COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 25

  1. Cofio Anghofio

    Cofio Anghofio

    Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Uwch. Stori deimladwy am ymdrech dwy chwaer i ddod i delerau â dementia eu mam, a'i effaith ar eu bywydau. Addasiad Cymraeg Elin Meek o Forget to Remember gan Alan Maley. Mwy o wybodaeth
    £8.99

  2. Darllen yn Well: Bod Yn Bositif Am Ddementia

    Darllen yn Well: Bod Yn Bositif Am Ddementia

    Addasiad o Dementia Positive gan John Killick. Yn y llyfr twymgalon ac ysgogol hwn, mae John Killick yn herio'r tybiaethau hyn. Mae'n dangos sut y gallwn helpu a gwella bywyd y personau â dementia. Llawlyfr hanfodol i unrhyw un sy’n byw gyda diagnosis o ddementia, yn ogystal ag i bobl broffesiynol ynghlwm â gofal dementia a pherthnasau sy’n chwilio am wybodaeth am y cyflwr. Mae dementia yn gyflwr dirgel. Mae’n dychryn llawer ohonom. Teimlwn yn ddiymadferth pan ddown wyneb yn wyneb ag ef. Nid oes raid i bethau fod fel hyn. Mwy o wybodaeth
    £9.99

  3. Siwan a Cherddi Eraill

    Siwan a Cherddi Eraill

    Argraffiad newydd Atebol yn 2020 o gyfrol enwog Saunders Lewis, Siwan a Cherddi Eraill, a cyhoeddwyd yn flaenorol gan Wasg Dinefwr. Mae’r gyfrol yn cynnwys y ddrama fydryddol Siwan (1954), sy’n portreadu perthynas Siwan â Llywelyn Fawr, a’i charwriaeth gyda Gwilym Brewys. Ceir hefyd rhai o gerddi prin y bardd a’r dramodydd. Mae’r ddrama Siwan ar faes llafur TAG UG Cymraeg (Iaith Gyntaf) CBAC (Uned 1 Y Ffilm a’r Ddrama a Llafaredd).

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  4. Annwyl Dementia - Y Chwerthin a'r Dagrau

    Annwyl Dementia - Y Chwerthin a'r Dagrau

    Addasiad celfydd o lyfr sy'n crisialu'r rhwystredigaeth a'r heriau a wynebir gan unigolion sydd â dementia, eu teuluoedd a staff gofal. Llyfr y gall plant ei ddarllen a'i ddeall, sy'n dangos sut y gall dementia effeithio ar bob un ohonom, a pha mor bwysig yw dangos empathi. Mae'n cynnwys delweddau trawiadol a phytiau sy'n gymysgedd o'r digrif a'r dwys. Mwy o wybodaeth
    £9.99

  5. Wynne Evans - O Gaerfyrddin i Go Compare

    Wynne Evans - O Gaerfyrddin i Go Compare

    Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Mynediad. Bywgraffiad Wynne Evans. Darlun personol a gonest iawn o hanes Wynne a'i deulu, ei brofiadau fel tenor enwog, a'i ymdrech fel oedolyn i ddysgu Cymraeg. Mwy o wybodaeth
    £4.99

  6. Cariad Pur (teitl i'w gadarnhau)

    Cariad Pur (teitl i'w gadarnhau)

    Llyfr newydd, gwreiddiol i ddysgwyr ar lefel Canolradd. Rhan o’r gyfres Amdani.

    Nofel iasoer am Sara, tiwtor Cymraeg. Mae grŵp o bobl Prydeinig yn penderfynu ymgartrefu yng nghefn gwlad Gwynedd ac maent yn awyddus i ddechrau ymdoddi i’r gymuned newydd. Mae Paul, arweinydd y grŵp, yn penodi Sara i ddysgu Cymraeg iddynt. Maen nhw’n talu’n hael, yn gweithio’n galed ac mae Sara’n gweld Paul yn ddeniadol iawn! Ydy Sara wedi dod o hyd i'r bywyd perffaith yn y gymuned newydd neu oes cyfrinachau tywyll yn cuddio ar fferm Bywyd Newydd?

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  7. CBAC Canllaw Myfyrwyr: Busnes – Dadansoddiad Busnes a Strategaeth

    CBAC Canllaw Myfyrwyr: Busnes – Dadansoddiad Busnes a Strategaeth

    Addasiad Cymraeg o Student Guide WJEC/EDUQAS Business – Business analysis and strategy ar gyfer myfyrwyr TAG Uwch Blwyddyn 2. Mae’r gyfrol wreiddiol yn Saesneg wedi ei hysgrifennu gan yr athrawon profiadol Mark Hage a Tracey Bell, ac wedi ei gyhoeddi gan wasg Hodder Education. Mae’r gyfrol yn cynnwys crynodebau clir ar y testunau gosod, gyda chwestiynau ac atebion enghreifftiol i wella techneg y myfyriwr yn yr arholiad.

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

  8. Ynghylch Dementia

    Ynghylch Dementia

    Llyfryn sy'n esbonio'r cyflwr dementia, ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Y llyfr cyntaf erioed yn y Gymraeg sy'n esbonio'r cyflwr Dementia i bobl sydd ag anableddau dysgu. Addasiad naturiol a chlir gan addasydd profiadol. Mwy o wybodaeth
    £8.00

  9. Darllen yn Well: Canllaw Bychan ar Gyfer Deall Clefyd Alzheimer a Mathau Eraill o Ddementia

    Darllen yn Well: Canllaw Bychan ar Gyfer Deall Clefyd Alzheimer a Mathau Eraill o Ddementia

    Addasiad o A Pocket Guide to Understanding Alzheimer's Disease and other Dementias gan Dr James Warner a Dr Nori Graham. Mwy o wybodaeth
    £9.99

  10. CBAC Canllaw Myfyrwyr: Busnes – Cyfleoedd Busnes

    CBAC Canllaw Myfyrwyr: Busnes – Cyfleoedd Busnes

    Addasiad Cymraeg o Student Guide WJEC/EDUQAS Business – Business opportunities ar gyfer myfyrwyr UG/Uwch Blwyddyn 1. Mae’r gyfrol wreiddiol yn Saesneg wedi ei hysgrifennu gan yr athrawon profiadol Mark Hage a Tracey Bell, ac wedi ei gyhoeddi gan wasg Hodder Education. Mae’r gyfrol yn cynnwys crynodebau clir ar y testunau gosod, gyda chwestiynau ac atebion enghreifftiol i wella techneg y myfyriwr yn yr arholiad.

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 25