Mae'r set yn cynnig cyfle i blant chwarae yn greadigol a mynd i fyd sy'n llawn dychymyg. Tu mewn mae llyfr bwrdd gyda golygfeydd prysur o fyd y fferm yn llawn gwrthrychau i'w gweld a'u darganfod, yn ogystal â 15 darn jig-so trwchus i'w gosod yn nhudalennau'r llyfr.
Mwy o wybodaeth
Llyfrau ffuglen ar gyfer plant sy'n dysgu darllen Cymraeg fel ail iaith. Addas i'w defnyddio yn annibynnol neu mewn grwpiau. Stori syml am Moli a Meg yn mwynhau pryd blasus o fwyd yn y caffi.
*Mae dyluniad y clawr yn gallu amrywio yn unol â’r cyflenwad stoc.
Llyfrau ffuglen ar gyfer plant sy'n dysgu darllen Cymraeg fel ail iaith. Addas i'w defnyddio yn annibynnol neu mewn grwpiau. Stori syml am Moli a Meg yn cadw'n heini wrth fentro i'r gampfa. *Mae dyluniad y clawr yn gallu amrywio yn unol â’r cyflenwad stoc.
*Mae dyluniad y clawr yn gallu amrywio yn unol â’r cyflenwad stoc.
** Testun Saesneg ar gael yng nghefn y llyfr **
Cyfrol annwyl a theimladwy cyn mynd i gysgu wrth i riant gyflwyno rhai o ryfeddodau’r byd i’w plentyn. Dilynwn y dydd o’r wawr i’r machlud wrth i ni ddarllen am y rhyfeddodau sydd ar gael i’w profi. Digwydd hyn trwy ddefnyddio’r pum synnwyr fel modd o ddangos yr ystod o brofiadau sydd i’w cael ynghanol byd natur.
Elfennau cyfarwydd i blant Cymru sydd yma (plant y wlad a’r ddinas hefyd) - pethau fel teimlo dail yr hydref dan draed, arogli rhosod a blasu mwyar duon. Mae’r delweddau sensitif o anifeiliaid y môr, y tir a’r awyr yn rhai annwyl a hoffus ac at chwaeth plant ifanc.
Egyr y llyfr gyda sbloets o liw wrth i ni weld yr haul yn gwawrio. Erbyn y dudalen olaf, mae’r lliwiau wedi pylu wrth iddi nosi ar derfyn y dydd.
Allwch chi ddod o hyd i Mami T.rex yn cuddio tu ôl i'r fflapiau Gwyliwch rhag ofn bydd deinosoriaid bach yn neidio allan!
Mae'r llyfr hwn yn ysgogi'r dychymyg a'r cof ac yn annog cyd-chwarae hapus rhwng plant a'u rhieni. Mae dysgu trwy chwarae yn hwyl, ac mae pob plentyn bach yn mwynhau chwarae pi-po!
Mwy o wybodaeth
Llyfrau ffuglen ar gyfer plant sy'n dysgu darllen Cymraeg fel ail iaith. Addas i'w defnyddio yn annibynnol neu mewn grwpiau. Stori syml am Moli a Meg yn mwynhau ym mharti pen-blwydd Llew.
*Mae dyluniad y clawr yn gallu amrywio yn unol â’r cyflenwad stoc.
Addasiad Cymraeg Eurig Salisbury o The Creature Choir gan David Walliams. Stori ryfeddol am Walrws sydd wrth ei bodd yn canu. Yn anffodus, nid yw hi'n dda iawn! A phan mae ei chanu erchyll yn achosi eirlithriad mae'r morfilod eraill yn troi eu cefnau arni. Ond pan fyddwch chi'n canu fel pe na bai unrhyw un yn gwrando, weithiau maen nhw'n dechrau eich clywed chi...
Mwy o wybodaeth
Mae Amser Chwarae: Bocs Tŵls Adeiladwr yn cynnig cyfle i blant chwarae yn greadigol a mynd i fyd sy'n llawn dychymyg. Mae'r bocs yn cynnwys 15 darn jig-so sy'n ffitio i mewn i'r llyfr bwrdd lliwgar. Ffordd wych o ddysgu sgiliau creadigol, cydsymud a datrys problemau.
Mwy o wybodaeth
CYNNIG ARBENNIG
Mae'r 2 lyfr yma'n costio £6.99 yr un ond drwy eu prynu fel pecyn byddwch yn arbed £4!
2 lyfr yn cynnwys lluniau trawiadol a thestun rhyngweithiol sy'n odli. Cyfle gwych i gyffwrdd ac arbrofi gyda'r lluniau trawiadol a'r tudalennau defnydd meddal.
Gallwch eu golchi yn y peiriant golchi. 2 lyfr dwyieithog mewn bocs anrheg arbennig.
Regular Price: £14.00
Pris Arbennig £10.00