Mwy o anturiaethau'r Pump Prysur, addasiad Cymraeg Manon Steffan Ross o Famous Five gan Enid Blyton.
Mae'n noswyl Nadolig ac mae'r Pump Prysur yn eiddgar i agor eu hanrhegion - yn arbennig Twm! Ond pan mae Twm yn dechrau cyfarth yn uchel, caiff ei anfon allan o'r ty. Ond mae 'na leidr yn y ty sydd am ddwyn yr anrhegion i gyd! Fydd Twm yn llwyddo i achub y sefyllfa?
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o gyfres The Famous Five gan Enid Blyton.
Mae Jo yn gweld golau ar Ynys Curig yng nghanol y nos. Dyma'r cliw cyntaf fod pobl ddieithr wedi glanio ar yr ynys. Pwy yw'r ymwelwyr hyn, a pham maen nhw ar yr ynys o gwbl?
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o The Famous Five gan Enid Blyton.
Un diwrnod, mae ceffyl rasio enwog yn diflannu a neb yn gwybod i ble mae'r ceffyl wedi mynd. Mae angen i'r Pump Prysur ddatrys y broblem...ond a fyddant yn llwyddo?!
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o gyfres The Famous Five gan Enid Blyton.
Pan mae'r Pump Prysur ar eu ffordd i'r sinema mae Twm yn gweld cath a rhuthro ar ei hôl gan arwain y giang i dy gwag. Ydy'r ty yn hollol wag? Mae yna synau od iawn i'w clywed oddi yno..
Mwy o wybodaeth
Addasiad Manon Steffan Ros o gyfres The Famous Five gan Enid Blyton.
Yn y stori hon, mae'r 'Pump Prysur' yn dyheu am bnawn diog, ond ai felly mae hi fod! A beth mae'r dynion ar y motobeics yn ei wneud?.
Mwy o wybodaeth
Mae Twm y ci yn amheus o'r bobl ar y trên. Beth sydd mor rhyfedd am un o'r teithwyr? A fydd y Pump yn medru datrys y dirgelwch?
Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o un o lyfrau cyfres The Famous Five gan Enid Blyton.
Mwy o wybodaeth