• MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 53

  1. Douglas a'r Cywion Ciwt

    Douglas a'r Cywion Ciwt

    Addasiad Eurig Salisbury o Hugless Douglas and the Baby Birds gan David Melling.

    A fedri di gadw wy bach yn gynnes drwy roi cwtsh iddo? Daw Douglas o hyd i'r ateb wrth iddo ofalu am nyth Aderyn Dowcio.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  2. Yr Arth Aruthrol

    Yr Arth Aruthrol

    Stori llawn hiwmor am arth wen sy'n byw ym Mhegwn y Gogledd ac sy'n hoff o nofio, pysgota, bwyta a chysgu.

    Ond un diwrnod, mae hi'n syrthio i gysgu ac yn deffro ym mhell bell o adre. Dydy pethau erioed wedi bod cynddrwg.

    Ond maen nhw ar fin mynd yn waeth ... yn waeth o lawer!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  3. Jeronimo

    Jeronimo

    Addasiad o Geronimo, llyfr stori a llun gan David Walliams (darluniau gan Tony Ross).

    Mae Jeronimo yn bengwin bach sy’n ysu am gael hedfan. Gyda help llaw ei ffrindiau, mae’r pengwin bach yn darganfod fod unrhywbeth yn bosib!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  4. Bocs Sw: Jig-so a Llyfr

    Bocs Sw: Jig-so a Llyfr

    Bocs yn cynnwys llyfr bwrdd lliwgar yn cyflwyno nifer o anifeiliaid y sw a jigso llawr anferth, 20 darn, sy'n dod â'r anifeiliaid yn fyw! Oriau o hwyl i'r plant lleiaf. Mwy o wybodaeth
    £12.99

  5. Douglas yn Chwarae Cuddio

    Douglas yn Chwarae Cuddio

    Addasiad o Hugless Douglas Plays Hide and Seek gan David Melling.

    Mae Douglas a’i ffrindiau yn chwarae eu hoff gem – cuddio! Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn mynd ar goll wrth chwarae cuddio?

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  6. Gŵydd a'i Gacennau

    Gŵydd a'i Gacennau

    Stori hyfryd am berthynas anarferol a chynnes am gyfeillgarwch.

    Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o Goose's Cake Bake gan Laura Wall.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  7. Y Ddinas Uchel

    Y Ddinas Uchel

    - - -   C Y N N I G    A R B E N N I G   - - -
    Bydd y 50 person cyntaf sy'n brynu'r llyfr yma o’n gwefan yn derbyn print
    o ansawdd uchel wedi'i lofnodi gan yr awdur - AM DDIM!
    Prynwch nawr i osgoi cael eich siomi!

     Stori am ferch sy'n tyfu i fyny mewn dinas o dyrau â phawb yn treulio pob dydd yn adeiladu eu tyrau yn uwch ac yn UWCH. Ond mae’r ferch fach yn cwestiynu’r drefn ac yn dyheu am rhywbeth mwy. Stori gyda neges positif, cadarnhaol wedi ei ddweud mewn ffordd tyner gyda lluniau ysgafn a hiwmor arferol Huw Aaron.

    Mae’r ferch yn holi cwestiynau’n ddibaid: pam mae’r bobl yn adeiladu? I ble maen nhw’n mynd? Un noson mae hi’n edrych allan drwy’r ffenest, ac yn gweld balwn aer lliwgar yn yr awyr. Mae’n gostwng y grisiau ac yn mynd tu allan i’w weld. Wrth hedfan uwchben y tyrau, mae’r ferch yn sylweddoli eu bod nhw i gyd yn edrych yr un fath, yn gasgliad hynod o brydferth. Mae hi hefyd yn gweld bod byd mawr hyfryd y tu hwnt i’r ddinas. Ar ôl glanio, mae’r ferch yn mynd ati i berswadio pobl y ddinas i hedfan yn uwch – tu hwnt i’r hen arfer.




     

     

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  8. Anrheg Nadolig Taid

    Anrheg Nadolig Taid

    Addasiad o Grandpa Christmas gan Michael Morpurgo (darluniau gan Jim Field).

    Bob Nadolig, mae Mia a’i theulu yn darllen llythyr oddi wrth Taid. Ynddo, mae Taid yn dymuno cael byd gwell i Mia. Mae’n cofio’r hwyl gawson nhw yn yr ardd gyda’r llyffantod a’r pryfed genwair ac yn plannu hadau. Ond mae Taid yn poeni am y pethau hyn. Mae’n poeni eu bod nhw mewn perygl, ac mae eisiau help Mia i ofalu amdanyn nhw.

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

  9. Sgubo

    Sgubo

    Addasiad Eurig Salisbury o Sweep gan Louise Greig.

    Mae hwyliau drwg Daf bob tro'n dechrau'n fach, fach. Ond ymhen dim, maen nhw'n cyflymu nes eu bod nhw'n sgubo drwy'r dre i gyd. Stori yw hon am blentyn sy'n delio ag emosiynau mawr, a stori i godi'r galon.

     

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  10. Bywyd ar y Fferm

    Bywyd ar y Fferm

    Dyma gyfle i chi ddilyn hynt a helynt bywyd ar y fferm drwy gydol y flwyddyn. O dymor y gwanwyn, drwy'r haf a'r hydref i dymor y gaeaf mae'r ffermwr yn brysur wrth ei waith.

    Llyfr gyda 50 fflap llawn o wybodaeth diddorol.

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 53