Stori llawn hiwmor am arth wen sy'n byw ym Mhegwn y Gogledd ac sy'n hoff o nofio, pysgota, bwyta a chysgu.
Ond un diwrnod, mae hi'n syrthio i gysgu ac yn deffro ym mhell bell o adre. Dydy pethau erioed wedi bod cynddrwg.
Ond maen nhw ar fin mynd yn waeth ... yn waeth o lawer!
Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!
Addasiad Eurig Salisbury o Hugless Douglas and the Baby Birds gan David Melling.
A fedri di gadw wy bach yn gynnes drwy roi cwtsh iddo? Daw Douglas o hyd i'r ateb wrth iddo ofalu am nyth Aderyn Dowcio.
Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!
Llyfrau ffuglen ar gyfer plant sy'n dysgu darllen Cymraeg fel ail iaith. Addas i'w defnyddio yn annibynnol neu mewn grwpiau. Stori syml am Moli a'i ffrind, Meg y gath, yn mwynhau bwyta popcorn wrth ymweld â'r sinema.
*Mae dyluniad y clawr yn gallu amrywio yn unol â’r cyflenwad stoc.
Llyfr stori a llun gwreiddiol, sy’n dilyn Michewa, merch 7 oed. Un diwrnod i brofi ei hun i’w thad (sy’n Dywysydd Mynydd llwyddiannus) mae hi’n mynd ati i ddringo’r ‘Mynydd Unig’ ger ei phentref coedwig yn Tibet. Mae’r mynydd penodol hwn wedi’i orchuddio â dirgelwch a pherygl. Fodd bynnag, mae hi’n benderfynol o ddringo’r mynydd ac yn llenwi ei bag gydag eitemau hanfodol a llinyn o fflagiau gweddi y mae’n bwriadu eu gosod ar y copa. Pan ddaw eirlithriad, storm a chwymp eira, datgelir cyfrinach yn y lluniau sy’n ei hachub bob tro ac yn y pen draw yn ei dychwelyd i ymyl y goedwig.
Stori syml yw hon sy’n cyflwyno emosiynau fel unigedd, edifarhad a rhyddhad ynghyd â nodweddion amgylcheddol a chyfeiriadau diwylliannol newydd, gan greu antur gyffrous sy’n procio’r meddwl.
Addasiad o Hugless Douglas Plays Hide and Seek gan David Melling.
Mae Douglas a’i ffrindiau yn chwarae eu hoff gem – cuddio! Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn mynd ar goll wrth chwarae cuddio?
Mwy o wybodaeth
Mae Ffred a’i ffwlbart yn ffrindiau gorau
ond digwyddodd rhywbeth od un bore
wnaeth newid lliw trwyn Anti Gyrti –
ar fy ngwir! Dyma’r stori ...
Dewch i gwrdd â Ffred a’i ffwlbart yn y llyfr cyntaf mewn cyfres newydd o lyfrau stori-a-llun am ffrindiau bach direidus.
Stori llawn hwyl gyda thestun sy’n odli yn seiliedig ar un o’n dywediadau Cymraeg mwyaf od!
Stori gan Sioned Wyn Roberts. Arlunwaith Bethan Mai.
Mae cyfle isod i chi gwrdd â Sioned Wyn Roberts a Bethan Mai, awdur ac arlunydd y llyfr! Fe gawn glywed beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r llyfr a chawn flas ar y stori unigryw sy’n mynd â ni ar antur i ddatrys problem ddrewllyd iawn...
Llyfrau ffuglen ar gyfer plant sy'n dysgu darllen Cymraeg fel ail iaith. Addas i'w defnyddio yn annibynnol neu mewn grwpiau. Stori syml am Moli a Meg yn mwynhau eu hymweliad â'r fferm.
*Mae dyluniad y clawr yn gallu amrywio yn unol â’r cyflenwad stoc.
Llyfrau ffuglen ar gyfer plant sy'n dysgu darllen Cymraeg fel ail iaith. Addas i'w defnyddio yn annibynnol neu mewn grwpiau. Stori syml am Moli a'i ffrind, Meg y gath, yn treulio prynhawn yn plannu yn yr ardd.
*Mae dyluniad y clawr yn gallu amrywio yn unol â’r cyflenwad stoc.
Stori hyfryd am berthynas anarferol a chynnes am gyfeillgarwch.
Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o Goose's Cake Bake gan Laura Wall.
Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!