COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 25

  1. Bywyd ar y Fferm

    Bywyd ar y Fferm

    Dyma gyfle i chi ddilyn hynt a helynt bywyd ar y fferm drwy gydol y flwyddyn. O dymor y gwanwyn, drwy'r haf a'r hydref i dymor y gaeaf mae'r ffermwr yn brysur wrth ei waith.

    Llyfr gyda 50 fflap llawn o wybodaeth diddorol.

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

  2. Tynnu Llun Gyda Sialc

    Tynnu Llun Gyda Sialc

    Llyfr gweithgareddau dwyieithog - un o'n gwerthwyr gorau! Llyfr gyda thudalennau bwrdd du a blwch sialc. Gellir sychu'r tudalennau a'u hail ddefnyddio fel bwrdd du go iawn! Mae pob tudalen yn cynnwys gweithgareddau ble gall y plentyn ddilyn y smotiau i greu pob math o ddelweddau o siapiau i anifeiliaid. Wedi creu'r llun beth am ei liwio?Llyfr sy'n cynnig oriau o waith creadigol i blant ifanc. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  3. Cefin y Coala Carcus

    Cefin y Coala Carcus

    Addasiad Cymraeg gan Eurig Salisbury o 'The Koala Who Could'.

    Dewch i gwrdd â Cefin y coala, sy'n hoffi pethau FEL Y MAEN NHW, heb DDIM NEWID. Ond pan mae pethau'n newid yn ddirybudd un dydd, daw Cefin i ddysgu sut i fwynhau profiadau newydd ac anhygoel. Stori ddoniol ar gyfer unrhyw un sy'n teimlo pryder wrth wynebu newid.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  4. Yr Arth a fu'n Bloeddio BW!

    Yr Arth a fu'n Bloeddio BW!

    Addasiad dwyieithog gan Eurig Salisbury o 'The Bear who went Boo' gan David Walliams Mwy o wybodaeth
    £6.99

  5. Dewch i Fodelu Gyda: Clai

    Dewch i Fodelu Gyda: Clai

    Llyfr sy'n cynnig oriau o waith creadigol ac addysgol. Ceir yn y llyfr lu o syniadau ar gyfer gwneud modelau clai gyda chyfarwyddiadau cam-wrth-gam ar gyfer y plant. Llyfr sy'n cynnig cyfle i feddwl yn greadigol a chael ambell fflach o ysbrydoliaeth! Mwy o wybodaeth
    £6.99

  6. Gŵydd

    Gŵydd

    Gŵydd - Addasiad dwyieithog o 'Goose' gan Laura Wall.

    Llyfr stori dwyieithog i blant ifanc gyda lluniau lliwgar a thrawiadol. Pan mae Soffi yn cyfarfod Gŵydd ar drip i'r parc, mewn byr dro mae'r ddau yn ffrindiau mynwesol. Stori hyfryd am berthynas anarferol a chynnes sy'n sôn am gyfeillgarwch.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  7. Pecyn David Walliams i blant iau

    Pecyn David Walliams i blant iau

    Pecyn o ddau o'n teitlau mwyaf poblogaidd i blant iau gan yr awdur David Walliams.

    Mae'r pecyn yn cynnwys Yr Eliffant Eithaf Digywilydd ac Yr Arth a fu'n Bloeddio BW!

    Llyfrau stori dwyieithog gyda lluniau lliwgar gan yr arlunydd enwog Tony Ross.

    Mwy o wybodaeth
    £12.00

  8. Gŵydd ar y Fferm

    Gŵydd ar y Fferm

    Addasiad dwyieithog o 'Goose on the Farm' gan Laura Wall.

    Llyfr stori hyfryd i blant bach gyda delweddau lliwgar a chyfoes.Mae Soffi a Gŵydd yn mynd am drip i'r fferm... ac mewn byr amser fe ddaw yn ddiwrnod i'w gofio! Stori hyfryd am berthynas anarferol a chynnes sy'n sôn am gyfeillgarwch.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  9. Deg Deinosor Bach

    Deg Deinosor Bach

    Addasiad Cymraeg Eurig Salisbury o Ten Little Dinosaurs. Mae deg deinosor bach yn cychwyn ar antur, ond tybed sut hwyl maen nhw'n ei gael wrth gwrdd â'r triceratops grwgnachlyd, diplodocus trwstfawr a t-rex llwglyd? Stori swnllyd gyda thestun sy'n odli a llu o bethau i'r plant chwilio amdanynt! Mwy o wybodaeth
    £6.99

  10. Helfa Drysor ar y Fferm

    Helfa Drysor ar y Fferm

    Llyfr bwrdd dwyieithog i fabanod a phlant bach, gyda thudalennau sy'n agor allan yn fawr. Dyma gyfle gwych i'r plentyn chwilio, cyfri a mwynhau at y fferm. Llyfr i'w drysori fydd yn annog diddordeb plant mewn llyfrau. Mwy o wybodaeth
    £6.99

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 25