Yn llawn lluniau anhygoel o bobl, lleoedd a bywyd gwyllt, dyma atlas Cymraeg sy’n cynnig golwg gyffrous ar y byd heddiw. Rhwng y baneri lliwgar, y ffeithiau difyr a’r testun darllenadwy, mae Atlas Mawr y Byd yn llyfr gwych ar gyfer y cartref a’r ysgol.
Mwy o wybodaeth
Cyfieithiad gan Emyr Edwards o ddrama Tennessee Williams, The Rose Tattoo. Drama sy'n addas ar gyfer ysgolion, colegau a chwmnïau drama.
Er bod Rhith y Rhosyn yn cael ei hystyried yn gomedi, eto i gyd mae ynddi elfennau o drasiedi bywyd. Mae'n cydnabod pwer dinistriol unigrwydd ar modd y bydd pobl yn dianc rhag ymosodiadau'r bywyd cymdeithasol sydd o'u cwmpas, a'r un pryd yn cynnig ymsuddo mewn rhywioldeb fel ateb iw problemau personol.
Mwy o wybodaeth
Nodiadau adolygu ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio I Ble'r Aeth Haul y Bore? gan Eirug Wyn fel llyfr gosod TGAU.
Mewn un llyfr adolygu hwylus ceir - crynodeb o'r stori, plot ac adeiladwaith cymeriadau, themau, technegau, arddull esbonio, dyfyniadau pwysig, ymarferion a thasgau pwrpasol, cymorth ar sut i ateb cwestiynau arholiad.
Addas ar gyfer Haen Sylfaenol a Haen Uwch.
Mwy o wybodaeth
Out of stock