COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Ascending Direction

Grid List

21-25 o 25

  1. Dihangfa Fawr Taid

    Dihangfa Fawr Taid

    Addasiad Cymraeg Dewi Wyn Williams o Grandpa's Great Escape gan David Walliams. Portread o berthynas agos ac unigryw rhwng plentyn a’i daid a oedd yn beilot awyren Spitfire ac yn arwr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cawn gyfle i rannu eu hanturiaethau sy’n llawn cyffro a hiwmor. Mwy o wybodaeth
    £8.99

  2. Chwedlau’r Ddraig: Cwm y Wrach

    Chwedlau’r Ddraig: Cwm y Wrach

    Daw hen chwedl yn fyw yn y stori antur fodern hon. Lleolir y nofel ger Aberaeron a dilynwn Daisy, merch 11 oed, a’i theulu ar ôl iddynt symud o’r gogledd i redeg ganolfan arddio yn yr ardal.

    Un diwrnod, mae Daisy yn benthyg llyfr chwedlau eithaf cyffredin ei olwg o’r Ffair Lyfrau flynyddol yn yr ysgol. Nid oes ganddi fawr o obaith am y llyfr anniddorol, nes iddi gael ei thaflu oddi ar ei beic ar ei thaith adref o’r ysgol... dyna pryd mae pethau rhyfedd yn dechrau digwydd! Wrth ddychwelyd adref, yn dilyn ei gwrthdrawiad ar y beic, mae Daisy yn argyhoeddedig ei bod wedi cwrdd â Mari Perllan Pedr, gwrach o chwedl leol adnabyddus. Ond sut y gall hynny fod yn bosib?

    Dilynwch antur ddirgel Daisy wrth iddi geisio darganfod y gwir a chesio achub busnes ei theulu yn Arthen Fach ar yr un pryd.

    • Y cyntaf mewn cyfres newydd i blant
    • 14 pennod byr, bachog
    • Stori gyffrous, llawn dirgelwch a fydd yn siwr o fachu sylw’r darllenydd
    • Themâu amgylcheddol cyfredol fel ffracio wedi’u plethu’n yn llwyddiannus i mewn i’r stori

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  3. Y Mamoth Mawr

    Y Mamoth Mawr

    Addasiad Cymraeg o The Ice Monster gan David Walliams. LLUNDAIN 1899 Stori am berthynas plentyn amddifad deng mlwydd oed a mamoth deng mil o flynyddoedd oed ... Plentyn amddifad sy’n byw ar strydoedd Llundain yn Oes Fictoria yw Elsi. Pan mae’n clywed am y Mamoth Mawr – creadur gwlanog a ddarganfuwyd ym Mhegwn y Gogledd – mae hi’n benderfynol o ddarganfod mwy amdano ... Yn fuan, daw Elsi wyneb yn wyneb â’r mamoth hynafol, a dyma gychwyn antur fythgofiadwy – o Lundain, ar draws y moroedd mawr, i Begwn y Gogledd. Mae’r stori gyffrous hon yn dangos bod arwyr i’w cael ym mhob lliw a llun! Mwy o wybodaeth
    £9.99

  4. Chwedlau'r Copa Coch: Melltith yn y Mynydd

    Chwedlau'r Copa Coch: Melltith yn y Mynydd

    Mae cyfres Chwedlau’r Copa Coch yn parhau, ac ar ôl trechu bwystfil hunllefus yn Yr Horwth, mae arwyr y Copa Coch bellach yn wynebu perygl llawer mwy. Y melltith yn y mynydd... Mae blwyddyn wedi pasio. Wrth i Sara, Pietro, Heti a Nad wneud eu gorau i ymgartrefu ar lethrau'r Copa Coch, mae'r ysbrydion maleisus sy'n llechu yng nghrombil y mynydd yn dianc o'u cartref tywyll a bygwth y pentref newydd. Dim ond un peth sydd i'w wneud: mentro i'r crombil mewn ymgais orffwyll i ddifa’r ysbrydion, unwaith ac am byth. Yn fuan iawn mae’r criw yn cael eu gwahanu – Pietro yn cael ei feddiannu gan ysbryd milwr o’r gorffennol pell; Sara a Nad yn cychwyn ar daith i’w achub drwy’r ddinas danddaearol o dan y mynydd; a Heti, yn ei thro, yn dilyn yn eu holion traed hwythau, yng nghwmni cantores o wlad bell... a’r allwedd i ddatgloi cyfrinachau'r mynydd. A thra bod ei gyfeillion yn gwneud eu gorau i’w achub, mae Pietro yn ailfyw brwydr dyngedfennol gafodd ei hymladd ar y mynydd fil a hanner o flynyddoedd yn ôl, yn cyfarfod arwyr a dihirod wedi hen farw, ac yn dod i ddysgu bod y Copa Coch yn llawer pwysicach nac oedd neb wedi ei sylweddoli... • Nofel ffantasi i bobl ifanc • Parhau â'r stori epig a llawn hiwmor gafodd ei chychwyn yn Yr Horwth • Perffaith i'r rheiny sy’n hoff o antur, brwydrau, ysbrydion, perygl, a chrancod mawr bwystfilaidd. Mwy o wybodaeth
    £7.99

  5. Gwag y Nos

    Gwag y Nos

    'Dim ond un rebel sydd ei angen er mwyn gwneud gwahaniaeth. A ti ydy honno, Magi.' Yn 1867 mae bywyd yn anodd, ac os wyt ti'n dlawd mae’n uffern. Ers i Magi Bryn Melys symud i Wyrcws Gwag y Nos, mae hi wedi bod yn ddraenen yn ystlys Nyrs Jenat. Ond mae bod yn rebel yn beryglus, ac un bore mae pethau'n dechrau mynd o ddrwg i waeth i Magi. Mae'n amlwg bod rhywbeth mawr iawn o'i le yn y Wyrcws, ond pwy sydd ar fai? A fydd Magi'r rebel yn llwyddo i achub ei ffrindiau a datrys cyfrinach dywyll Gwag y Nos? Dyma ei stori hi ... Nofel antur Fictoraidd, llawn dirgel a plot sy’n parhau i droelli hyd at y diwedd! Mwy o wybodaeth
    £6.99

Set Ascending Direction

Grid List

21-25 o 25