COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Ascending Direction

Grid List

1-10 o 22

  1. Cyfraith ar gyfer A2

    Cyfraith ar gyfer A2

    Mae Cyfraith ar gyfer A2 yn addas ar gyfer astudio'r Gyfraith ar gyfer arholiadau'r Gyfraith A2 Safon Uwch. Mae'r gyfrol yn egluro popeth sydd angen i chi ei wybod ac mae'n llawn awgrymiadau gwerthfawr ar gyfer yr arholiad! Mae'r gyfrol yn delio'n gynhwysfawr gyda'r pynciau angenrheidiol yn glir a dealladwy. Mae'n cynnwys y newidiadau diweddaraf yn y gyfraith, gan gynnwys manylion llawn Deddf Cyfiawnder Troseddol a Chrwneriaid 2009. Mae elfen newydd sef Awgrymiadau ar gyfer yr arholiad yn sicrhau eich bod wedi paratoi'n well nag erioed at yr arholiad. Mae darluniau, cartwnau a gweithgareddau o help i egluro'r cysyniadau gan Jacqueline Martin a Chris Turner. Mwy o wybodaeth
    £21.99

  2. Rhith y Rhosyn

    Rhith y Rhosyn

    Cyfieithiad gan Emyr Edwards o ddrama Tennessee Williams, The Rose Tattoo. Drama sy'n addas ar gyfer ysgolion, colegau a chwmnïau drama.

    Er bod Rhith y Rhosyn yn cael ei hystyried yn gomedi, eto i gyd mae ynddi elfennau o drasiedi bywyd. Mae'n cydnabod pwer dinistriol unigrwydd ar modd y bydd pobl yn dianc rhag ymosodiadau'r bywyd cymdeithasol sydd o'u cwmpas, a'r un pryd yn cynnig ymsuddo mewn rhywioldeb fel ateb iw problemau personol.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  3. Lletygarwch Lefel 2 BTEC Cyntaf

    Lletygarwch Lefel 2 BTEC Cyntaf

    Llyfr delfrydol ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio'r cwrs BTEC Cyntaf Lefel 2 mewn lletygarwch. Mwy o wybodaeth
    £27.50

  4. Seicoleg Safon Uwch - Llyfr 2

    Seicoleg Safon Uwch - Llyfr 2

    Ysgrifennwyd yr argraffiad newydd hwn fel Cydymaith Cyflawn i werslyfr CBAC, gan awduron ac arholwyr Seicoleg profiadol. Fe’i cynlluniwyd i helpu dealltwriaeth myfyrwyr o Seicoleg ac i wella perfformiad yn yr arholiad. Mwy o wybodaeth
    £29.99

  5. Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Safon Uwch

    Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Safon Uwch

    Addasiad Cymraeg o Government and Politics gan Duncan Watts. Mae'r ddarpariaeth yn cynnwys astudiaeth o wleidyddiaeth, cyfrangogiad a llywodraethu gwledydd Prydain. Llyfr trefnus sy'n hawdd i'w ddefnyddio ac sy'n cynnwys gweithgareddau, cwestiynnau crynhoi a chwestiynnau arholiad posibl er mwyn annog dysgu annibynnol. Mwy o wybodaeth
    £21.99

  6. Crash (Cymraeg/Welsh)

    Crash (Cymraeg/Welsh)

    Dyma ddrama afaelgar am sefyllfa ddirdynnol tri ffrind 16 oed sy'n ceisio dygymod a'u bywydau gwahanol.

    Dyw Elin ddim yn ffitio i mewn. Mae hi'n wahanol i'w mam a'i thad parchus, dosbarth canol; mae hi'n wahanol i Rhys, ei ffrind cydwybodol. Ond gyda Wes, mae pethau'n wahanol. 

    Fersiwn Saesneg hefyd ar gael.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  7. Astudiaethau Busnes: Cyfrol 2

    Astudiaethau Busnes: Cyfrol 2

    Dyma lyfr cwrs cynhwysfawr a hyblyg ar gyfer myfyrwyr Astudiaethau Busnes sy'n dilyn cyrsiau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch a gwahanol gyrsiau proffesiynol.

    Mae Astudiaethau Busnes Cyfrol 2 wedi'i drefnu'n unedau, gyda phob uned yn canolbwyntio ar bwnc penodol. Mae'r unedau'n cynnwys triniaeth gynhwysfawr o'r pwnc dan sylw ynghyd â chynnwys diagramau lliw llawn i gynorthwyo'r egluro. Ar ddiwedd Cyfrol 2 mae unedau ar gasglu, cyflwyno a dadansoddi data, ac arweiniad ynghylch astudio effeithiol ac asesu.

    Mwy o wybodaeth
    £14.99

  8. Gwasanaeth Bwyd a Diod - Lefelau 1 a 2

    Gwasanaeth Bwyd a Diod - Lefelau 1 a 2

    Llyfr a fydd yn sicrhau y bydd gennych y sgiliau hanfodol a’r gefnogaeth i lwyddo yn y cymwysterau diweddaraf – Tystysgrif Lefel 1 a Diploma Lefel 2 mewn Gwasanaeth Bwyd a Diod Proffesiynol.

    Dyluniwyd y llyfr yn arbennig ar gyfer dysgwyr Lefel 1 a Lefel 2. Mae’n egluro’r prif gysyniadau yn glir, ac mae’r testunau wedi’u mapio’n ofalus i gymhwyster NVQ a Thystysgrif a Diploma mewn Gwasanaeth Bwyd a Diod (VRQ) ar Lefelau 1 a 2.

    Mwy o wybodaeth
    £29.99

  9. Y Mabinogion - Llyfr Adolygu Safon Uwch

    Y Mabinogion - Llyfr Adolygu Safon Uwch

    Nodiadau adolygu gan yr Athro Gwyn Thomas ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio'r Gymraeg fel pwnc Safon Uwch; llawlyfr adolygu perffaith cyfle i ddod yn gyfarwydd gyda rhai o dermau astudio llen llafar a llen gwerin.

    Dyma astudiaeth gynhwysfawr o'r themu, astudiaeth o'r cymeriadau ar gyfer astudio'r chwedlau, gwybodaeth ffeithiol a dadansoddiad treiddgar gan arbenigwr yn y maes.

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  10. Astudiaethau Busnes: Cyfrol 1

    Astudiaethau Busnes: Cyfrol 1

    Llyfr cwrs cynhwysfawr a hyblyg ar gyfer myfyrwyr Astudiaethau Busnes - mae'n gyfuniad o werslyfr a llyfr gwaith. Addasiad Cymraeg o Business Studies a gyhoeddwyd gan Pearson Education. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn 2009. Mwy o wybodaeth
    £12.50

Set Ascending Direction

Grid List

1-10 o 22