COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 40

  1. Chwedlau'r Copa Coch: Yr Horwth

    Chwedlau'r Copa Coch: Yr Horwth

    “Yng nghysgodion yr ogof roedd yr Horwth yn cuddio.”

     Mae bwystfil yn bygwth y wlad. Creadur yn syth o ganol hunllef. Yr Horwth.

     Yr unig rai a all ei drechu yw criw bach o anturiaethwyr annisgwyl. Trwy borthladdoedd anhrefnus a choedwigoedd gwyllt, dros glogwyni serth ac ar hyd twneli wedi eu hen anghofio, mae’r llwybr yn arwain at y Copa Coch – mynydd sy’n taflu cysgod brawychus dros y tir … ac mae ei gyfrinachau mwyaf o dan yr wyneb, yn aros i’r teithwyr eu datgelu.

     Dyma’r nofel gyntaf mewn cyfres ffantasi newydd i bobl ifanc – ac i unrhyw un hŷn sy’n hoff o antur.

    "Y cyntaf mewn cyfres o lyfrau ffantasi wedi’u hanelu at bobol ifanc, mae’r llyfr hwn yn cyfuno cynnwrf, antur a hiwmor a bydd yn anodd rhoi’r llyfr I lawr o’r frawddeg gyntaf. Mae’r darluniau yn rhan yr un mor bwysig o’r stori â’r testun."

    WELSH BOOKS FOR YOUNG PEOPLE – THE BEST OF 2019
    Wales Arts Review

    Dyma'r Horwth yn cael sylw yn narllediad Heno S4C yn 'Sioe Diwrnod y Llyfr'!


    Gwrandewch ar ragflas o'r llyfr isod:

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  2. Trio ac Antur yr Eisteddfod

    Trio ac Antur yr Eisteddfod

    Dyma’r trydydd llyfr yn y gyfres sy’n dilyn anturiaethau ‘Trio’ – grŵp o ffrindiau sy’n caru antur ac yn anobeithiol o benderfynol o achub y dydd.

    Mae Trio, sef Clem Clyfar, Dilys Ddyfeisgar a Derec Dynamo eisoes wedi cael anturiaethau yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd a Chastell Caernarfon, ond y tro hwn maen nhw’n mentro i faes yr Eisteddfod! O fewn munudau i gyrraedd y maes, mae’r tri ffrind yn clywed si am antur... mae Cadair yr Eisteddfod wedi diflannu! Dilynwn y criw wrth iddyn nhw grwydro’r maes yn chwilio am y lleidr dieflig – a chamgyhuddo ambell eisteddfodwr ar y ffordd.

    Cyfres ysgafn a phoblogaidd, gyda digon o hiwmor i ddenu darllenwyr ifanc, newydd!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  3. Dad Drwg

    Dad Drwg

    Addasiad gan Dewi Wyn Williams o Bad Dad gan David Walliams.

    Antur gyffrous am berthynas glos rhwng Deio a'i dad wrth iddyn nhw geisio ennill brwydr yn erbyn y dihiryn drwg, Leni'r Lwmp!

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

  4. Plant Gwaetha'r Byd

    Plant Gwaetha'r Byd

    Addasiad Cymraeg gan Manon Steffan Ros o The World's Worst Children gan David Walliams. Agorwch y llyfr afiach hwn i glywed hanesion pump o ferched ofnadwy a phump o fechgyn boncyrs! Daw'r gyfrol yma o straeon byrion digri gan David Walliams, un o nofelwyr plant mwyaf poblogaidd y byd, a Tony Ross, arlunydd byd-enwog. Mwy o wybodaeth
    £9.99

  5. Llestri'r Dylluan

    Llestri'r Dylluan

    Addasaid Cymraeg gan Bethan Gwanas o nofel ffantasi arloesol i bobl ifanc gan Alan Garner. Stori arswyd grefftus, sy'n dilyn trywydd tri o bobl ifanc sy'n cael eu gorfodi i ail-greu chwedl Blodeuwedd.

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  6. Pos y Dydd

    Pos y Dydd

    Llyfr maint poced yn cynnwys 180 o bosau mathemategol. Mwy o wybodaeth
    £4.95

  7. Ben Bril a'r Ddinas Ddirgel

    Ben Bril a'r Ddinas Ddirgel

    Rhan o gyfres o lyfrau darllen ar ffurf comig.

    Bachgen 14 oed yw Ben Bril ac mae ei fryd ar achub y byd! Llyfr stori llawn antur.

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  8. Health and Emotional Wellbeing

    Health and Emotional Wellbeing

    Mae'r cyhoeddiad newydd hwn wedi ei gynllunio ar gyfer myfyrwyr CA3 a CA4. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  9. Contrasting Localities  Tell Me About Wales  (Saesneg)

    Contrasting Localities Tell Me About Wales (Saesneg)

    Llyfr gwerthfawr i athrawon, wrth gyflwyno Daearyddiaeth I ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2, fel rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol Newydd. Mwy o wybodaeth
    £4.99

  10. Green Gate: Looking After the Environment

    Green Gate: Looking After the Environment

    Mae cyfres y Green Gate yn edrych ar faterion amgylcheddol fel egni, gwastraff, llygredd a newid hinsawdd. Mae'n cynnig atebion a dulliau ymarferol i gadw'r Ddaear yn wyrdd ac yn le braf i fyw ynddo. Addas ar gyfer plant rhwng 10 a 14 oed. Mwy o wybodaeth
    £4.99

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 40