COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

8 Eitem

  1. Yr Un Hen Alys

    Yr Un Hen Alys

    Addasiad o Still Alice gan Lisa Genova. Pum deg mlwydd oed yw Alys pan mae'n cael ei thynnu i bwll diwaelod clefyd Alzheimer. Mae'n athro prifysgol, gwraig, mam i dri o blant, gyda llyfrau i'w hysgrifennu, llefydd i'w gweld, wyrion i'w cyfarfod. Ond pan mae'n anghofio sut i wneud ei phwdin 'Dolig, pan mae'n mynd ar goll yn ei iard gefn, pan mae'n methu adnabod ei merch sy'n actores ar ôl perfformiad clodwiw, mae'n dyfeisio cynllun. Ydy hi'n ei gyflawni? A ddylai hi ei gyflawni? Colli ei doeau, byw ar gyfer pob dydd, a'i chof tymor byr yn hongian ar linyn brau. Ond yr un hen Alys yw hi o hyd. Mwy o wybodaeth
    £7.99

  2. Ymwybyddiaeth Ofalgar: Canllaw Pen-tennyn

    Ymwybyddiaeth Ofalgar: Canllaw Pen-tennyn

    Addasiad Cymraeg o A Mindfulness Guide for the Frazzled gan Ruby Wax. Bum can mlynedd yn ôl, doedd neb yn marw o straen: ni wnaeth ddyfeisio’r cysyniad hwn, ac rydyn ni bellach yn gadael iddo’n rheoli ni. Mae Ruby Wax yn dangos i ni sut i lacio’n gafael er ein lles ein hunain, drwy wneud newidiadau syml sy’n rhoi cyfle i ni anadlu, myfyrio a byw yn y funud. Gadewch i Ruby eich tywys at y chi iachach a hapusach. Yr unig beth sydd gennych i’w golli yw’ch straen...

    Mwy o wybodaeth
    £8.99

  3. Darllen yn Well: Canllaw Bychan ar Gyfer Deall Clefyd Alzheimer a Mathau Eraill o Ddementia

    Darllen yn Well: Canllaw Bychan ar Gyfer Deall Clefyd Alzheimer a Mathau Eraill o Ddementia

    Addasiad o A Pocket Guide to Understanding Alzheimer's Disease and other Dementias gan Dr James Warner a Dr Nori Graham. Mwy o wybodaeth
    £9.99

  4. Darllen yn Well: Bod Yn Bositif Am Ddementia

    Darllen yn Well: Bod Yn Bositif Am Ddementia

    Addasiad o Dementia Positive gan John Killick. Yn y llyfr twymgalon ac ysgogol hwn, mae John Killick yn herio'r tybiaethau hyn. Mae'n dangos sut y gallwn helpu a gwella bywyd y personau â dementia. Llawlyfr hanfodol i unrhyw un sy’n byw gyda diagnosis o ddementia, yn ogystal ag i bobl broffesiynol ynghlwm â gofal dementia a pherthnasau sy’n chwilio am wybodaeth am y cyflwr. Mae dementia yn gyflwr dirgel. Mae’n dychryn llawer ohonom. Teimlwn yn ddiymadferth pan ddown wyneb yn wyneb ag ef. Nid oes raid i bethau fod fel hyn. Mwy o wybodaeth
    £9.99

  5. Annwyl Dementia - Y Chwerthin a'r Dagrau

    Annwyl Dementia - Y Chwerthin a'r Dagrau

    Addasiad celfydd o lyfr sy'n crisialu'r rhwystredigaeth a'r heriau a wynebir gan unigolion sydd â dementia, eu teuluoedd a staff gofal. Llyfr y gall plant ei ddarllen a'i ddeall, sy'n dangos sut y gall dementia effeithio ar bob un ohonom, a pha mor bwysig yw dangos empathi. Mae'n cynnwys delweddau trawiadol a phytiau sy'n gymysgedd o'r digrif a'r dwys. Mwy o wybodaeth
    £9.99

  6. Lleuad Siocled

    Lleuad Siocled

    Un o lyfrau'r gyfres Ar Bigau ar gyfer arddegwyr a darllenwyr anfoddog. Mae bachgen a'i nain sy'n dioddef o glefyd Alzheimer's yn dianc i Iwerddon. Addasiad o Chocolate Moon. Mwy o wybodaeth
    £4.99

  7. Mam-Gu a Fi

    Mam-Gu a Fi

    Mae Osian yn meddwl y byd o Mam-gu, ac mae'r ddau yn cael llawer o hwyl gyda'i gilydd. Ond pan mae Mam-gu'n dechrau cael trafferth i ofalu amdani ei hun, mae hi'n gorfod symud i fyw mewn cartref arbennig. Y llyfr stori cyntaf erioed yn y Gymraeg i drafod y cyflwr Dementia o safbwynt plentyn ifanc. Mwy o wybodaeth
    £5.99

  8. Ynghylch Dementia

    Ynghylch Dementia

    Llyfryn sy'n esbonio'r cyflwr dementia, ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Y llyfr cyntaf erioed yn y Gymraeg sy'n esbonio'r cyflwr Dementia i bobl sydd ag anableddau dysgu. Addasiad naturiol a chlir gan addasydd profiadol. Mwy o wybodaeth
    £8.00

Set Descending Direction

Grid List

8 Eitem