Adnodd gwreiddiol ar roc a phop, theatr gerdd a jazz i gefnogi disgyblion sy’n dilyn manyleb diwygiedig CBAC UG a Safon Uwch Cerddoriaeth.
Mae'r cynnwys yn seiliedig ar Uned 3 Cerddoriaeth UG CBAC maes astudio B, C a D ac Uned 6 Cerddoriaeth Safon Uwch CBAC Haen 3, 4, a 5 ac yn ymdrin â'r canlynol:
• Roc a Phop 1965 - 1990 a cherddoriaeth boblogaidd yng Nghymru (Gruff Rhys, Super Furry Animals, The Manic Street Preachers a Kizzy Crawford)
• Theatr gerdd (Porter, Rodgers, Schonberg a Lloyd-Webber) a theatr gerdd Americanaidd (Sondheim a Schwartz)
• Jazz 1940 - 1965 ac enwogion jazz (Duke Ellington a Miles Davies)
Addasiad Cymraeg o BTEC National Sports Student Book 1 ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio BTEC y Dystysgrif, y Dystysgrif Estynedig, y Diploma Sylfaenol a’r Diploma Estynedig. Mae’r llyfr yn cefnogi’r myfyrwyr drwy’r holl unedau gorfodol ac ystod o’r unedau dewisol, yn eu plith: Anatomeg a Ffisioleg; Iechyd, Chwaraeon a Lles; Seicoleg Chwaraeon; Datblygiad Proffesiynol mewn Chwaraeon. Mae’r llawlyfr gwreiddiol wedi ei ysgrifennu gan dîm o awduron arbenigol, yn cynnwys athrawon BTEC a gweithwyr chwaraeon proffesiynol.
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg o BTEC National Sports Student Book 2 ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio BTEC y Diploma Sylfaenol a’r Diploma Estynedig. Mae’r llyfr yn cefnogi’r myfyrwyr drwy’r holl unedau gorfodol ac ystod o’r unedau dewisol, yn eu plith: Dulliau Ymchwil ym maes Chwaraeon; Hunangyflogaeth yn y Diwydiant Chwaraeon; Rheoli Anafiadau Chwaraeon; Trefnu Digwyddiad Chwaraeon. Mae’r llawlyfr gwreiddiol wedi ei ysgrifennu gan dîm o awduron arbenigol, yn cynnwys athrawon BTEC a gweithwyr chwaraeon proffesiynol.
Mwy o wybodaeth