COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 58

  1. Ar Gof: Y lloer a’r sêr

    Ar Gof: Y lloer a’r sêr

    Yn y blwch mae tri llyfryn a phob un yn ddyfais i annog ein gallu i gofio. Maen nhw’n agor drwy gyflwyno pennill cyfan. Yna, gyda phob tudalen, mae rhai o eiriau’r llinellau’n diflannu. Bydd y bylchau a’r lluniau’n anogaeth i gofio’r geiriau coll ...

    Y cof. Un o’n doniau mwyaf pwerus fel pobl yw’r gallu i gofio. Fel unigolion, defnyddiwn ein cof i gyflawni ein bywyd beunyddiol. Ond mae’r cof hefyd yn creu cymdeithas. Y cof-ar-y-cyd sy’n caniatáu i ni berthyn i’n gilydd, ac mae cydgofio geiriau cerddi yn rhan bwysig o’r perthyn hwnnw. Mae Ar Gof yn gasgliad sydd â’r nod o’n cynorthwyo i gofio cofio.

    3 cyfrol wedi’u pecynnu mewn bocs. Fformat: Clawr meddal

    Dyma Mererid yn siarad am y cyhoeddiad ar Heno S4C!



    Cliciwch YMA i ddarllen adolygiad y gyfrol gan Sôn am Lyfra!

    Mwy o wybodaeth
    £12.99

  2. Chwedlau'r Copa Coch: Yr Horwth

    Chwedlau'r Copa Coch: Yr Horwth

    “Yng nghysgodion yr ogof roedd yr Horwth yn cuddio.”

     Mae bwystfil yn bygwth y wlad. Creadur yn syth o ganol hunllef. Yr Horwth.

     Yr unig rai a all ei drechu yw criw bach o anturiaethwyr annisgwyl. Trwy borthladdoedd anhrefnus a choedwigoedd gwyllt, dros glogwyni serth ac ar hyd twneli wedi eu hen anghofio, mae’r llwybr yn arwain at y Copa Coch – mynydd sy’n taflu cysgod brawychus dros y tir … ac mae ei gyfrinachau mwyaf o dan yr wyneb, yn aros i’r teithwyr eu datgelu.

     Dyma’r nofel gyntaf mewn cyfres ffantasi newydd i bobl ifanc – ac i unrhyw un hŷn sy’n hoff o antur.

    "Y cyntaf mewn cyfres o lyfrau ffantasi wedi’u hanelu at bobol ifanc, mae’r llyfr hwn yn cyfuno cynnwrf, antur a hiwmor a bydd yn anodd rhoi’r llyfr I lawr o’r frawddeg gyntaf. Mae’r darluniau yn rhan yr un mor bwysig o’r stori â’r testun."

    WELSH BOOKS FOR YOUNG PEOPLE – THE BEST OF 2019
    Wales Arts Review

    Dyma'r Horwth yn cael sylw yn narllediad Heno S4C yn 'Sioe Diwrnod y Llyfr'!


    Gwrandewch ar ragflas o'r llyfr isod:

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  3. Trio ac Antur yr Eisteddfod

    Trio ac Antur yr Eisteddfod

    Dyma’r trydydd llyfr yn y gyfres sy’n dilyn anturiaethau ‘Trio’ – grŵp o ffrindiau sy’n caru antur ac yn anobeithiol o benderfynol o achub y dydd.

    Mae Trio, sef Clem Clyfar, Dilys Ddyfeisgar a Derec Dynamo eisoes wedi cael anturiaethau yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd a Chastell Caernarfon, ond y tro hwn maen nhw’n mentro i faes yr Eisteddfod! O fewn munudau i gyrraedd y maes, mae’r tri ffrind yn clywed si am antur... mae Cadair yr Eisteddfod wedi diflannu! Dilynwn y criw wrth iddyn nhw grwydro’r maes yn chwilio am y lleidr dieflig – a chamgyhuddo ambell eisteddfodwr ar y ffordd.

    Cyfres ysgafn a phoblogaidd, gyda digon o hiwmor i ddenu darllenwyr ifanc, newydd!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  4. Dad Drwg

    Dad Drwg

    Addasiad gan Dewi Wyn Williams o Bad Dad gan David Walliams.

    Antur gyffrous am berthynas glos rhwng Deio a'i dad wrth iddyn nhw geisio ennill brwydr yn erbyn y dihiryn drwg, Leni'r Lwmp!

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

  5. Plant Gwaetha'r Byd

    Plant Gwaetha'r Byd

    Addasiad Cymraeg gan Manon Steffan Ros o The World's Worst Children gan David Walliams. Agorwch y llyfr afiach hwn i glywed hanesion pump o ferched ofnadwy a phump o fechgyn boncyrs! Daw'r gyfrol yma o straeon byrion digri gan David Walliams, un o nofelwyr plant mwyaf poblogaidd y byd, a Tony Ross, arlunydd byd-enwog. Mwy o wybodaeth
    £9.99

  6. Llestri'r Dylluan

    Llestri'r Dylluan

    Addasaid Cymraeg gan Bethan Gwanas o nofel ffantasi arloesol i bobl ifanc gan Alan Garner. Stori arswyd grefftus, sy'n dilyn trywydd tri o bobl ifanc sy'n cael eu gorfodi i ail-greu chwedl Blodeuwedd.

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  7. Lleoliadau Cyferbyniol: Patagonia

    Lleoliadau Cyferbyniol: Patagonia

    Llyfrau i gynorthwyo addysgu a dysgu sgiliau daearyddol yng Nghyfnod Allweddol 2 , llyfrau a grewyd I gefnogi cwricwlwm 2008. Mae'r ddarpariaeth yn meithrin sgiliau daearyddol sy'n berthnasol i astudio lleoliadau cyferbyniol yn ogystal a hybu sgiliau ymholi, sgiliau meddwl, hybu ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd a dinasyddiaeth fyd-eang. Mae'r gyfres yn cynorthwyo dysgu annibynnol ac yn addas ar gyfer pob gallu. Teitlau eraill yny gyfres; Botswana, Gwlad yr Ia a Pharis. Mwy o wybodaeth
    £3.99

  8. Mathemateg Cyfnod Allweddol 3 - Llyfr Adolygu 3

    Mathemateg Cyfnod Allweddol 3 - Llyfr Adolygu 3

    Addasiad Cymraeg o lyfr adolygu Mathemateg gyda cwestiynau defnyddiol ar y cwrs mathemateg. Mwy o wybodaeth
    £4.50

    Out of stock

  9. Mat a Sgrin 1

    Mat a Sgrin 1

    Mae'r set yma o 12 mat mathemategol wedi'u paratoi ar gyfer Cyfnodau Allweddol 1, 2 a 3, gan gynnwys Anghenion Addysgol a Sgiliau Sylfaenol. Mwy o wybodaeth
    £19.99

  10. Meistres y Bwa Hir

    Meistres y Bwa Hir

    Addasiad Efa Mared Edwards o'r nofel Longbow Girl gan Linda Davies.

    Wedi ei lleoli yn harddwch Bannau Brycheiniog, lle magwyd Linda Davies, mae'r stori yn adrodd hanes Mari Owen, merch ddewr a phenderfynol ac un sy'n giamstar ar ddefnyddio'r bwa hir.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 58