COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 53

  1. Amser Chwarae – Bocs Tŵls Adeiladwr / Let's Pretend - Builder's Tool Kit

    Amser Chwarae – Bocs Tŵls Adeiladwr / Let's Pretend - Builder's Tool Kit

    Mae Amser Chwarae: Bocs Tŵls Adeiladwr yn cynnig cyfle i blant chwarae yn greadigol a mynd i fyd sy'n llawn dychymyg. Mae'r bocs yn cynnwys 15 darn jig-so sy'n ffitio i mewn i'r llyfr bwrdd lliwgar. Ffordd wych o ddysgu sgiliau creadigol, cydsymud a datrys problemau.

    Mwy o wybodaeth
    £11.99

  2. Posau Bach

    Posau Bach

    Casgliad gwerthfawr o weithgareddau a phosau Mathemateg ar gyfer plant 6-11 oed yn bennaf.

    Llyfr dwyieithog y gellir ei lungopïo a'i ddefnyddio yn yr ysgol dan arweiniad athro neu yn y cartref gyda rhiant/gwarchodwr. Mae'r gweithgareddau yn gyfle i blant arbrofi gyda syniadau mathemategol newydd.

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

  3. Alphaprints: Deinosiapiau

    Alphaprints: Deinosiapiau

    Llyfr poblogaidd arall yng nghyfres Alphaprints. Dyma lyfr bwrdd lliwgar a doniol am griw o ddeinosoriaid difyr!

    Mae pob deinosor yn cynrychioli siap gwahanol, ac mae'n ffordd wych o ddysgu'r plant am y siapiau mwyaf cyffredin.

    Mae'r darluniau'n drawiadol, ac wedi eu creu gydag olion bysedd. Llyfr deniadol fydd yn siwr o blesio'r plant ifanc dro ar ôl tro.

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  4. Alphaprints - Lliwiau

    Alphaprints - Lliwiau

    Cyfres o lyfrau bwrdd lliwgar a chyfoes, i blant bach cyn oed ysgol. Gyda delweddau trawiadol wedi'u creu gydag olion bysedd a graffeg cyfoes a thestun crynno a syml, dyma gyfres sy'n siwr o ysbrydoli diddordeb mewn llyfrau o oed ifanc. Lliwiau yw ffocws y llyfr hwn, ac mae'r delweddau a'r tudalennau sgleiniog yn ffordd hwyliog ac effeithiol o addysgu'r plant a'u paratoi ar gyfer yr ysgol. Mae llyfrau Alphaprints yn anrhegion arbennig a defnyddiol i blant bach. Dwyieithog. Mwy o wybodaeth
    £7.99

  5. Alphaprints - 123

    Alphaprints - 123

    Cyfres o lyfrau bwrdd lliwgar gyda delweddau trawiadol sydd wedi'u creu gydag olion bysedd a graffeg cyfoes. Llyfrau stori gyda thestun byr a syml. Yn y llyfr hwn bydd cyfle i'r plant ddysgu cyfri a dod i adnabod y rhifolion. Llyfrau poblogaidd a hardd. Anrheg delfrydol I fabanod a phlant cyn oed ysgol. Dwyieithog. Mwy o wybodaeth
    £7.99

  6. Llyfr Sticeri Mynd i'r Ysgol

    Llyfr Sticeri Mynd i'r Ysgol

    Dyma ffordd ddifyr o gyflwyno dyddiau cynnar yr ysgol i'r plentyn. Cyfle i fwynhau a dysgu yr un pryd.

    Yn cynnwys dros 100 o sticeri.

    Mwy o wybodaeth
    £3.99

  7. Deg Deinosor Bach

    Deg Deinosor Bach

    ** AR GAEL 14 RHAGFYR 2020 **

    Addasiad Cymraeg Eurig Salisbury o Ten Little Dinosaurs.

    Mae deg deinosor bach yn cychwyn ar antur, ond tybed sut hwyl maen nhw'n ei gael wrth gwrdd â'r triceratops grwgnachlyd, diplodocus trwstfawr a t-rex llwglyd? Stori swnllyd gyda thestun sy'n odli a llu o bethau i'r plant chwilio amdanynt!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

    Out of stock

  8. Tic! Toc!  Dweud yr Amser

    Tic! Toc! Dweud yr Amser

    Llyfr gweithgareddau lliwgar sy'n helpu plant i ddysgu dweud yr amser. Llyfr defnyddiol ar gyfer y cartref ar ysgol sy'n cynnwys sticeri a phoster mawr. Mwy o wybodaeth
    £4.99

  9. Ymlaen a Ni: Mathemateg Lefel 3-4 Llawlyfr Athrawon

    Ymlaen a Ni: Mathemateg Lefel 3-4 Llawlyfr Athrawon

    Llawlyfr Athrawon sy'n cynnwys nodiadau manwl ar bob un o unedau'r Llyfr Disgybl ynghyd ag arweiniad a syniadau estynedig, deunyddiau y gellir eu llungopo ac awgrymiadau am weithgareddau ymarferol a bywiog. Mwy o wybodaeth
    £25.00

  10. Canllawiau Adolygu Economeg Safon UG ac Uwch

    Canllawiau Adolygu Economeg Safon UG ac Uwch

    Llyfr adolygu sy'n ymdrin a chynnwys manylebau CBAC, AQA, Edexcel ac OCR ar gyfer Economeg Uwch Gyfrannol a Safon Uwch.

    Mae'r cynnwys wedi'i rannu'n adrannau hwylus, gyda rhan gyntaf y llyfr yn ymdrin micro-economeg a'r ail ran yn ymdrin a macro-economeg. Arddull cyflwyno syml, gan ddefnyddio diagramau i gynorthwyo adolygu lle bo'n briodol. Mae cwestiynau adolygu ar gyfer pob adran o'r llyfr.

    Llyfr gan Andrew Gillespie, addasiad Cymraeg gan Colin Isaac.

    Mwy o wybodaeth
    £10.99

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 53