Mae pob plentyn yn hoffi chwarae pi - po ac yn y llyfr dwyieithog hwn cewch gwrdd ag anifeiliaid sy'n cuddio dan y fflapiau!
Mae Pi-Po Fferm yn ysgogi'r dychymyg a'r cof ac yn annog cyd-chwarae hapus rhwng plant a'u rhieni.
Mwy o wybodaeth
Un o lyfrau Cyfres 100 Atebol ar gyfer plant ifanc. Adargraffiad.
Llyfr bwrdd lliwgar sy'n cyflwyno 100 o eiriau cyntaf yn y Gymraeg. Geiriadur hwyliog a syml! Mae'r geiriau'n eiriau bob dydd ar wahanol themu; Bwyd, Cartref, Dillad, Lliwiau, Teganau, Anifeiliaid Fferm ... Mae'r gair Cymraeg a Saesneg o dan bob llun, a bydd hyn o gymorth i rieni sy'n dymuno dysgu Cymraeg gyda'u plant yn ogystal a dysgwyr. Anrheg poblogaidd iawn.
Mwy o wybodaeth
Llyfr bwrdd lliwgar sy'n cyflwyno rhifau o 1 i 20.
Mae'r tudalennau'n cynnwys delweddau cyfoes a thrawiadol gyda rhifau a rhifolion yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae'n lyfr rhyngweithiol sy'n gofyn cwestiynnau ac mae'n rhaid codi'r fflap i ddarganfod yr ateb. Llyfr sy'n helpu teuluoedd i ddatblygu sgiliau cyfri, datblygu sgiliau siarad a sgiliau cyd symud llygad y plentyn.
Mwy o wybodaeth
Llyfr stori sy'n sôn am antur i'r lleuad gyda'r darllenydd yn rhan o'r stori!
Addas i blant y Blynyddoedd Cynnar a'r Cyfnod Sylfaen.
Mwy o wybodaeth