SÊL ymlaen! Hyd at 60% i ffwrdd ar eitemau penodol - ARCHEBWCH NAWR!

  • Gorffen mewn:    
  • Diwrnod
  • Awr
  • Munud
  • Eiliad
  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

SÊL ymlaen! Hyd at 60% i ffwrdd ar eitemau penodol - ARCHEBWCH NAWR!

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 84

  1. Dyma ni - Sut i fyw ar y Ddaear

    Dyma ni - Sut i fyw ar y Ddaear

    Gall y byd hwn fod yn lle dryslyd iawn weithiau, yn enwedig os wyt ti newydd gyrraedd. Tyrd i weld y blaned lle ry'n ni'n byw, er mwyn ateb rhai o'r cwestiynau sy'n berwi yn dy ben. O'r tir a'r môr i bobl ac amser, gall y llyfr hwn dy roi ar ben ffordd. Byddi di'n dod i ddeall rhai pethau ar dy ben dy hun hefyd. Ond cofia adael nodiadau ar gyfer pawb arall... Gall ein planed ni fod yn lle cymhleth iawn weithiau, ond gall fod yn syml iawn hefyd: mae llawer ohonon ni yma, felly bydd yn garedig.

    Mwy o wybodaeth

    £12.99

  2. Trio ac Antur yr Eisteddfod

    Trio ac Antur yr Eisteddfod

    Dyma’r trydydd llyfr yn y gyfres o dri sy’n dilyn anturiaethau ‘Trio’ – grŵp o ffrindiau sy’n caru antur ac yn anobeithiol o benderfynol o achub y dydd. Mae Trio, sef Clem Clyfar, Dilys Ddyfeisgar a Derec Dynamo eisoes wedi cael anturiaethau yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd a Chastell Caernarfon, ond y tro hwn maen nhw’n mentro i faes yr Eisteddfod! O fewn munudau i gyrraedd y maes, mae’r tri ffrind yn clywed si am antur... mae Cadair yr Eisteddfod wedi diflannu! Dilynwn y criw wrth iddyn nhw grwydro’r maes yn chwilio am y lleidr dieflig – a chamgyhuddo ambell eisteddfodwr ar y ffordd. Cyfres ysgafn a phoblogaidd, gyda digon o hiwmor i ddenu darllenwyr ifanc, newydd!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  3. Y Gwningen a’r Arth: Arferion Od Cwningod

    Y Gwningen a’r Arth: Arferion Od Cwningod

    Addasiad o Rabbit & Bear: Rabbit’s Bad Habits gan Julian Gough a Jim Field. Dyma’r llyfr cyntaf mewn cyfres o 4 llyfr.

    Mae Arth yn deffro’n gynnar un diwrnod ac yn penderfynu adeiladu dyn eira. Mae Cwningen, sy’n gymeriad swnllyd, holl-wybodus, yn dod ar draws Arth ac yn dweud wrthi sut i wneud hynny orau. Yna, daw Blaidd llwglyd i mewn i’r goedwig, ac mae e’n ffansio pastai cwningen –a’r Arth sy’n profi mai hi sy’n gwybod orau pan ddaw i gyfeillgarwch.

    Dyma’r math o stori sy’n gwneud i chi eisiau anfon eich plant i’r gwely’n gynnar fel y gallwch ei darllen iddyn nhw!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  4. Byd y Goeden Ffwrdd-â-Ni: Gwlad y Pethau Da

    Byd y Goeden Ffwrdd-â-Ni: Gwlad y Pethau Da

    Addasiad Manon Steffan Ros o gyfres The Magic Faraway Tree gan Enid Blyton.

    Cyhoeddwyd cyfres The Magic Faraway Tree dros 75 mlynedd yn ôl, ac mae'r gyfres yma'n addasiad cyfoes o'r llyfrau gwreiddiol, gyda lluniau lliwgar a llai o destun.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  5. Byd y Goeden Ffwrdd-â-Ni: Gwlad y Dymuniadau

    Byd y Goeden Ffwrdd-â-Ni: Gwlad y Dymuniadau

    Addasiad Manon Steffan Ros o gyfres The Magic Faraway Tree gan Enid Blyton.

    Cyhoeddwyd cyfres The Magic Faraway Tree dros 75 mlynedd yn ôl, ac mae'r gyfres yma'n addasiad cyfoes o'r llyfrau gwreiddiol, gyda lluniau lliwgar a llai o destun.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  6. Byd y Goeden Ffwrdd-â-Ni: Gwlad y Moddion Medrus

    Byd y Goeden Ffwrdd-â-Ni: Gwlad y Moddion Medrus

    Addasiad Manon Steffan Ros o gyfres The Magic Faraway Tree gan Enid Blyton.

    Cyhoeddwyd cyfres The Magic Faraway Tree dros 75 mlynedd yn ôl, ac mae'r gyfres yma'n addasiad cyfoes o'r llyfrau gwreiddiol, gyda lluniau lliwgar a llai o destun.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  7. Pecyn Posau Atebol

    Pecyn Posau Atebol

    Llyfr gweithgareddau A3 gyda 30 tudalen yn llawn posau, lluniau i'w creu a'u lliwio a llawer mwy!

    Anrheg poblogaidd, delfrydol ar gyfer difyrru plant ar ddiwrnod gwlyb, ar siwrne hir neu mewn parti pen-blwydd. Gellir gwneud y gweithgareddau yn unigol neu mewn grŵp.

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  8. Saith Selog: Brysiwch, Saith Selog, Brysiwch!

    Saith Selog: Brysiwch, Saith Selog, Brysiwch!

    Addasiad Manon Steffan Ros o 'Hurry Secret Seven, Hurry!', un o deitlau cyfres 'The Secret Seven' gan Enid Blyton.

    Stori antur am saith ffrind yn ceisio datrys dirgelwch.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  9. Pump Prysur: Pump Mewn Penbleth

    Pump Prysur: Pump Mewn Penbleth

    Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o gyfres The Famous Five gan Enid Blyton.

    Mae Jo yn gweld golau ar Ynys Curig yng nghanol y nos. Dyma'r cliw cyntaf fod pobl ddieithr wedi glanio ar yr ynys. Pwy yw'r ymwelwyr hyn, a pham maen nhw ar yr ynys o gwbl?

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  10. Pump Prysur: Go Dda, Twm

    Pump Prysur: Go Dda, Twm

    Un o wyth teitl yn yng nghyfres poblogaidd Y Pump Prysur - Addasiad Manon Steffan Ros o 'Famous Five' gan Enid Blyton. Straeon byrion gyda darluniau cyfoes a lliwgar, addas i ddarllenwyr 7 i 11 oed.

    Yn y stori anturus hon, mae'r Pump Prysur yn gweld bachgen bach yn cael ei heriwgipio ar y traeth. Mae nhw'n benderfynnol o ddod o hyd iddo, ond a fydd Twm y ci yn gallu darganfod yr ateb? Gellir prynnu'r pecyn o'r gyfres gyfan ar ein gwefan.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 84