COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

10 Eitem

  1. Help gyda Gwaith Cartref: Adio a Thynnu

    Help gyda Gwaith Cartref: Adio a Thynnu

    Llyfr i gefnogi plant gyda'u gwaith ysgol, i fagu hyder ynddynt ac i atgyfnerthu eu dealltwriaeth o sgiliau sylfaenol Rhifedd, yn arbennig elfennau Adio a Thynnu ar gyfer plant cynradd. Cynhwysir sticeri i'w gludo sy'n helpu'r plentyn i feithrin sgiliau adnabod a deall, ac mae is-destun Saesneg yn galluogi rhieni di-Gymraeg i helpu eu plant.

    Gair o eglurhad!
    Mae rhai o’r staplau ar y llyfr hwn yn dangos olion tarneisio ar y clawr allanol yn unig. Mae’r tudalennau mewnol a’r cynnwys heb eu heffeithio. Rydym felly wedi gostwng y pris i adlewyrchu hynny sef o £3.99 i £2.99. Gan ei bod yn gyfres mor boblogaidd rydym yn parhau i gynnig y llyfr o fewn ein rhestr o gyhoeddiadau addysgol.

    Mwy o wybodaeth

    Regular Price: £3.99

    Pris Arbennig £2.99

  2. Dewch i Fodelu Gyda: Clai

    Dewch i Fodelu Gyda: Clai

    Llyfr sy'n cynnig oriau o waith creadigol ac addysgol. Ceir yn y llyfr lu o syniadau ar gyfer gwneud modelau clai gyda chyfarwyddiadau cam-wrth-gam ar gyfer y plant. Llyfr sy'n cynnig cyfle i feddwl yn greadigol a chael ambell fflach o ysbrydoliaeth! Mwy o wybodaeth
    £6.99

  3. Cyfres Dewch i Chwilio: Y Sw

    Cyfres Dewch i Chwilio: Y Sw

    Cyfres o lyfrau darllen yw Dewch i Chwilio sy'n cyflwyno gwyddoniaeth i blant ifanc. Bwriad y gyfres ydy meithrin diddordeb mewn gwyddoniaeth ... a chreu awydd i ymchwilio ymhellach.

    Ymunwch yn niwrnod gwaith gofalwr y sw: dewch i fwydo'r anifeiliaid, dysgu am y teigrod ac arwain ymdaith y pengwiniaid!

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  4. Tic! Toc!  Dweud yr Amser

    Tic! Toc! Dweud yr Amser

    Llyfr gweithgareddau lliwgar sy'n helpu plant i ddysgu dweud yr amser. Llyfr defnyddiol ar gyfer y cartref ar ysgol sy'n cynnwys sticeri a phoster mawr. Mwy o wybodaeth
    £4.99

  5. Helfa Drysor ar y Fferm

    Helfa Drysor ar y Fferm

    Llyfr bwrdd dwyieithog i fabanod a phlant bach, gyda thudalennau sy'n agor allan yn fawr. Dyma gyfle gwych i'r plentyn chwilio, cyfri a mwynhau at y fferm. Llyfr i'w drysori fydd yn annog diddordeb plant mewn llyfrau. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  6. Cyfres Dewch i Chwilio: Cloddio am Ddinosoriaid

    Cyfres Dewch i Chwilio: Cloddio am Ddinosoriaid

    Cyfres o lyfrau darllen yw Dewch i Chwilio sy'n cyflwyno gwyddoniaeth i blant ifanc. Bwriad y gyfres ydy meithrin diddordeb mewn gwyddoniaeth ... a chreu awydd i ymchwilio ymhellach.

    Beth am ymuno â'r antur fawr i ddod o hyd i esgyrn anferthol deinosor?

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  7. Dyma fi! Dyma fi!

    Dyma fi! Dyma fi!

    Dewch i gwrdd â Cadi, camelion sydd wedi diflasu ar fod yn frown ac yn wyrdd trwy'r amser. Ond wrth iddi dynnu sylw ei ffrindiau, mae'n dysgu nad yw dangos ei hun yn beth da bob tro.

    Llyfr stori dwyieithog i blant bach.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  8. Cyfres Dewch i Chwilio: Y Maes Awyr

    Cyfres Dewch i Chwilio: Y Maes Awyr

    Cyfres o lyfrau darllen yw Dewch i Chwilio sy'n cyflwyno gwyddoniaeth i blant ifanc. Bwriad y gyfres ydy meithrin diddordeb mewn gwyddoniaeth ... a chreu awydd i ymchwilio ymhellach.

    Dewch i weld y maes awyr cyn codi i'r awyr las uwchben!

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  9. Helfa Drysor yn y Sw

    Helfa Drysor yn y Sw

    Llyfr bwrdd dwyieithog i fabanod a phlant bach, gyda thudalennau sy'n agor allan yn fawr. Dyma gyfle gwych i'r plentyn chwilio, cyfri a mwynhau yn y Sw. Llyfr i'w drysori fydd yn annog diddordeb plant mewn llyfrau. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  10. Pecyn Cyfres Mynydd Troed

    Pecyn Cyfres Mynydd Troed

    Cyfres o bump llyfr stori dwyieithog wedi'u cynllunio'n ofalus i hybu sgiliau llythrennedd.

    Mae'r pecyn yn cynnwys: Cwtsh, Paid â Phoeni, Y Cerrig Hud, Dyma Fi, Dyma Fi! a Mili'r Mircat.

    Mwy o wybodaeth
    £26.95

Set Descending Direction

Grid List

10 Eitem