COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 97

  1. Llyfrau Henri Helynt: Henri Helynt a'r Ysbryd

    Llyfrau Henri Helynt: Henri Helynt a'r Ysbryd

    Gwalch drwg yw Henri, ond mae e'n hwyl! Addasiad Cymraeg o un o lyfrau'r gyfres 'Horrid Henry' (Horrid Henry's Haunted House). Llyfrau darllen hwyliog ar gyfer CA2 - pedair stori fer ym mhob cyfrol. Addas i ddarllenwyr rhwng 7-9 oed. Mwy o wybodaeth
    £4.99

  2. Y Gwningen a'r Arth: Beth yn y Byd?

    Y Gwningen a'r Arth: Beth yn y Byd?

    Addasiad Cymraeg o Rabbit & Bear: Pest in the Nest gan Julian Gough. Dyma’r ail lyfr mewn cyfres.

    “LLONYDD A THAWELWCH,” gwaeddodd y Gwningen, “DYNA’R CYFAN DWI EISIAU.”

    Rhwng chwyrnu ei ffrind, yr Arth, a sŵn CNOC, CNOC, CNOC ar frig y goeden, mae’r Gwningen yn gwybod bod yn Rhaid Gwneud Rhywbeth. Ond i fyny yn y canghennau, efallai y gall yr Arth ddangos i’r Gwningen sut i weld y byd mewn ffordd wahanol. Stori am gyfeillgarwch, doethineb a sut i fod yn SWNLLYD IAWN.

    “Stori sy’n gwneud ichi chwerthin yn uchel.” NEIL GAIMAN

    “Dylai hwn ddod yn glasur modern. Beiddgar, difyr a doniol.” EOIN COLFER

    • Darluniau gwych gan Jim Field ar bob tudalen
    • Mae hon yn stori am gyfeillgarwch, doethineb, a sut i fod yn SWNLLYD IAWN!
    • Yn ddelfrydol ar gyfer darllenwyr sy’n symud ymlaen o lyfrau lluniau.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  3. Coronafeirws: Llyfr i blant

    Coronafeirws: Llyfr i blant

    Ydych chi’n chwilio am lyfr sy’n egluro’r coronafeirws mewn ffordd ddealladwy a syml i blant oedran cynradd? Dyma addasiad Cymraeg Atebol o lyfr gwybodaeth AM DDIM cwmni cyhoeddi Nosy Crow, sydd wedi ei ddarlunio gan ddarlunydd llyfrau Gruffalo, Axel Scheffler.

    Dyma lyfr digidol ar gyfer plant oedran cynradd, ar gael am ddim i’w ddarllen ar y sgrin neu i’w argraffu, yn egluro beth yw’r coronafeirws a’r mesurau i’w reoli. Ysgrifennwyd y llyfr Saesneg gwreiddiol gyda mewnbwn arbenigol gan yr ymgynghorydd Yr Athro Graham Medley o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, dau brifathro a seicolegydd plant.

    Mae’r llyfr yn ateb y cwestiynau allweddol canlynol mewn iaith syml sy’n addas ar gyfer plant rhwng 5 a 9 oed:

    • Beth yw’r coronafeirws?
    • Sut mae rhywun yn dal y coronafeirws?
    • Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn dal y coronafeirws?
    • Pam mae pobl yn poeni am ddal y coronafeirws?
    • A oes ffordd o wella pobl o’r coronafeirws?
    • Pam mae rhai o’r llefydd rydyn ni fel arfer yn ymweld â nhw ar gau?
    • Sut beth yw hi i fod gartref drwy’r amser?
    • Beth alli di ei wneud i helpu?
    • Beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf?

    Gellir gweld y llyfr drwy edrych ar yr e-lyfr uchod neu drwy ei lawrlwytho gan glicio ar y botwm I’r ddogfen.

    Am fwy o wybodaeth am y cyhoeddiad Saesneg, gweler yma.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  4. Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Sinema

    Mynd am Dro gyda Moli a Meg i'r Sinema

    Llyfrau ffuglen ar gyfer plant sy'n dysgu darllen Cymraeg fel ail iaith. Addas i'w defnyddio yn annibynnol neu mewn grwpiau. Stori syml am Moli a'i ffrind, Meg y gath, yn mwynhau bwyta popcorn wrth ymweld â'r sinema.

    *Mae dyluniad y clawr yn gallu amrywio yn unol â’r cyflenwad stoc.

    Mwy o wybodaeth
    £3.50

  5. Llyfrau Henri Helynt: Henri Helynt yn Dwyn o'r Banc

  6. Llyfrau Henri Helynt: Henri Helynt yn Twyllo'r Tylwyth Teg

    Llyfrau Henri Helynt: Henri Helynt yn Twyllo'r Tylwyth Teg

    Addasiad Cymraeg o Horrid Henry tricks the Tooth Fairy. Pedair o straeon am anturiaethau teulu Henri Helynt, ei frawd iau, Alun Angel, a'u rhieni, gan gynnwys, y stori 'Henri Helynt yn Twyllo'r Tylwyth Teg'. Addas i ddarllenwyr rhwng 7-9 oed. Cyhoeddwyd gyntaf ym mis Medi 2006. Mwy o wybodaeth
    £4.99

  7. Llyfrau Henri Helynt: Henri Helynt a'r Peiriant Amser Ha-Hardderchog

    Llyfrau Henri Helynt: Henri Helynt a'r Peiriant Amser Ha-Hardderchog

    Addasiad Cymraeg o un o lyfrau'r gyfres 'Horrid Henry' (Horrid Henry and the Mega-Mean Time Machine); llyfrau darllen hwyliog ar gyfer CA2. Mwy o wybodaeth
    £4.99

  8. Llyfrau Henri Helynt: Henri Helynt

    Llyfrau Henri Helynt: Henri Helynt

    Addasiad Cymraeg o Horrid Henry. Pedair o straeon am anturiaethau teulu Henri Helynt, ei frawd iau, Alun Angel, a'u rhieni, gan gynnwys y stori 'Henri Helynt'. Addas i ddarllenwyr rhwng 7-9 oed. Mwy o wybodaeth
    £4.99

  9. Branwen

    Branwen

    Mae’r llyfr hwn yn gynrychiolaeth graffig o ail gangen y Mabinogi, Branwen ferch Llŷr. Nod y llyfr yw cyflwyno plant a phobl ifanc i’r chwedl, ac i ail-ddweud y stori mewn ffordd weledol ac emosiynol i gynulleidfaoedd newydd gan ddefnyddio gwaith celf sy’n deillio o arteffactau hanesyddol go iawn.

    • Testun dwyieithog
    • Arlunwaith lliwgar, llachar a thrawiadol gyda chyfeiriadau cynnil at fywyd Celtaidd hynafol

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  10. Pump Prysur: Pump yn Achub y Dydd

    Pump Prysur: Pump yn Achub y Dydd

    Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o The Famous Five: Five To The Rescue. Stori fer gyda lluniau lliw newydd sbon. Pan mae'r Pump Prysur yn cael picnic ar lan y môr, maen nhw'n gweld oen mewn trafferth. Gyda neb arall wrth law i helpu, rhaid i'r Pump fynd ati i'w achub o'r tonnau. A fyddan nhw'n cyrraedd mewn pryd?

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 97