Addasiad Cymraeg Eurig Salisbury o The Creature Choir gan David Walliams. Stori ryfeddol am Walrws sydd wrth ei bodd yn canu. Yn anffodus, nid yw hi'n dda iawn! A phan mae ei chanu erchyll yn achosi eirlithriad mae'r morfilod eraill yn troi eu cefnau arni. Ond pan fyddwch chi'n canu fel pe na bai unrhyw un yn gwrando, weithiau maen nhw'n dechrau eich clywed chi...
Mwy o wybodaeth
Mae'r set yn cynnig cyfle i blant chwarae yn greadigol a mynd i fyd sy'n llawn dychymyg. Tu mewn mae llyfr bwrdd gyda golygfeydd prysur o fyd siopa yn llawn gwrthrychau i'w gweld a'u darganfod, yn ogystal â 15 darn jig-so trwchus i'w gosod yn nhudalennau'r llyfr.
Mwy o wybodaeth
Llyfr poblogaidd arall yng nghyfres Alphaprints. Dyma lyfr bwrdd lliwgar a doniol am griw o ddeinosoriaid difyr!
Mae pob deinosor yn cynrychioli siap gwahanol, ac mae'n ffordd wych o ddysgu'r plant am y siapiau mwyaf cyffredin.
Mae'r darluniau'n drawiadol, ac wedi eu creu gydag olion bysedd. Llyfr deniadol fydd yn siwr o blesio'r plant ifanc dro ar ôl tro.
Mwy o wybodaeth
Dyma ffordd ddifyr o gyflwyno dyddiau cynnar yr ysgol i'r plentyn. Cyfle i fwynhau a dysgu yr un pryd.
Yn cynnwys dros 100 o sticeri.
Mwy o wybodaeth