.

    Addas ar gyfer chwaraewyr Cymraeg iaith gyntaf neu ail-iaith.

    Mwy o wybodaeth
    £23.98

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 437