SÊL ymlaen! Hyd at 60% i ffwrdd ar eitemau penodol - ARCHEBWCH NAWR!

  • Gorffen mewn:    
  • Diwrnod
  • Awr
  • Munud
  • Eiliad
  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

SÊL ymlaen! Hyd at 60% i ffwrdd ar eitemau penodol - ARCHEBWCH NAWR!

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

7 Eitem

  1. Trio ac Antur yr Eisteddfod

    Trio ac Antur yr Eisteddfod

    Dyma’r trydydd llyfr yn y gyfres o dri sy’n dilyn anturiaethau ‘Trio’ – grŵp o ffrindiau sy’n caru antur ac yn anobeithiol o benderfynol o achub y dydd. Mae Trio, sef Clem Clyfar, Dilys Ddyfeisgar a Derec Dynamo eisoes wedi cael anturiaethau yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd a Chastell Caernarfon, ond y tro hwn maen nhw’n mentro i faes yr Eisteddfod! O fewn munudau i gyrraedd y maes, mae’r tri ffrind yn clywed si am antur... mae Cadair yr Eisteddfod wedi diflannu! Dilynwn y criw wrth iddyn nhw grwydro’r maes yn chwilio am y lleidr dieflig – a chamgyhuddo ambell eisteddfodwr ar y ffordd. Cyfres ysgafn a phoblogaidd, gyda digon o hiwmor i ddenu darllenwyr ifanc, newydd!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  2. Ffwlbart Ffred: Drewi Fel Ffwlbart

    Ffwlbart Ffred: Drewi Fel Ffwlbart

    Llyfr stori a llun cyntaf mewn cyfres o dri teitl am ffrindiau direidus a’r straeon anhygoel y tu ôl i’n dywediadau mwyaf od fel Drewi fel Ffwlbart, Yn Ddu fel Bol Buwch a Bwrw Hen Wragedd a Ffyn.

    Mae Ffred (bachgen 7 oed) a’i ffwlbart (merch) bob tro mewn trwbwl. Ond mae’r Ffwlbart na’n jiniys ac yn datrys y cwbwl!

    • Llyfr stori a llun gwreiddiol
    • Testun Cymraeg sy’n odli
    • Stori doniol sydd wedi’i seilio ar y dywediad Drewi fel Ffwlbart

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  3. Datrys Problemau ... dechrau da! 2

    Datrys Problemau ... dechrau da! 2

    Pecyn newydd i gefnogi plant y Cyfnod Sylfaen i ddatblygu a meithrin eu sgiliau mathemategol

    Nod Datrys Problemau... Dechrau Da! ydy cefnogi plant y Cyfnod Sylfaen i ddatblygu a meithrin eu sgiliau mathemategol. Dyma becyn sy’n gosod y plentyn yn y canol ac sy’n gosod pwyslais ar gynnig ramweithiau pwrpasol i’r addysgu a’r dysgu.

    Mae Datrys Problemau... Dechrau Da! yn hybu’r sgiliau sylfaenol a fydd hefyd yn galluogi’r plentyn i lwyddo ac ennill boddhad o’u profiad ym maes mathemateg.

    Mwy o wybodaeth
    £34.99

  4. Clamp a Pitw: Carnifal y Creaduriaid

    Clamp a Pitw: Carnifal y Creaduriaid

    Stori ddifyr sy'n cyflwyno'r creaduriaid hoffus Clamp a Pitw wrth iddynt deithio i Garnifal y Creaduriaid. Mae'r siwrnai o Gaergybi i Gaerdydd yn llawn trafferthion ac mae cyfeillgarwch a chydweithio yn chwarae rhan bwysig yn yr antur. Mwy o wybodaeth
    £5.99

  5. Math@ebol: Mat a Sgrin 2

    Math@ebol: Mat a Sgrin 2

    Matiau mathemateg a CD rhyngweithiol ar gyfer y bwrdd gwyn. Addas ar gyfer gwella sgiliau disgyblion Cyfnod Allweddol 1 ym maes Graffiau, Adio a Thynnu, Camau Cyfrifo, Dau Ddimensiwn a Tri Dimensiwn. Matiau A3 wedi'u lamineiddio sy'n hybu'r gwaith o wella sgiliau mathemategol. Matiau dwy ochrog gyda gwybodaeth fathemategol ar un ochr ac ymarferion ar yr ochr arall. Addas ar gyfer datblygu Sgiliau Sylfaenol mewn mathemateg. Mae modd ysgrifennuar y matiau cyn eu glanhau gyda chlwtyn sych. Mae modd defnyddio'r CD ar fwrdd gwyn neu ar gyfrifiadur personol. Mae'r rhaglen yn caniatau i'r plant fwydo'r atebion a chael ymateb os ydyn nhw'n gywir ai pheidio. Mwy o wybodaeth
    £19.99

  6. Cardiau Fflach Rhifau Lleu Llygoden

    Cardiau Fflach Rhifau Lleu Llygoden

    Pecyn o gardiau fflach Lleu Llygoden sy'n helpu plant i gyfri ac ysgrifennu rhifau o 1 - 20.

    Gellir sychu'r cardiau i'w defnyddio dro ar ôl tro. Mae'r cardiau, pen a chlwtyn sychu wedi'i pecynnu mewn bocs bach defnyddiol, sy'n berffaith ar gyfer siwrnai hir.

    Cyfarwyddiadau dwyieithog.

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  7. Criw Planed Plant

    Criw Planed Plant

    Mae gweld effaith cynhesu byd eang ar yr anifeiliaid wedi gwylltio Freya. Doedd dim amdani ond sefydlu criw Planed Plant, criw o blant fydd yn gweithredu er mwyn gwella'r sefyllfa. Erbyn hyn mae yna aelodau ymhobcwr or byd!

    Darllena'r llyfr er mwyn ymaelodi a'r criw a dysgu pa newidiadau bach alli di wneud er lles yr anifeiliaid a'r amgylchfyd.

    Dyma lyfr ffeithiol difyr a deniadol sy'n dysgu plant am sut all y camau bach arwain at gamau mawr wrth frwydro yn erbyn cynhesu byd eang.

    Mwy o wybodaeth
    £3.99

Set Descending Direction

Grid List

7 Eitem