Nofel wreiddiol gan yr awdures Eiddwen Jones.
Nofel hanesyddol afaelgar wedi'i lleoli yn sir y Fflint a swydd Cumbria ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Does dim dianc rhag y twyll ddaw i blagio Phoebe Hughes, morwyn ifanc ar fferm Caeau Gwylltion
Mwy o wybodaeth
Llyfr newydd, gwreiddiol i ddysgwyr ar lefel Canolradd. Rhan o’r gyfres Amdani.
Nofel iasoer am Sara, tiwtor Cymraeg. Mae grŵp o bobl Prydeinig yn penderfynu ymgartrefu yng nghefn gwlad Gwynedd ac maent yn awyddus i ddechrau ymdoddi i’r gymuned newydd. Mae Paul, arweinydd y grŵp, yn penodi Sara i ddysgu Cymraeg iddynt. Maen nhw’n talu’n hael, yn gweithio’n galed ac mae Sara’n gweld Paul yn ddeniadol iawn! Ydy Sara wedi dod o hyd i'r bywyd perffaith yn y gymuned newydd neu oes cyfrinachau tywyll yn cuddio ar fferm Bywyd Newydd?
Addasiad Cymraeg o Student Guide WJEC/EDUQAS Business – Business analysis and strategy ar gyfer myfyrwyr TAG Uwch Blwyddyn 2. Mae’r gyfrol wreiddiol yn Saesneg wedi ei hysgrifennu gan yr athrawon profiadol Mark Hage a Tracey Bell, ac wedi ei gyhoeddi gan wasg Hodder Education. Mae’r gyfrol yn cynnwys crynodebau clir ar y testunau gosod, gyda chwestiynau ac atebion enghreifftiol i wella techneg y myfyriwr yn yr arholiad.
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg o BTEC National Sports Units 1 and 2 Revision Workbook sy’n rhoi cyfle i’r myfyrwyr ymarfer eu dealltwriaeth o’r meysydd o dan sylw.
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg o The Compassionate Mind Approach to Postnatal Depression gan Michelle Cree. Gall cael babi fod yn gyfnod o lawenydd ond hefyd yn destun pryder a hyd yn oed iselder i famau newydd. Mae’n gyffredin iawn i famau newydd brofi cyfnod byr o bryder yn dilyn genedigaeth ac i fwy nag 1 o bob 10 menyw, gall y profiad ofidus hwn fod yn fwy hirfaith. Bydd y llyfr hunangymorth ymarferol hwn sy’n seiliedig ar Therapi sy’n Canolbwyntio ar Dosturi yn eich helpu i adnabod rhai o’r symptomau a, lle bo hynny’n briodol, eu normaleiddio, a thrwy hynny leddfu eu gofid. Bydd hefyd yn tywys mamau i fod, a mamau newydd trwy’r ddrysfa o deimladau dryslyd a all godi.
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg o Student Guide WJEC/EDUQAS Business – Business opportunities ar gyfer myfyrwyr UG/Uwch Blwyddyn 1. Mae’r gyfrol wreiddiol yn Saesneg wedi ei hysgrifennu gan yr athrawon profiadol Mark Hage a Tracey Bell, ac wedi ei gyhoeddi gan wasg Hodder Education. Mae’r gyfrol yn cynnwys crynodebau clir ar y testunau gosod, gyda chwestiynau ac atebion enghreifftiol i wella techneg y myfyriwr yn yr arholiad.
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg o BTEC National Sports Student Book 1 ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio BTEC y Dystysgrif, y Dystysgrif Estynedig, y Diploma Sylfaenol a’r Diploma Estynedig. Mae’r llyfr yn cefnogi’r myfyrwyr drwy’r holl unedau gorfodol ac ystod o’r unedau dewisol, yn eu plith: Anatomeg a Ffisioleg; Iechyd, Chwaraeon a Lles; Seicoleg Chwaraeon; Datblygiad Proffesiynol mewn Chwaraeon. Mae’r llawlyfr gwreiddiol wedi ei ysgrifennu gan dîm o awduron arbenigol, yn cynnwys athrawon BTEC a gweithwyr chwaraeon proffesiynol.
Mwy o wybodaeth