Pedair stori sydd yn ein cludo i fyd dychymyg Morgan Wyn. Rhwng cloriau lliwgar ei hoff lyfr cawn gwrdd a'r cawr caredig, hedfan rhwng y ser gyda Nain Aberdaron, cyn glanio ar blaned ryfedd. Yna, yn ol adref at Mam a Dad, lle mae syrpreis arbennig yn disgwyl Morgan Wyn. Llyfr darllen lliwgar sy'n cynnwys pedair stori wreiddiol. Mae'r llyfr hwn yn rhan o brosiect ehangach sydd yn cynnwys: CD-ROM gyda 8 gweithgaredd rhyngweithiol i ddatblygu sgiliau iaith disgyblion y Cyfnod Sylfaen, taflenni gweithgaredd du a gwyn sydd yn addas i'w llungopio o Syniadau am weithgareddau ymarferol ar gyfer y dosbarth i ddatblygu sgiliau llafar, sgiliau creadigol a sgiliau arsylwi'r disgyblion.
Mwy o wybodaeth