Llyfr bwrdd lliwgar sy'n cyflwyno rhifau o 1 i 20.
Mae'r tudalennau'n cynnwys delweddau cyfoes a thrawiadol gyda rhifau a rhifolion yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae'n lyfr rhyngweithiol sy'n gofyn cwestiynnau ac mae'n rhaid codi'r fflap i ddarganfod yr ateb. Llyfr sy'n helpu teuluoedd i ddatblygu sgiliau cyfri, datblygu sgiliau siarad a sgiliau cyd symud llygad y plentyn.
Mwy o wybodaeth
Mae pob plentyn yn hoffi chwarae pi - po ac yn y llyfr dwyieithog hwn cewch gwrdd ag anifeiliaid sy'n cuddio dan y fflapiau!
Mae Pi-Po Fferm yn ysgogi'r dychymyg a'r cof ac yn annog cyd-chwarae hapus rhwng plant a'u rhieni.
Mwy o wybodaeth
Llyfr bwrdd llawn lluniau lliwgar. Mae cyfle i godi fflapiau ac i gyffwrdd a theimlo gwahanol rannau o'r llyfr wrth ddysgu am liwiau.
Mwy o wybodaeth
Llyfr stori ddwyieithog sy'n dod yn fyw gyda'r pyped Brog Broga!
Stori am froga sydd wedi tyfu'n fawr ac sy'n chwilio am gartref newydd. Mae'n darganfod cartref braf gerllaw'r felin wynt, ond mae aderyn brawychus gerllaw. Mae'n darganfod safle braf ar ochr y ffordd, ond mae o'n rhy swnllyd! Tybed a fydd Brog Broga druan yn llwyddo i ganfod cartref cyn diwedd y stori?
Llyfr pyped sy'n annog plant i ryngweithio ac ymateb, ac sy'n annog diddordeb mewn llyfrau o oed ifanc iawn.
Mwy o wybodaeth
Llyfr bwrdd dwyieithog a lliwgar i blant bach, sy'n cyflwyno 50 o'r geiriau mwyaf cyffredin.
Llyfr rhyngweithiol gyda fflapiau sy'n codi a thudalennau sy'n canolbwyntio ar themu penodol megis 'Amser Bwyd', 'Amser Bath' a 'Gwisgo'. Bydd plant wrth eu bodd yn chwilota am yr atebion ac yn ymarfer geiriau newydd. Llyfr gwych sy'n cyflwyno sgiliau llafar.
Mwy o wybodaeth