Stori llawn hiwmor am arth wen sy'n byw ym Mhegwn y Gogledd ac sy'n hoff o nofio, pysgota, bwyta a chysgu.
Ond un diwrnod, mae hi'n syrthio i gysgu ac yn deffro ym mhell bell o adre. Dydy pethau erioed wedi bod cynddrwg.
Ond maen nhw ar fin mynd yn waeth ... yn waeth o lawer!
Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!
Addasiad Eurig Salisbury o Hugless Douglas and the Baby Birds gan David Melling.
A fedri di gadw wy bach yn gynnes drwy roi cwtsh iddo? Daw Douglas o hyd i'r ateb wrth iddo ofalu am nyth Aderyn Dowcio.
Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!
Stori hyfryd am berthynas anarferol a chynnes am gyfeillgarwch.
Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o Goose's Cake Bake gan Laura Wall.
Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!
Addasiad dwyieithog o You... gan Emma Dodd.
“Rwy’n dy garu di i gyd,
llygaid a thrwyn a chlustiau. Rwy’n dy garu di i gyd,
o dy ben i flaen dy fodiau.”
Mae’r awdur a’r darlunydd arobryn Emma Dodd yn mynd â ni ar daith trwy’r jyngl yn y rhandaliad hwn o’i chyfres llyfrau sotri a llun poblogaidd, lle rydyn ni’n dod o hyd i fwnci bach doniol sydd â rhywun sy’n ei garu fwy a mwy bob dydd.
• Testun dwyieithog sy’n odli
• Arlunwaith lliwgar gyda ffoil aur ar bob yn ail dudalen
• Stori wedi ei hadrodd yn syml
• Llyfr hyfryd i’w darllen ar y cyd a rhannu llawenydd bywyd
Addasiad o Grandpa Christmas gan Michael Morpurgo (darluniau gan Jim Field).
Bob Nadolig, mae Mia a’i theulu yn darllen llythyr oddi wrth Taid. Ynddo, mae Taid yn dymuno cael byd gwell i Mia. Mae’n cofio’r hwyl gawson nhw yn yr ardd gyda’r llyffantod a’r pryfed genwair ac yn plannu hadau. Ond mae Taid yn poeni am y pethau hyn. Mae’n poeni eu bod nhw mewn perygl, ac mae eisiau help Mia i ofalu amdanyn nhw.
Addasiad o Geronimo, llyfr stori a llun gan David Walliams (darluniau gan Tony Ross).
Mae Jeronimo yn bengwin bach sy’n ysu am gael hedfan. Gyda help llaw ei ffrindiau, mae’r pengwin bach yn darganfod fod unrhywbeth yn bosib!
Mwy o wybodaeth
Ewch gyda Santa a’r ceirw ar eu taith drwy’r llyfr hyfryd hwn. Defnyddiwch y sticeri i gwblhau’r lluniau ... a chreu ychydig o hud y Nadolig.
• Testun dwyieithog
• Dros 200 o sticeri lliwgar
Addasiad o Hugless Douglas Plays Hide and Seek gan David Melling.
Mae Douglas a’i ffrindiau yn chwarae eu hoff gem – cuddio! Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn mynd ar goll wrth chwarae cuddio?
Mwy o wybodaeth