Llawlyfr sy'n ymateb yn llawn i ofynion arholiadau Daearyddiaeth TAG Uwch Gyfrannol a Safon Uwch CBAC. Cyflwynir yr wybodaeth angenrheidiol a cheir crynodeb byr ar ddiwedd pob uned. Atgyfnerthir dealltwriaeth y myfyriwr drwy gyfrwng yr adrannau 'Cymorth i'r arholiad', 'Prawf gwybodaeth' ac 'Atebion'.
Mwy o wybodaeth
Cyfieithiad gan Emyr Edwards o ddrama Tennessee Williams, The Rose Tattoo. Drama sy'n addas ar gyfer ysgolion, colegau a chwmnïau drama.
Er bod Rhith y Rhosyn yn cael ei hystyried yn gomedi, eto i gyd mae ynddi elfennau o drasiedi bywyd. Mae'n cydnabod pwer dinistriol unigrwydd ar modd y bydd pobl yn dianc rhag ymosodiadau'r bywyd cymdeithasol sydd o'u cwmpas, a'r un pryd yn cynnig ymsuddo mewn rhywioldeb fel ateb iw problemau personol.
Mwy o wybodaeth
Dyma ddrama afaelgar am sefyllfa ddirdynnol tri ffrind 16 oed sy'n ceisio dygymod a'u bywydau gwahanol.
Dyw Elin ddim yn ffitio i mewn. Mae hi'n wahanol i'w mam a'i thad parchus, dosbarth canol; mae hi'n wahanol i Rhys, ei ffrind cydwybodol. Ond gyda Wes, mae pethau'n wahanol.
Fersiwn Saesneg hefyd ar gael.
Mwy o wybodaeth
Dyma lyfr cwrs cynhwysfawr a hyblyg ar gyfer myfyrwyr Astudiaethau Busnes sy'n dilyn cyrsiau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch a gwahanol gyrsiau proffesiynol.
Mae Astudiaethau Busnes Cyfrol 2 wedi'i drefnu'n unedau, gyda phob uned yn canolbwyntio ar bwnc penodol. Mae'r unedau'n cynnwys triniaeth gynhwysfawr o'r pwnc dan sylw ynghyd â chynnwys diagramau lliw llawn i gynorthwyo'r egluro. Ar ddiwedd Cyfrol 2 mae unedau ar gasglu, cyflwyno a dadansoddi data, ac arweiniad ynghylch astudio effeithiol ac asesu.
Mwy o wybodaeth
Llyfr a fydd yn sicrhau y bydd gennych y sgiliau hanfodol a’r gefnogaeth i lwyddo yn y cymwysterau diweddaraf – Tystysgrif Lefel 1 a Diploma Lefel 2 mewn Gwasanaeth Bwyd a Diod Proffesiynol.
Dyluniwyd y llyfr yn arbennig ar gyfer dysgwyr Lefel 1 a Lefel 2. Mae’n egluro’r prif gysyniadau yn glir, ac mae’r testunau wedi’u mapio’n ofalus i gymhwyster NVQ a Thystysgrif a Diploma mewn Gwasanaeth Bwyd a Diod (VRQ) ar Lefelau 1 a 2.
Mwy o wybodaeth