COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Ascending Direction

Grid List

1-10 o 12

  1. Trwy'r Ffenestri

    Trwy'r Ffenestri

    Addasiad Cymraeg gan Manon Steffan Ros o Windows of the Mind gan Frank Brennan i ddysgwyr Cymraeg lefel Uwch.

    Dyma gasgliad o straeon byrion difyr a fydd yn siwr o wneud i chi feddwl. Dewch i adnabod cymeriadau cymleth, lleoliadau pell, a straeon fydd yn aros yn eich meddwl am amser maith.

    Rhan o gyfres Amdani. https://parallel.cymru/amdani/

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  2. Gêm Beryglus

    Gêm Beryglus

    Addasiad Cymraeg gan Pegi Talfryn o Man Hunt gan Richard MacAndrew ar gyfer lefel Canolradd.

    Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn enwog am ei harddwch naturiol a’r llwybrau cerdded. Ond mae’r lle yn cyrraedd y newyddion am reswm arall; mae pobl yn cael eu lladd yn yr ardal. A fydd Ditectif Arolygydd Cadog Williams a’i dîm yn gallu dod o hyd i’r llofrudd cyn iddo ladd eto?

    Rhan o gyfres Amdani, cyfres newydd o lyfrau darllen i oedolion sy'n dysgu Cymraeg. https://parallel.cymru/amdani/

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  3. Cyffesion Saesnes yng Nghymru

    Cyffesion Saesnes yng Nghymru

    Nofel i ddysgwyr Cymraeg, lefel Uwch, gan Sarah Reynolds. Rhan o gyfres Amdani.

    Ar ôl corwynt o garwriaeth, mae Katie newydd symud i Gymru yn adnabod neb ond Dylan, ei gŵr newydd sbon. Er addo y bydden nhw'n byw mewn tŷ enfawr gyda llawer o dir o'u cwmpas ... nid felly y mae pethau. Rhannu gwely sengl yng nghartref rhieni Dylan yw eu hanes, wrth i bawb ddysgu ymdopi â ddieithwraig ryfedd yn eu plith ... a hithau'n Saesnes hollol ddi-glem!

    Yn y nofel gomig hon, mae gan Katie lawer i ddysgu, am Gymru, y Gymraeg ac am ei gŵr newydd hefyd!

    https://parallel.cymru/amdani/ 

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  4. Yn ei Gwsg

    Yn ei Gwsg

    Nofel gan Bethan Gwanas i ddysgwyr Cymraeg lefel sylfaen.

    Mae Dafydd yn cerdded yn ei gwsg, ac un bore, mae'n deffro yn waed i gyd. Mae'n dilyn olion traed gwaedlyd allan o'r tŷ a thrwy'r pentref ac yn darganfod Mrs Roberts a'i zimmerframe ar ochr y ffordd wedi'i tharo gan gar. Pwy sydd wedi ei tharo? A fydd yr heddlu yn arestio'r person cywir?

    Rhan o gyfres Amdani. https://parallel.cymru/amdani/

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  5. Cofio Anghofio

    Cofio Anghofio

    Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Uwch. Stori deimladwy am ymdrech dwy chwaer i ddod i delerau â dementia eu mam, a'i effaith ar eu bywydau. Addasiad Cymraeg Elin Meek o Forget to Remember gan Alan Maley. Mwy o wybodaeth
    £8.99

  6. Y Llythyr

    Y Llythyr

    Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Canolradd. Ym mhentref bach Treddafydd yng Nghymoedd de Cymru, mae Megan a Huw yn dod yn gariadon. Ond a fydd eu cariad yn ddigon cryf i oroesi'r amgylchiadau? Mae marwolaeth, eu teuluoedd, a'r blynyddoedd ar wahân i gyd yn eu herbyn nhw. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  7. Wynne Evans - O Gaerfyrddin i Go Compare

    Wynne Evans - O Gaerfyrddin i Go Compare

    Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Mynediad. Bywgraffiad Wynne Evans. Darlun personol a gonest iawn o hanes Wynne a'i deulu, ei brofiadau fel tenor enwog, a'i ymdrech fel oedolyn i ddysgu Cymraeg. Mwy o wybodaeth
    £4.99

  8. Croesi'r Bont

    Croesi'r Bont

    Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr lefel Canolradd. Cyfrol o straeon byrion amrywiol sy'n llawn hiwmor, gan awdures sydd wedi dysgu Cymraeg ei hun. Ymysg y straeon mae stori antur a stori wyddonias. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  9. Teithio drwy Hanes

    Teithio drwy Hanes

    Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Sylfaen. Yn y llyfr hwn mae Jon Gower yn mynd â'r darllenydd i 30 o leoliadau sy'n gysylltiedig â hanes Cymru. Mae'n esbonio pam mae'r lleoliadau yn bwysig yn hanes Cymru, ac mae e'n disgrifio eu harddwch a'u naws yn ei ffordd arbennig ei hun. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  10. Blacmêl

    Blacmêl

    Llyfr gwreiddiol i ddysgwyr ar lefel Mynediad 1. Rhan o’r gyfres Amdani. Dyma stori newydd sbon yn dilyn Elsa Bowen y ditectif preifat. Bydd y llyfr hwn lefel yn is na’r gyfrol cyntaf yn y gyfres (Gangsters yn y Glaw). Yn ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr newydd sydd wedi dysgu 8 Uned.

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

Set Ascending Direction

Grid List

1-10 o 12