Yn y blwch mae tri llyfryn a phob un yn ddyfais i annog ein gallu i gofio. Maen nhw’n agor drwy gyflwyno pennill cyfan. Yna, gyda phob tudalen, mae rhai o eiriau’r llinellau’n diflannu. Bydd y bylchau a’r lluniau’n anogaeth i gofio’r geiriau coll ...
Y cof. Un o’n doniau mwyaf pwerus fel pobl yw’r gallu i gofio. Fel unigolion, defnyddiwn ein cof i gyflawni ein bywyd beunyddiol. Ond mae’r cof hefyd yn creu cymdeithas. Y cof-ar-y-cyd sy’n caniatáu i ni berthyn i’n gilydd, ac mae cydgofio geiriau cerddi yn rhan bwysig o’r perthyn hwnnw. Mae Ar Gof yn gasgliad sydd â’r nod o’n cynorthwyo i gofio cofio.
3 cyfrol wedi’u pecynnu mewn bocs. Fformat: Clawr meddal
Dyma Mererid yn siarad am y cyhoeddiad ar Heno S4C!
Cliciwch YMA i ddarllen adolygiad y gyfrol gan Sôn am Lyfra!
Pwrpas y llyfr hwn ydy helpu plant i ddeall mwy am asthma ... a sut mae delio gydag asthma.
Mwy o wybodaeth
Llyfr mawr llawn deialog fyrlymus a lluniau lliwgar. Darperir geirfa ar gefn y llyfr ar gyfer dysgwyr Cymraeg.
Mae Cris Croes yn hoffi bod yn wahanol. Mae o'n bwyta'n wahanol ac mae o'n gwisgo'n wahanol. Un diwrnod, mae Cris Croes yn mynd allan ar y beic ac mae'r dillad gwahanol yn help mawr i'r heddlu.
Mwy o wybodaeth
Llyfr mawr llawn deialog fyrlymus a lluniau lliwgar. Darperir geirfa yng nghefn y llyfr ar gyfer dysgwyr Cymraeg.
Un diwrnod, mae Gwen ac Ifan yn mynd i'r hen dŷ sbwci yn Stryd y Coed. Mae rhywbeth yn cuddio yno ...
Mwy o wybodaeth
Un o gyfres o dri phecyn o weithgareddau thematig ar gyfer disgyblion 7-9 oed yn bennaf.
Mae'r pecyn yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau sy'n amrywio o fyd ffantasi a chwedloniaeth i fyd hanes a ffaith. Mae un ochr y cerdyn yn cynnwys deunydd ffuglen a ffeithiol tra bod amrywiaeth o weithgareddau ar yr ochr arall.
Mwy o wybodaeth