Arweiniad i fyfyrwyr Cymraeg Safon Uwch ar gyfer astudio a gwerthfawrogi Blasu gan Manon Steffan Ros.
Mae'n ymdrin â chefndir a chyd-destun y nofel, cymeriadau, prif themâu, arddull a chrefft ynghyd â'i chymharu gyda nofelau eraill.
Mwy o wybodaeth
Llyfr adolygu sy'n ymdrin a chynnwys manylebau CBAC, AQA, Edexcel ac OCR ar gyfer Economeg Uwch Gyfrannol a Safon Uwch.
Mae'r cynnwys wedi'i rannu'n adrannau hwylus, gyda rhan gyntaf y llyfr yn ymdrin micro-economeg a'r ail ran yn ymdrin a macro-economeg. Arddull cyflwyno syml, gan ddefnyddio diagramau i gynorthwyo adolygu lle bo'n briodol. Mae cwestiynau adolygu ar gyfer pob adran o'r llyfr.
Llyfr gan Andrew Gillespie, addasiad Cymraeg gan Colin Isaac.
Mwy o wybodaeth
Llawlyfr sy'n ymateb yn llawn i ofynion arholiadau Daearyddiaeth TAG Uwch Gyfrannol a Safon Uwch CBAC. Cyflwynir yr wybodaeth angenrheidiol a cheir crynodeb byr ar ddiwedd pob uned. Atgyfnerthir dealltwriaeth y myfyriwr drwy gyfrwng yr adrannau 'Cymorth i'r arholiad', 'Prawf gwybodaeth' ac 'Atebion'.
Mwy o wybodaeth
Cyfieithiad gan Emyr Edwards o ddrama Tennessee Williams, The Rose Tattoo. Drama sy'n addas ar gyfer ysgolion, colegau a chwmnïau drama.
Er bod Rhith y Rhosyn yn cael ei hystyried yn gomedi, eto i gyd mae ynddi elfennau o drasiedi bywyd. Mae'n cydnabod pwer dinistriol unigrwydd ar modd y bydd pobl yn dianc rhag ymosodiadau'r bywyd cymdeithasol sydd o'u cwmpas, a'r un pryd yn cynnig ymsuddo mewn rhywioldeb fel ateb iw problemau personol.
Mwy o wybodaeth