COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 127

  1. Ar Gof: Y lloer a’r sêr

    Ar Gof: Y lloer a’r sêr

    Yn y blwch mae tri llyfryn a phob un yn ddyfais i annog ein gallu i gofio. Maen nhw’n agor drwy gyflwyno pennill cyfan. Yna, gyda phob tudalen, mae rhai o eiriau’r llinellau’n diflannu. Bydd y bylchau a’r lluniau’n anogaeth i gofio’r geiriau coll ...

    Y cof. Un o’n doniau mwyaf pwerus fel pobl yw’r gallu i gofio. Fel unigolion, defnyddiwn ein cof i gyflawni ein bywyd beunyddiol. Ond mae’r cof hefyd yn creu cymdeithas. Y cof-ar-y-cyd sy’n caniatáu i ni berthyn i’n gilydd, ac mae cydgofio geiriau cerddi yn rhan bwysig o’r perthyn hwnnw. Mae Ar Gof yn gasgliad sydd â’r nod o’n cynorthwyo i gofio cofio.

    3 cyfrol wedi’u pecynnu mewn bocs. Fformat: Clawr meddal

    Dyma Mererid yn siarad am y cyhoeddiad ar Heno S4C!


    Mwy o wybodaeth
    £12.99

  2. 100 Geiriau, Lliwiau, Siapiau

    100 Geiriau, Lliwiau, Siapiau

    Diweddariad o lyfr bwrdd Geiriau, Lliwiau, Siapiau yng nghyfres 100. 

    Llyfr bwrdd cadarn sy'n cyflwyno geiriau, lliwiau a siapiau i blant ifanc.

    Dyddiad Cyhoeddi: Ionawr 2019

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  3. Bygs

    Bygs

    Cyfle i ddysgu am gannoedd o drychfilod difyr. Gyda darluniau a ffeithiau difyr, bydd plant wrth eu bodd yn dianc i fyd y chwilen, gwas y neidr, y neidr gantroed a sawl un arall! Mae'r llyfr hefyd yn dysgu plant sut i ddiogelu a gwarchod trychfilod. Mwy o wybodaeth
    £7.99

  4. Help gyda Gwaith Cartref: Darllen ac Ysgrifennu

    Help gyda Gwaith Cartref: Darllen ac Ysgrifennu

    Llyfr i gefnogi plant cynradd gyda'u sgiliau darllen ac ysgrifennu. Mwy o wybodaeth
    £3.99

  5. Help gyda Gwaith Cartref: Mwy o Sillafu

    Help gyda Gwaith Cartref: Mwy o Sillafu

    Ail lyfr i gefnogi plant cynradd gyda'u sgiliau sillafu.

    Gair o eglurhad!
    Mae rhai o’r staplau ar y llyfr hwn yn dangos olion tarneisio ar y clawr allanol yn unig. Mae’r tudalennau mewnol a’r cynnwys heb eu heffeithio. Rydym felly wedi gostwng y pris i adlewyrchu hynny sef o £3.99 i £2.99. Gan ei bod yn gyfres mor boblogaidd rydym yn parhau i gynnig y llyfr o fewn ein rhestr o gyhoeddiadau addysgol.

    Mwy o wybodaeth

    Regular Price: £3.99

    Pris Arbennig £2.99

  6. Help gyda Gwaith Cartref: Ffrangeg ...y pethau pwysig

    Help gyda Gwaith Cartref: Ffrangeg ...y pethau pwysig

    Llyfr gwaith Ffrangeg ar gyfer disgyblion sy'n dysgu'r iaith, er mwyn cefnogi gwersi iaith yn yr ysgol. Mwy o wybodaeth
    £3.99

  7. Help gyda Gwaith Cartref: Gwyddoniaeth - y llyfr adolygu 9+

    Help gyda Gwaith Cartref: Gwyddoniaeth - y llyfr adolygu 9+

    Llyfr adolygu Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion oedran 9+. Mwy o wybodaeth
    £3.99

  8. Help gyda Gwaith Cartref: Ffrangeg cyntaf

    Help gyda Gwaith Cartref: Ffrangeg cyntaf

    Llyfr gwaith Ffrangeg ar gyfer disgyblion sy'n dechrau dysgu'r iaith, er mwyn cefnogi gwersi iaith yn yr ysgol. Mwy o wybodaeth
    £3.99

  9. Help gyda Gwaith Cartref: Ysgrifennu

    Help gyda Gwaith Cartref: Ysgrifennu

    Llyfr i gefnogi plant gyda'u gwaith ysgol, i fagu hyder ynddynt ac i atgyfnerthu eu dealltwriaeth o sgiliau sylfaenol Llythrennedd, yn arbennig elfennau Ysgrifennu ar gyfer plant cynradd. Cynhwysir sticeri i'w gludo sy'n helpu'r plentyn i feithrin sgiliau adnabod a deall, ac mae'r is-destun Saesneg yn galluogi rhieni di-Gymraeg i helpu eu plant.

    Gair o eglurhad!
    Mae rhai o’r staplau ar y llyfr hwn yn dangos olion tarneisio ar y clawr allanol yn unig. Mae’r tudalennau mewnol a’r cynnwys heb eu heffeithio. Rydym felly wedi gostwng y pris i adlewyrchu hynny sef o £3.99 i £2.99. Gan ei bod yn gyfres mor boblogaidd rydym yn parhau i gynnig y llyfr o fewn ein rhestr o gyhoeddiadau addysgol.

    Mwy o wybodaeth

    Regular Price: £3.99

    Pris Arbennig £2.99

  10. 100 Rhifau Cyntaf

    100 Rhifau Cyntaf

    Llyfr bwrdd deniadol a dwyieithog sy'n cynorthwyo plant i ddysgu rhifau a dechrau cyfri.

    Mae'r tudalennau lliwgar yn cynnwys delweddau o fwydydd, teganau, planhigion, anifeiliaid - pob math o bethau difyr i annog y plant i gyfri! Mae'r rhifau wedi eu hysgrifennu yn y Gymraeg a'r Saesneg ac hefyd i'w gweld fel rhifolion. Anrheg poblogaidd iawn!

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 127