COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 19

  1. 100 Rhifau Cyntaf

    100 Rhifau Cyntaf

    Llyfr bwrdd deniadol a dwyieithog sy'n cynorthwyo plant i ddysgu rhifau a dechrau cyfri.

    Mae'r tudalennau lliwgar yn cynnwys delweddau o fwydydd, teganau, planhigion, anifeiliaid - pob math o bethau difyr i annog y plant i gyfri! Mae'r rhifau wedi eu hysgrifennu yn y Gymraeg a'r Saesneg ac hefyd i'w gweld fel rhifolion. Anrheg poblogaidd iawn!

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  2. Lles Emosiynol: Llawlyfr Myfyriwr

    Lles Emosiynol: Llawlyfr Myfyriwr

    Mae Lles Emosiynol yn cynnig cyfle i bobl ifanc gymryd cyfrifoldeb am eu lles emosiynol eu hunain mewn byd sy'n newid. Mae'r llyfr yn cynnwys adrannau pwrpasol syn delio materion fel straen,cymhelliant, rheoli dicter a delio dylanwad cyfoedion. Mwy o wybodaeth

    Regular Price: £6.99

    Pris Arbennig £4.99

  3. Iechyd a Lles Emosiynol

    Iechyd a Lles Emosiynol

    Defnyddir dulliau wedi'u seilio ar weithgareddau ymarferol er mwyn hyrwyddo datblygiad sgiliau personol a chymdeithasol. Mae'r adnodd yn delio gyda materion difrifol sy'n wynebu myfyrwyr yn eu harddegau heddiw, megis straen, bwlio a delwedd y corff. Mae deunydd ategol ar wahân ar ffurf CD ar gael ar gyfer tiwtoriaid ac athrawon. Mwy o wybodaeth

    Regular Price: £6.99

    Pris Arbennig £4.99

  4. Mae'n Iawn Bod yn Wahanol

    Mae'n Iawn Bod yn Wahanol

    Llyfr stori dwyieithog cafodd ei ddatblygu ar y cyd gyda Mudiad Ysgolion Meithrin.

    Bwriad 'Mae'n Iawn bod yn Wahanol' ydy ysbrydoli plant (ac oedolion!) i ddathlu'r gwahaniaethau rhwng un plentyn a'r llall, a thrwy hynny dderbyn pawb fel y maen nhw a meithrin hunanhyder.

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  5. Ailddefnyddio ac Ailgylchu: Papur

    Ailddefnyddio ac Ailgylchu: Papur

    Un o gyfres o lyfrau ffeithiol a gweithgareddau sy'n ysbrydoli plant i ailddefnyddio ac ailgylchu rhai o adnoddau pwysicaf y byd. Mae'r llyfr yn ffocysu ar bapur ac yn cyflwyno; Pam fod papur yn ddefnyddiol? Sut mae'n cael ei greu a'i ailgylchu? Ffyrdd gwreiddiol a dyfeisgar o ailddefnyddio papur. Gall pawb wneud gwahaniaeth. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  6. Ailddefnyddio ac Ailgylchu: Dillad

    Ailddefnyddio ac Ailgylchu: Dillad

    Cyfres sy'n dangos sut mae pobl o amgylch y byd yn ailddefnyddio ac yn ailgylchu rhai o adnoddau pwysicaf y byd. Rhan o'r gyfres Ailddefnyddio ac Ailgylchu sy'n cynnwys 5 llyfr gwahanol. Mae pob llyfr yn cynnwys syniadau ymarferol am yr hyn y gall plant ei wneud yn y cartref a'r ysgol. Mwy o wybodaeth
    £6.99

  7. Jig-so 1

    Jig-so 1

    Deunydd ffeithiol ac anllenyddol a fydd yn ysgogi trafodaeth ar yr amgylchedd, technoleg, troi'n wyrdd a byw yn iach. Mwy o wybodaeth
    £23.99

  8. Pecyn Cyfres BlinG

    Pecyn Cyfres BlinG

    Cyfres o chwe llyfr darllen ffeithiol a chyfoes ar gyfer disgyblion 10 i 14 oed. Llyfrau sy'n cyflwyno ffeithiau mewn ffordd anffurfiol, darllenadwy a difyr.

    Mae'r llyfrau'n ffocysu ar themu amrywiol o ddiddordeb i bobl ifanc megis y we a thechnoleg digidol, yr amgylchedd, mentro, pwyso a mesur, bywyd gwyllt mewn perygl, ac enwogrwydd.

    Mwy o wybodaeth

    Regular Price: £19.99

    Pris Arbennig £9.99

  9. Pecyn Contrasting Localities yn Saesneg

    Pecyn Contrasting Localities yn Saesneg

    Datblygwyd y pecyn hwn i gefnogi dysgu sgiliau Daearyddol yng Nghyfnod Allweddol 2. Mae'r pecyn yn cynnwys pedwar llyfr sy'n canolbwyntio ar bedwar lleoliad gwahanol; Botswana, Patagonia, Gwlad yr Ia, a Pharis. Mae'r pecyn hefyd yn cynnwys DVD o adnoddau ychwanegol a llawlyfr i athrawon. Nod y pecyn yw; Datblygu ymwybyddiaeth a synnwyr plant o le. Datblygu sgiliau daearyddol. Hybu sgiliau ymholi a meddwl. Hyrwyddo ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd a dinasyddiaeth fyd-eang a chefnogi Dysgu Annibynnol. Mwy o wybodaeth
    £43.98

  10. Bwyta'n Iach: Hwyl wrth Goginio!

    Bwyta'n Iach: Hwyl wrth Goginio!

    Llyfr sy'n cynnwys dros 100 o ryseitiau blasus sy'n hawdd eu dilyn.

    Mae'n cynnig cyngor ar sut i goginio hen ffefrynnau neu bryd gwahanol.Ceir gwybodaeth ar faetheg yn ogystal a ffeithiau diddorol.

    Mwy o wybodaeth

    Regular Price: £9.99

    Pris Arbennig £4.99

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 19