COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

11-14 o 14

  1. 100 Rhifau Cyntaf

    100 Rhifau Cyntaf

    Llyfr bwrdd deniadol a dwyieithog sy'n cynorthwyo plant i ddysgu rhifau a dechrau cyfri.

    Mae'r tudalennau lliwgar yn cynnwys delweddau o fwydydd, teganau, planhigion, anifeiliaid - pob math o bethau difyr i annog y plant i gyfri! Mae'r rhifau wedi eu hysgrifennu yn y Gymraeg a'r Saesneg ac hefyd i'w gweld fel rhifolion. Anrheg poblogaidd iawn!

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  2. 100 Geiriau, Lliwiau, Siapiau

    100 Geiriau, Lliwiau, Siapiau

    Llyfr bwrdd lliwgar sy'n rhan o'n Cyfres 100 i blant ifanc. Dyma lyfr defnyddiol a lliwgar sy'n helpu'r plentyn i ddysgu geirfa syml, lliwiau a siapiau. Llyfr gwych i baratoi'r plentyn ar gyfer yr ysgol. Hefyd yn addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Mwy o wybodaeth
    £7.99

  3. 20 Rhif Cyntaf

    20 Rhif Cyntaf

    Llyfr bwrdd lliwgar sy'n cyflwyno rhifau o 1 i 20.

    Mae'r tudalennau'n cynnwys delweddau cyfoes a thrawiadol gyda rhifau a rhifolion yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae'n lyfr rhyngweithiol sy'n gofyn cwestiynnau ac mae'n rhaid codi'r fflap i ddarganfod yr ateb. Llyfr sy'n helpu teuluoedd i ddatblygu sgiliau cyfri, datblygu sgiliau siarad a sgiliau cyd symud llygad y plentyn.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  4. Broga Broga - Llyfr Pyped

    Broga Broga - Llyfr Pyped

    Llyfr stori ddwyieithog sy'n dod yn fyw gyda'r pyped Brog Broga!

    Stori am froga sydd wedi tyfu'n fawr ac sy'n chwilio am gartref newydd. Mae'n darganfod cartref braf gerllaw'r felin wynt, ond mae aderyn brawychus gerllaw. Mae'n darganfod safle braf ar ochr y ffordd, ond mae o'n rhy swnllyd! Tybed a fydd Brog Broga druan yn llwyddo i ganfod cartref cyn diwedd y stori?

    Llyfr pyped sy'n annog plant i ryngweithio ac ymateb, ac sy'n annog diddordeb mewn llyfrau o oed ifanc iawn.

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

Set Descending Direction

Grid List

11-14 o 14