Llyfr newydd, gwreiddiol i ddysgwyr ar lefel Canolradd. Rhan o’r gyfres Amdani.
Nofel iasoer am Sara, tiwtor Cymraeg. Mae grŵp o bobl Prydeinig yn penderfynu ymgartrefu yng nghefn gwlad Gwynedd ac maent yn awyddus i ddechrau ymdoddi i’r gymuned newydd. Mae Paul, arweinydd y grŵp, yn penodi Sara i ddysgu Cymraeg iddynt. Maen nhw’n talu’n hael, yn gweithio’n galed ac mae Sara’n gweld Paul yn ddeniadol iawn! Ydy Sara wedi dod o hyd i'r bywyd perffaith yn y gymuned newydd neu oes cyfrinachau tywyll yn cuddio ar fferm Bywyd Newydd?
Llyfr gwreiddiol i ddysgwyr ar lefel Mynediad 1. Rhan o’r gyfres Amdani. Dyma stori newydd sbon yn dilyn Elsa Bowen y ditectif preifat. Bydd y llyfr hwn lefel yn is na’r gyfrol cyntaf yn y gyfres (Gangsters yn y Glaw). Yn ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr newydd sydd wedi dysgu 8 Uned.
Mwy o wybodaeth
Cyfieithiad gan Emyr Edwards o ddrama Tennessee Williams, The Rose Tattoo. Drama sy'n addas ar gyfer ysgolion, colegau a chwmnïau drama.
Er bod Rhith y Rhosyn yn cael ei hystyried yn gomedi, eto i gyd mae ynddi elfennau o drasiedi bywyd. Mae'n cydnabod pwer dinistriol unigrwydd ar modd y bydd pobl yn dianc rhag ymosodiadau'r bywyd cymdeithasol sydd o'u cwmpas, a'r un pryd yn cynnig ymsuddo mewn rhywioldeb fel ateb iw problemau personol.
Mwy o wybodaeth
Regular Price: £5.99
Pris Arbennig £4.19
Dyma lyfr cwrs cynhwysfawr a hyblyg ar gyfer myfyrwyr Astudiaethau Busnes sy'n dilyn cyrsiau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch a gwahanol gyrsiau proffesiynol.
Mae Astudiaethau Busnes Cyfrol 2 wedi'i drefnu'n unedau, gyda phob uned yn canolbwyntio ar bwnc penodol. Mae'r unedau'n cynnwys triniaeth gynhwysfawr o'r pwnc dan sylw ynghyd â chynnwys diagramau lliw llawn i gynorthwyo'r egluro. Ar ddiwedd Cyfrol 2 mae unedau ar gasglu, cyflwyno a dadansoddi data, ac arweiniad ynghylch astudio effeithiol ac asesu.
Mwy o wybodaethRegular Price: £14.99
Pris Arbennig £8.99
Dyma ddrama afaelgar am sefyllfa ddirdynnol tri ffrind 16 oed sy'n ceisio dygymod a'u bywydau gwahanol.
Dyw Elin ddim yn ffitio i mewn. Mae hi'n wahanol i'w mam a'i thad parchus, dosbarth canol; mae hi'n wahanol i Rhys, ei ffrind cydwybodol. Ond gyda Wes, mae pethau'n wahanol.
Fersiwn Saesneg hefyd ar gael.
Mwy o wybodaeth
Arweiniad i fyfyrwyr Cymraeg Safon Uwch ar gyfer astudio a gwerthfawrogi Blasu gan Manon Steffan Ros.
Mae'n ymdrin â chefndir a chyd-destun y nofel, cymeriadau, prif themâu, arddull a chrefft ynghyd â'i chymharu gyda nofelau eraill.
Mwy o wybodaeth