COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 12

  1. Alphaprints - Lliwiau

    Alphaprints - Lliwiau

    Cyfres o lyfrau bwrdd lliwgar a chyfoes, i blant bach cyn oed ysgol. Gyda delweddau trawiadol wedi'u creu gydag olion bysedd a graffeg cyfoes a thestun crynno a syml, dyma gyfres sy'n siwr o ysbrydoli diddordeb mewn llyfrau o oed ifanc. Lliwiau yw ffocws y llyfr hwn, ac mae'r delweddau a'r tudalennau sgleiniog yn ffordd hwyliog ac effeithiol o addysgu'r plant a'u paratoi ar gyfer yr ysgol. Mae llyfrau Alphaprints yn anrhegion arbennig a defnyddiol i blant bach. Dwyieithog. Mwy o wybodaeth
    £7.99

  2. Alphaprint - Cyw a'i ffrindiau

    Alphaprint - Cyw a'i ffrindiau

    Llyfr lliwgar dwyieithog fydd yn siwr o blesio plant bach. Cyfle i ddarllen penillion am yr anifeiliaid unigol tra'n cyffwrdd a theimlo'r darluniau hardd, wedi eu creu gydag olion bysedd! Mwy o wybodaeth
    £5.99

  3. Alphaprints - Ti'n Werth y Byd!

    Alphaprints - Ti'n Werth y Byd!

    Llyfr cyffwrdd a theimlo lliwgar a deniadol sy'n siwr o blesio'r rhai bach. Mae'r llyfr yn rhan o'r gyfres 'Alphaprints', sef cyfres o lyfrau cyffwrdd a theimlo gyda darluniau trawiadol wedi'u creu ag olion bysedd a gwaith graffeg unigryw. Addas i fabanod a phlant 0-4 oed. Mwy o wybodaeth
    £5.99

  4. 100 Geiriau Cyntaf - Fferm

    100 Geiriau Cyntaf - Fferm

    Un o'n cyfres 100 ar gyfer plant ifanc. Llyfr bwrdd lliwgar sy'n cyflwyno 100 o ddelweddau a geiriau o fyd y fferm. Llyfr fydd yn helpu'r plentyn i ddatblygu geirfa yn y Gymraeg. Mae ein cyfres 100 yn ffocysu ar y themau bydd eich plentyn chi yn astudio yn ystod y cyfnod cynnar yn yr Ysgol; Anifeiliaid, Lliwiau, Rhifau a Siapiau. Mwy o wybodaeth
    £7.99

  5. 20 Rhif Cyntaf

    20 Rhif Cyntaf

    Llyfr bwrdd lliwgar sy'n cyflwyno rhifau o 1 i 20.

    Mae'r tudalennau'n cynnwys delweddau cyfoes a thrawiadol gyda rhifau a rhifolion yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae'n lyfr rhyngweithiol sy'n gofyn cwestiynnau ac mae'n rhaid codi'r fflap i ddarganfod yr ateb. Llyfr sy'n helpu teuluoedd i ddatblygu sgiliau cyfri, datblygu sgiliau siarad a sgiliau cyd symud llygad y plentyn.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  6. Codi Fflap: Pi-Po Fferm

    Codi Fflap: Pi-Po Fferm

    Mae pob plentyn yn hoffi chwarae pi - po ac yn y llyfr dwyieithog hwn cewch gwrdd ag anifeiliaid sy'n cuddio dan y fflapiau!

    Mae Pi-Po Fferm yn ysgogi'r dychymyg a'r cof ac yn annog cyd-chwarae hapus rhwng plant a'u rhieni.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  7. Fy Antur i'r Lleuad!

    Fy Antur i'r Lleuad!

    Llyfr stori sy'n sôn am antur i'r lleuad gyda'r darllenydd yn rhan o'r stori!

    Addas i blant y Blynyddoedd Cynnar a'r Cyfnod Sylfaen.

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  8. 100 Geiriau Cyntaf

    100 Geiriau Cyntaf

    Un o lyfrau Cyfres 100 Atebol ar gyfer plant ifanc. Adargraffiad. 

    Llyfr bwrdd lliwgar sy'n cyflwyno 100 o eiriau cyntaf yn y Gymraeg. Geiriadur hwyliog a syml! Mae'r geiriau'n eiriau bob dydd ar wahanol themu; Bwyd, Cartref, Dillad, Lliwiau, Teganau, Anifeiliaid Fferm ... Mae'r gair Cymraeg a Saesneg o dan bob llun, a bydd hyn o gymorth i rieni sy'n dymuno dysgu Cymraeg gyda'u plant yn ogystal a dysgwyr. Anrheg poblogaidd iawn.

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  9. Geiriau Cyntaf

    Geiriau Cyntaf

    Llyfr dwyieithog sy'n helpu'r plentyn i ddatblygu geirfa. Yn cynnwys cardiau fflach i'w defnyddio fel gêm. Gyda lle storio ar gyfer y cardiau fflach. Mwy o wybodaeth
    £9.99

  10. 100 Anifeiliaid Cyntaf

    100 Anifeiliaid Cyntaf

    A title from our 100 series for younger children. This colourful board book introduces 100 animals with colourful images and the animal name in Welsh. This book will help to develop your child's Welsh language skills from an early age. This book encourages families to read and play together. Our 100 series are based on the themes that children study during their early days at school; Animals, Colours, Shapes and Numbers. Mwy o wybodaeth
    £7.99

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 12