Stori llawn hiwmor am arth wen sy'n byw ym Mhegwn y Gogledd ac sy'n hoff o nofio, pysgota, bwyta a chysgu.
Ond un diwrnod, mae hi'n syrthio i gysgu ac yn deffro ym mhell bell o adre. Dydy pethau erioed wedi bod cynddrwg.
Ond maen nhw ar fin mynd yn waeth ... yn waeth o lawer!
Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!
Addasiad Eurig Salisbury o Hugless Douglas and the Baby Birds gan David Melling.
A fedri di gadw wy bach yn gynnes drwy roi cwtsh iddo? Daw Douglas o hyd i'r ateb wrth iddo ofalu am nyth Aderyn Dowcio.
Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!
Dyma’r trydydd llyfr yn y gyfres sy’n dilyn anturiaethau ‘Trio’ – grŵp o ffrindiau sy’n caru antur ac yn anobeithiol o benderfynol o achub y dydd.
Mae Trio, sef Clem Clyfar, Dilys Ddyfeisgar a Derec Dynamo eisoes wedi cael anturiaethau yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd a Chastell Caernarfon, ond y tro hwn maen nhw’n mentro i faes yr Eisteddfod! O fewn munudau i gyrraedd y maes, mae’r tri ffrind yn clywed si am antur... mae Cadair yr Eisteddfod wedi diflannu! Dilynwn y criw wrth iddyn nhw grwydro’r maes yn chwilio am y lleidr dieflig – a chamgyhuddo ambell eisteddfodwr ar y ffordd.
Cyfres ysgafn a phoblogaidd, gyda digon o hiwmor i ddenu darllenwyr ifanc, newydd!
Mwy o wybodaeth
Llyfrau ffuglen ar gyfer plant sy'n dysgu darllen Cymraeg fel ail iaith. Addas i'w defnyddio yn annibynnol neu mewn grwpiau. Stori syml am Moli a Meg yn mwynhau ym mharti pen-blwydd Llew.
*Mae dyluniad y clawr yn gallu amrywio yn unol â’r cyflenwad stoc.
Ewch gyda Santa a’r ceirw ar eu taith drwy’r llyfr hyfryd hwn. Defnyddiwch y sticeri i gwblhau’r lluniau ... a chreu ychydig o hud y Nadolig.
• Testun dwyieithog
• Dros 200 o sticeri lliwgar
Stori hyfryd am berthynas anarferol a chynnes am gyfeillgarwch.
Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o Goose's Cake Bake gan Laura Wall.
Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!
Addasiad dwyieithog o You... gan Emma Dodd.
“Rwy’n dy garu di i gyd,
llygaid a thrwyn a chlustiau. Rwy’n dy garu di i gyd,
o dy ben i flaen dy fodiau.”
Mae’r awdur a’r darlunydd arobryn Emma Dodd yn mynd â ni ar daith trwy’r jyngl yn y rhandaliad hwn o’i chyfres llyfrau sotri a llun poblogaidd, lle rydyn ni’n dod o hyd i fwnci bach doniol sydd â rhywun sy’n ei garu fwy a mwy bob dydd.
• Testun dwyieithog sy’n odli
• Arlunwaith lliwgar gyda ffoil aur ar bob yn ail dudalen
• Stori wedi ei hadrodd yn syml
• Llyfr hyfryd i’w darllen ar y cyd a rhannu llawenydd bywyd
Llyfrau ffuglen ar gyfer plant sy'n dysgu darllen Cymraeg fel ail iaith. Addas i'w defnyddio yn annibynnol neu mewn grwpiau. Stori syml am Moli a'i ffrind, Meg y gath, yn cael hwyl gyda'i gilydd yn y parc.
*Mae dyluniad y clawr yn gallu amrywio yn unol â’r cyflenwad stoc.
Llyfrau ffuglen ar gyfer plant sy'n dysgu darllen Cymraeg fel ail iaith. Addas i'w defnyddio yn annibynnol neu mewn grwpiau. Stori syml am Moli a'i ffrind, Meg y gath, yn mynd am dro i siopa.
*Mae dyluniad y clawr yn gallu amrywio yn unol â’r cyflenwad stoc.
Addasiad o Grandpa Christmas gan Michael Morpurgo (darluniau gan Jim Field).
Bob Nadolig, mae Mia a’i theulu yn darllen llythyr oddi wrth Taid. Ynddo, mae Taid yn dymuno cael byd gwell i Mia. Mae’n cofio’r hwyl gawson nhw yn yr ardd gyda’r llyffantod a’r pryfed genwair ac yn plannu hadau. Ond mae Taid yn poeni am y pethau hyn. Mae’n poeni eu bod nhw mewn perygl, ac mae eisiau help Mia i ofalu amdanyn nhw.