COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

5 Eitem

  1. Branwen

    Branwen

    Mae’r llyfr hwn yn gynrychiolaeth graffig o ail gangen y Mabinogi, Branwen ferch Llŷr. Nod y llyfr yw cyflwyno plant a phobl ifanc i’r chwedl, ac i ail-ddweud y stori mewn ffordd weledol ac emosiynol i gynulleidfaoedd newydd gan ddefnyddio gwaith celf sy’n deillio o arteffactau hanesyddol go iawn.

    • Testun dwyieithog
    • Arlunwaith lliwgar, llachar a thrawiadol gyda chyfeiriadau cynnil at fywyd Celtaidd hynafol

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  2. Posau Bach

    Posau Bach

    Casgliad gwerthfawr o weithgareddau a phosau Mathemateg ar gyfer plant 6-11 oed yn bennaf.

    Llyfr dwyieithog y gellir ei lungopïo a'i ddefnyddio yn yr ysgol dan arweiniad athro neu yn y cartref gyda rhiant/gwarchodwr. Mae'r gweithgareddau yn gyfle i blant arbrofi gyda syniadau mathemategol newydd.

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

  3. Cyfres Stori Fawr: Noson Ddychrynllyd

    Cyfres Stori Fawr: Noson Ddychrynllyd

    Llyfr darllen enfawr gyda lluniau lliwgar a deialog fyrlymus. Mae Popi, Bethan a Chloe yn hapus iawn achos mae nhw'n mynd i barti...Ond mae ffrind newydd yn mynd gyda nhw. Pwy? Darperir geirfa ar gefn y llyfr ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Mwy o wybodaeth
    £7.50

  4. Mathiadur

    Mathiadur

    Geiriadur mathemateg sy'n diffinio dros 300 o'r geiriau mathemategol mwyaf allweddol ar gyfer disgyblion cynradd a Chyfnod Allweddol 2.

    Canllaw I ddisgyblion ddefnyddio iaith fathemategol gywir, nodiant, symbolau achonfensiynau wrth siarad am eu gwaith a'i egluro i eraill. Llyfr delfrydol ar gyfer plant, athrawon a rhieni.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  5. Help gyda Gwaith Cartref - Pecyn Llythrennedd CA2

    Help gyda Gwaith Cartref - Pecyn Llythrennedd CA2

    Pecyn o 4 llyfr gwaith cartref i gynorthwyo disgyblion Cyfnod Allweddol 2 gydau gwaith llythrennedd.

    Gair o eglurhad!
    Mae rhai o’r staplau yn y gyfres hon yn dangos olion tarneisio ar y clawr allanol yn unig. Mae’r tudalennau mewnol a’r cynnwys heb eu heffeithio. Rydym felly wedi gostwng y pris o £15.96 i £12.99. Gan ei bod yn gyfres mor boblogaidd rydym wedi penderfynu cynnwys y gyfres fel cynnig arbennig.

    Mwy o wybodaeth

    Regular Price: £15.96

    Pris Arbennig £12.99

Set Descending Direction

Grid List

5 Eitem