Stori am TRIO, grŵp o ffrindiau sy'n caru antur ac sy'n benderfynol o achub y byd - wel, Cymru o leia'!
Mae TRIO yn cael mynd ar drip i Gaerdydd i weld sioe. Ond O, mam bach! Mae rhywun wedi newid yr ysgrifen ar Ganolfan y Mileniwm! Mae hon yn antur berffaith i TRIO, y triawd mwyaf dwl yng Nghymru!
Y nofel gyntaf yng nghyfres newydd Manon Steffan Ros gyda lluniau gan Huw Aaron!
Mwy o wybodaeth
Stori am TRIO, grŵp o ffrindiau sy'n caru antur ac sy'n benderfynol o achub y byd - wel, Cymru o leia'!
Mae rhywun yn bwriadu dymchwel Castell Caernarfon a’i droi yn fwyty enfawr! Gwaith TRIO yw darbwyllo’r perchennog newydd i adael llonydd i’r castell, ond mae hynny’n fwy anodd na mae o’n swnio!
Yr ail nofel yng nghyfres newydd Manon Steffan Ros gyda lluniau gan Huw Aaron!
Mwy o wybodaeth
Dyma’r trydydd llyfr yn y gyfres sy’n dilyn anturiaethau ‘Trio’ – grŵp o ffrindiau sy’n caru antur ac yn anobeithiol o benderfynol o achub y dydd.
Mae Trio, sef Clem Clyfar, Dilys Ddyfeisgar a Derec Dynamo eisoes wedi cael anturiaethau yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd a Chastell Caernarfon, ond y tro hwn maen nhw’n mentro i faes yr Eisteddfod! O fewn munudau i gyrraedd y maes, mae’r tri ffrind yn clywed si am antur... mae Cadair yr Eisteddfod wedi diflannu! Dilynwn y criw wrth iddyn nhw grwydro’r maes yn chwilio am y lleidr dieflig – a chamgyhuddo ambell eisteddfodwr ar y ffordd.
Cyfres ysgafn a phoblogaidd, gyda digon o hiwmor i ddenu darllenwyr ifanc, newydd!
Mwy o wybodaeth
CRIW TRIO – clwb cyfrinachol newydd sbon AM DDIM i blant Cymru yn seiliedig ar Trio, ein cyfres o lyfrau gwreiddiol a doniol gan Manon Steffan Ros.
Ydych chi’n chwilio am antur? Yn caru Cymru? Eisiau achub y byd?
Wel, blant Cymru, dewch yn aelod o’n clwb newydd sbon ar gyfer holl ffans Clem Clyfar, Dilys Ddyfeisgar a Derec Dynamo – Criw Trio.
Bydd pecyn croeso arbennig yn y post i bob aelod, yn cynnwys cynigion unigryw, anrheg neu ddau ac ambell i syrpréis gan Clem, Dilys a Derec ...
I ddathlu cyhoeddi llyfr newydd Trio ac Antur yr Eisteddfod, bydd aelodau Criw Trio sy’n ymaelodi wythnos yma yn cael y cynnig cyntaf i gofrestru ar gyfer digwyddiad lansio arbennig iawn yn yr Eisteddfod AmGen – mwy o fanylion i ddod ddiwedd yr wythnos.
Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru fel aelod (am ddim!) anfonwch neges gydag enw ac oedran plentyn, cyfeiriad e-bost addas a chyfeiriad postio at trio@atebol.com
Cliciwch yma i ddarganfod mwy am anturiaethau Trio!