COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

21-30 o 40

  1. Pecyn Thematig Llythrennedd a Rhifedd: Dringo'r Ysgol - Cardiau

    Pecyn Thematig Llythrennedd a Rhifedd: Dringo'r Ysgol - Cardiau

    Pecyn cardiau thematig Cymraeg i hybu llythrennedd a rhifedd yn drawsgwricwlaidd ymysg disgyblion yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3. Maent hefyd yn cynnig cymorth i feithrin sgiliau meddwl ac asesu. Mwy o wybodaeth
    £13.00

  2. Môr-ladron - Llyfr Gweithgareddau a Sticeri

    Môr-ladron - Llyfr Gweithgareddau a Sticeri

    Ahoy! Dyma lyfr gweithgareddau dwyieithog fydd wrth ddant pob mor-leidr! Dewch i chwarae posau, arlunio, chwarae efo'r sticeri a mwy!Llyfr sy'n cynnig oriau o HWYL a chwarae creadigol. Mynd i barti mor-leidr? Dyma anrheg gwych i'r plant! Mwy o wybodaeth
    £3.99

  3. Ailddefnyddio ac Ailgylchu: Gwydr

    Ailddefnyddio ac Ailgylchu: Gwydr

    Cyfres sy'n dangos sut mae pobl o amgylch y byd yn ailddefnyddio ac yn ailgylchu rhai o adnoddau pwysicaf y byd. Mae'r llyfr yn cynnwys nifer o syniadau y gall plant eu gwneud yn y cartref neu'r ysgol. Rhan o'r gyfres Ailddefnyddio ac Ailgylchu sy'n cynnwys 5 llyfr gwahanol. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  4. Sgram! Cerddi Blasus

    Sgram! Cerddi Blasus

    Casgliad o gerddi blasus gyda lluniau lliwgar a deniadol. Ceir cerddi ar amryw o themu gwahanol gan gynnwys bwyd, dillad, teithio a'r tywydd. Ceir geirfa ar bob tudalen sy'n gwneud y casgliad yn addas ar gyfer dysgwyr yn ogystal a siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf. Mwy o wybodaeth
    £9.99

  5. Cyfres Stori Fawr: Yr Hen Dŷ

    Cyfres Stori Fawr: Yr Hen Dŷ

    Llyfr mawr llawn deialog fyrlymus a lluniau lliwgar. Darperir geirfa yng nghefn y llyfr ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

    Un diwrnod, mae Gwen ac Ifan yn mynd i'r hen dŷ sbwci yn Stryd y Coed. Mae rhywbeth yn cuddio yno ...

    Mwy o wybodaeth
    £14.99

  6. Spark Series: Heroes and Helpers

    Spark Series: Heroes and Helpers

    Llyfr i ysbrydoli darllenwyr yn cynnwys hanesion am arwyr ac arwresau o bob math. Mwy o wybodaeth
    £4.99

  7. Cyfres Spark - Sweet Success

    Cyfres Spark - Sweet Success

    Llyfr ffeithiol Saesneg am rai o bobl llwyddiannus ac enwog ym maes busnes o Gymru. Un o'r llyfrau o gyfres 'Spark', cyfres ysbrydoledig i blant sy'n profi bod modd i bawb lwyddo cyn belled a'u bod yn gweithio'n galed. Mwy o wybodaeth
    £4.99

  8. Straeon Morgan Wyn

    Straeon Morgan Wyn

    Pedair stori sydd yn ein cludo i fyd dychymyg Morgan Wyn. Rhwng cloriau lliwgar ei hoff lyfr cawn gwrdd a'r cawr caredig, hedfan rhwng y ser gyda Nain Aberdaron, cyn glanio ar blaned ryfedd. Yna, yn ol adref at Mam a Dad, lle mae syrpreis arbennig yn disgwyl Morgan Wyn. Llyfr darllen lliwgar sy'n cynnwys pedair stori wreiddiol. Mae'r llyfr hwn yn rhan o brosiect ehangach sydd yn cynnwys: CD-ROM gyda 8 gweithgaredd rhyngweithiol i ddatblygu sgiliau iaith disgyblion y Cyfnod Sylfaen, taflenni gweithgaredd du a gwyn sydd yn addas i'w llungopio o Syniadau am weithgareddau ymarferol ar gyfer y dosbarth i ddatblygu sgiliau llafar, sgiliau creadigol a sgiliau arsylwi'r disgyblion. Mwy o wybodaeth
    £4.20

  9. Mathiadur

    Mathiadur

    Geiriadur mathemateg sy'n diffinio dros 300 o'r geiriau mathemategol mwyaf allweddol ar gyfer disgyblion cynradd a Chyfnod Allweddol 2.

    Canllaw I ddisgyblion ddefnyddio iaith fathemategol gywir, nodiant, symbolau achonfensiynau wrth siarad am eu gwaith a'i egluro i eraill. Llyfr delfrydol ar gyfer plant, athrawon a rhieni.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  10. Spark Series: Exciting Entertainers

    Spark Series: Exciting Entertainers

    Llyfr i danio dychymyg darllenwyr o bob oed drwy gyflwyno ffeithiau am 12 o ddiddanwyr cyfoes enwog Cymru. Mwy o wybodaeth
    £4.99

Set Descending Direction

Grid List

21-30 o 40