COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Ascending Direction

Grid List

11-20 o 64

  1. Cyfres Dewch i Chwilio: O Dan y Môr

    Cyfres Dewch i Chwilio: O Dan y Môr

    Cyfres o lyfrau darllen yw Dewch i Chwilio sy'n cyflwyno gwyddoniaeth i blant ifanc. Bwriad y gyfres ydy meithrin diddordeb mewn gwyddoniaeth ... a chreu awydd i ymchwilio ymhellach.

    Dewch i ddeifio a nofio o dan y dŵr i weld pysgod a chreaduriaid rhyfeddol.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  2. Cardiau Fflach Rhifau Lleu Llygoden

    Cardiau Fflach Rhifau Lleu Llygoden

    Pecyn o gardiau fflach Lleu Llygoden sy'n helpu plant i gyfri ac ysgrifennu rhifau o 1 - 20.

    Gellir sychu'r cardiau i'w defnyddio dro ar ôl tro. Mae'r cardiau, pen a chlwtyn sychu wedi'i pecynnu mewn bocs bach defnyddiol, sy'n berffaith ar gyfer siwrnai hir.

    Cyfarwyddiadau dwyieithog.

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  3. Cwning-Od: i Fyny ac i Lawr

    Cwning-Od: i Fyny ac i Lawr

    Addasiad Cymraeg o 'Funny Bunnies: Up and Down' gan David Melling.

    Llyfr am gwningod annarferol, doniol sy'n caru neidio i fyny ac i lawr ar bolion pogo! Yn y llyfr lliwgar hwn, bydd plant ifanc yn dysgu am eiriau croes yng nghwmni'r Cwning-Od hoffus!

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  4. Y Cerrig Hud

    Y Cerrig Hud

    Wrth i fachgen bach ollwng carreg y mae newydd ei lliwio i'r dŵr, mae rhywbeth rhyfeddol yn digwydd... 'Yn sydyn, roedd yna fflach o olau llachar a synau rhyfeddol. Neidiodd Peter yn ôl mewn rhyfeddod wrth weld pysgodyn lliwgar yn nofio yn y dŵr. Roedd carreg Peter wedi dod yn fyw!'

    Llyfr stori dwyieithog i blant bach.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  5. Amser Coginio – A Cocinar!

    Amser Coginio – A Cocinar!

    Llyfr coginio wedi ei ddatblygu gydag Ysgol y Cwm, Trevelin, Yr Andes, Patagonia, sy’n cynnwys 32 o hoff ryseitiau’r disgyblion.

    Mae’r disgyblion yn siarad Cymraeg a Sbaeneg yn yr ysgol – ac mae’r ddwy iaith i’w gweld ochr yn ochr yn y llyfr hwn. Mae 20% o’r gwerthiant yn cael ei gyfrannu gan Atebol i’r ysgol arbennig hon.

    Mwy o wybodaeth
    £3.99

  6. Môr-ladron - Llyfr Gweithgareddau a Sticeri

    Môr-ladron - Llyfr Gweithgareddau a Sticeri

    Ahoy! Dyma lyfr gweithgareddau dwyieithog fydd wrth ddant pob mor-leidr! Dewch i chwarae posau, arlunio, chwarae efo'r sticeri a mwy!Llyfr sy'n cynnig oriau o HWYL a chwarae creadigol. Mynd i barti mor-leidr? Dyma anrheg gwych i'r plant! Mwy o wybodaeth
    £3.99

  7. Helfa Drysor yn y Sw

    Helfa Drysor yn y Sw

    Llyfr bwrdd dwyieithog i fabanod a phlant bach, gyda thudalennau sy'n agor allan yn fawr. Dyma gyfle gwych i'r plentyn chwilio, cyfri a mwynhau yn y Sw. Llyfr i'w drysori fydd yn annog diddordeb plant mewn llyfrau. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  8. Cyfres Dewch i Chwilio: Y Sw

    Cyfres Dewch i Chwilio: Y Sw

    Cyfres o lyfrau darllen yw Dewch i Chwilio sy'n cyflwyno gwyddoniaeth i blant ifanc. Bwriad y gyfres ydy meithrin diddordeb mewn gwyddoniaeth ... a chreu awydd i ymchwilio ymhellach.

    Ymunwch yn niwrnod gwaith gofalwr y sw: dewch i fwydo'r anifeiliaid, dysgu am y teigrod ac arwain ymdaith y pengwiniaid!

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  9. Help gyda Gwaith Cartref: Adio a Thynnu

    Help gyda Gwaith Cartref: Adio a Thynnu

    Llyfr i gefnogi plant gyda'u gwaith ysgol, i fagu hyder ynddynt ac i atgyfnerthu eu dealltwriaeth o sgiliau sylfaenol Rhifedd, yn arbennig elfennau Adio a Thynnu ar gyfer plant cynradd. Cynhwysir sticeri i'w gludo sy'n helpu'r plentyn i feithrin sgiliau adnabod a deall, ac mae is-destun Saesneg yn galluogi rhieni di-Gymraeg i helpu eu plant.

    Gair o eglurhad!
    Mae rhai o’r staplau ar y llyfr hwn yn dangos olion tarneisio ar y clawr allanol yn unig. Mae’r tudalennau mewnol a’r cynnwys heb eu heffeithio. Rydym felly wedi gostwng y pris i adlewyrchu hynny sef o £3.99 i £2.99. Gan ei bod yn gyfres mor boblogaidd rydym yn parhau i gynnig y llyfr o fewn ein rhestr o gyhoeddiadau addysgol.

    Mwy o wybodaeth

    Regular Price: £3.99

    Pris Arbennig £2.99

  10. Diwrnod Cyntaf Douglas yn yr Ysgol

    Diwrnod Cyntaf Douglas yn yr Ysgol

    Addasiad dwyieithog o 'Hugless Douglas Goes to Little School' gan David Melling.

    Mae Douglas, yr arth fach frown hoffus, yn cychwyn ar antur newydd sbon, antur mae pob plentyn bach yn ei brofi, diwrnod cyntaf yn yr ysgol!

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

Set Ascending Direction

Grid List

11-20 o 64